Venceslaus Ulricus Hammershaimb
Roedd Venceslaus Ulricus Hammershaimb, neu, gan amlaf, V.U. Hammershaimb (Sandavágur, 25 Mawrth 1819 - 4 Ebrill 1909) yn weinidog Protestannaidd Lutheraidd Ffaroaidd a oedd â'r rhinwedd o gyflwyno orgraffsafonol ar gyfer yr iaith Ffaroeg, a siaredir yn Ynysoedd Ffaro. Mae'r dull ysgrifennu Ffaroeg yn seiliedig ar ddull Islandeg Gwlad yr Iâ, ac fe'i cyflwynwyd ym 1846.
Venceslaus Ulricus Hammershaimb | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mawrth 1819 Sandavágur |
Bu farw | 8 Ebrill 1909 Copenhagen |
Dinasyddiaeth | Brenhiniaeth Denmarc |
Galwedigaeth | ieithegydd, llenor, gweinidog bugeiliol |
Plant | Hjalmar Hammershaimb |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Dannebrog, Decoration of the Cross of Honour of the Dannebrog |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Hammershaimb yn Sandavágur ar ynys Vágar, ynys yn Ynysoedd Ffaro. Roedd yn weinidog Lutheraidd yn Kvívík cyn ymgartrefu yn Nenmarc yn 1878. Yn ogystal â bod yn ieithydd, roedd Hammershaimb hefyd yn llenor gwerin ac yn frwd dros faledi lleol Ynysoedd Ffaro. Yn ystod y blynyddoedd 1847-48, ac eto ym 1853, dychwelodd i'r Faroes i astudio’r tafodieithoedd ac i gasglu’r baledi brodorol a’r llên gwerin, a gyhoeddodd ym 1851–55 o dan y teitl Færöiske Kvæder. Yn 1854, cyhoeddodd ramadeg Ffaroeg.[1]
Cyfraniadau ieithyddol
golyguYn ystod cyfnod Hammershaimb, ac am rhyw dri chan mlynedd yn gynt, bu'r Ynysoedd yn rhan o Deyrnas Denmarc gyda'r iaith Daneg yn unig iaith swyddogol y wlad. Roedd hyn, ynghyd â phoblogaeth bychan (llai na 10,000) [2] a thlawd iawn yr ynysoedd wedi golygu mai prin iawn iawn oedd yr enghreifftiau o lenyddiaeth ac ysgrifennu yn yr iaith Ffaroeg, oedd, erbyn hyn wedi ymbellhau oddi ar Hen Norseg ond yn fwy ceidwadol ei gramadeg a seineg na Daneg, er, dal yn brif ac unig iaith y werin bobl.[3]
Orgraff Safonnol
golyguHelpodd Hammershaimb i ddatblygu dull ysgrifennu Ffaroeg nad oedd hyd yn hyn yn cael ei safonni. Penderfynnodd Hammershaimb dynnu'n drwm a linach yr iaith fel iaith Sgandinafaidd Orllewinol, un o ddisgynyddion uniongyrchol yr Hen Norseg, ac felly hefyd â chysylltiad agos â Gwlad yr Iâ.
Felly, er gwaethaf y tarddiad cyffredin rhwng y drydedd ganrif ar ddeg a'r unfed ganrif ar bymtheg, esblygodd yr iaith yn sylweddol i ddod yn dafodiaith ar wahân, er ei bod yn dal i fod yn ddealladwy i'r hen Sgandinafia a gyda Norn, y dafodiaith Sgandinafaidd a siaredir yn Ynysoedd Erch.
Creodd Hammershaimb ei system sillafu ar gyfer Faroese ym 1846.[4] Roedd yn etymolegol, gyda'r llafariaid yn seiliedig ar Islandeg ysgrifenedig, yn hytrach na disgrifiadol yn ffonetig (fel yn Gymraeg er enghraifft.) Yn hyn o beth roedd yn debyg i syniadau William Salesbury ar greu orgraff y Gymraeg wrth iddo fynnu ysgrifennu geiriau fel eccles am eglwys a discipulon am disgybl(i)on er mwyn dangos tarddiad Lladin y geiriau. Er enghraifft, er y penderfynnodd arddel y llythyren Eth (Ð) am resymau etymolegol, nid oes ganddo ffonemau ynghlwm wrtho.[3] Yn hyn roedd Hammershaimb wedi derbyn cyngor arweinydd annibyniaeth Gwlad yr Iâ, Jón Sigurðsson, a oedd wedi gweld y llawysgrif ar gyfer ei "Bemerkninger med Hensyn til den Færøiske Udtale" (Nodiadau gyda Pharch at Ynganiad Ffaroeg); Roedd Hammershaimb o'r farn, er gwaethaf ei artiffisialrwydd, mai hwn oedd yr unig ddull a fyddai'n goresgyn problemau gwahanol dafodieithoedd yn yr ynysoedd.[1][5]
Cyfarfu orgraff Hammershaimb â rhywfaint o wrthwynebiad am ei gymhlethdod. Ym 1889, cynigiodd Jakob Jakobsen addasu system Hammershaimb i ddod â hi yn nes at yr iaith lafar, ond dadleuodd pwyllgor a oedd yn gyfrifol am ystyried y cynnig ym 1895 fân ddiwygiadau yn unig, ac arhosodd orgraff Hammershaimb mewn grym.[5] Yn 1886–91, cyhoeddodd Hammershaimb ei brif waith, Færøsk Anthologi; roedd yn ymgorffori cyfrif o'r ynysoedd a'u trigolion, amrywiaeth o ryddiaith a phennill yn yr iaith Ffaröeg, a gramadeg, ac yn yr ail gyfrol eirfa gan Jakobsen.
Roedd Hammershaimb yn nai ac yn edmygydd o'r ethnograffydd a'r casglwr caneuon a llên gwerin Ffaroeg, Jens Christian Svabo.
Llenyddiaeth mewn Ffaroeg
golyguDim ond ar ôl normaleiddio orgraff yr iaith y daeth llenyddiaeth ysgrifenedig genedlaethol newydd yn Ffaroeg yn bosibl. Hyrwyddwyd ei ddatblygiad gan gynnwrf cenedlaetholgar, a gyflymodd adfer y Løgting, Senedd Ffaro ym 1852, a diwedd monopoli masnach frenhinol Denmarc ym 1856. Yn ystod diwedd y 19g dechreuodd llenyddiaeth Ffaroeg gyfoes ymddangos ac ymddangosodd y papur newydd Ffaroeg cyntaf, Føringatíðindi yn 1890.[4] Daeth llenyddiaeth Ffaroeg ei hun ar ôl troad yr 20g. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, daeth Ffaroeg yn iaith swyddogol Ynysoedd Ffaro.[3]
Dolenni
golygu- Føroya Landsbókasavn Archifwyd 2008-09-15 yn y Peiriant Wayback
- Venceslaus Ulricus Hammershaimb. stamps.fo
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Oskar Bandle et al., The Nordic Languages: An International Handbook of the History of the North Germanic Languages, volume 2, Handbücher zur Sprach- und Kommunikationswissenschaft 22.2, Berlin/New York: Mouton de Gruyter, 2005, ISBN 978-3-11-017149-5, p. 1463.
- ↑ https://en.wikipedia.org/wiki/Demographics_of_the_Faroe_Islands
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Faroese 101: History at 101Languages.net
- ↑ 4.0 4.1 Faroese (Føroyskt) at Omniglot: Writing Systems & Languages of the World
- ↑ 5.0 5.1 Bandle et al., p. 1415.