Viv Huzzey
Roedd Viv Huzzey (24 Gorffennaf 1876 - 29 Awst 1929) yn asgellwr rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair o Gymru a chwaraeodd rygbi clwb i Gaerdydd yn yr undeb ac Oldham yn y gynghrair. Enillodd bum cap i Dîm Rygbi'r Undeb Cymru. Roedd Huzzey hefyd yn chwaraewr pêl fas Cymreig rhyngwladol.[3]
Enw llawn | Henry Vivian Pugh Huzzey[1] | ||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 24 Gorffennaf 1876 | ||
Man geni | Y Farteg | ||
Dyddiad marw | 16 Awst 1929 | (53 oed)||
Lle marw | Caerdydd | ||
Gyrfa rygbi'r gyngrair | |||
Safle | asgellwr | ||
Clybiau proff. | |||
Blynydd | Clwb / tîm | Capiau | (pwynt) |
1900-? | Oldham | ||
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Gyrfa'n chwarae | |||
Safle | asgellwr | ||
Clybiau amatur | |||
Blynyddoedd | Clwb / timau | ||
?-1895 1895-1900 |
C R Canton C R Caerdydd C R Sir Forgannwg | ||
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
1898–1899 | Cymru[2] | 5 | 16 |
Cefndir
golyguGanwyd Henry Vivian Pugh Huzzey yn Y Farteg, Sir Fynwy yn blentyn i Albert M. Huzzey, marsiandwr olew a Sarah (née Pugh) ei wraig. Pan oedd Huzzey tua 5 mlwydd oed symudodd y teulu i fyw i Dreganna, Caerdydd.[4]
Gyrfa tu allan i rygbi
golyguCyn 1995 roedd rygbi yn gêm amatur,[5] nid oedd hawl i chwaraewyr derbyn tâl am chwarae, gan hynny bu'n rhaid i'r chwaraewyr dilyn gyrfa amgen er mwyn ennill eu bywoliaeth. Hyfforddwyd Huzzey fel peiriannydd a fu'n gweithio yn y maes hyd 1898. Ym 1898 priododd â merch tafarn y Splotlands, blwyddyn yn ddiweddarach daeth yn landlord y Windsor Arms Hotel, yn ardal y Dociau.[6] Wedi symud i Oldham i chware rygbi proffesiynol bu'n cadw tafarn yno hefyd. Wedi dychwelyd i Gymru o Oldham fu'n cadw Tafarn y Grayhound ym Mhont-y-pŵl [7]
Gyrfa rygbi
golyguGyrfa clwb
golyguRoedd Huzzey yn asgellwr cyflym gyda record sgorio gref, ar gyfartaledd oddeutu ugain cais y tymor. Yn chwaraewr poblogaidd gweithiodd yn dda mewn partneriaeth â chwaraewr chwedlonol rygbi Cymru, Gwyn Nicholls, yng Nghaerdydd ac yn ddiweddarach i Gymru. Ym 1900 mewn cyfarfod cyffredinol o bwyllgor Clwb Rygbi Caerdydd, Nicholls a Huzzey oedd yr unig ddau enw a gyflwynwyd ar gyfer swydd capten ar gyfer y tymor nesaf. Nicholls oedd y capten y ddau dymor blaenorol, a Huzzey yn dirprwyo’n dda pan oedd Nicholls yn absennol.[8] Yn y cyfarfod, cyhoeddodd Nicholls ei fod yn tynnu ei enw yn ôl er mwyn caniatáu i Huzzey cael cyfle. Achosodd hyn i'r aelodau pwyso ar Nicholls i newid ei feddwl. Gwnaeth Nicholls hynny ac fe’i hailetholwyd. Teimlai Huzzey ei fod wedi ei fradychu gan y weithred, gan y credid y byddai Huzzey wedi cael ei ddewis fel arall. Wedi ei bechu'n arw symudodd i ogledd Lloegr ym mis Medi, gan ymuno â thim rygbi'r gynghrair Oldham.[9]
Gyrfa ryngwladol
golyguEnillodd Huzzey ei gap rhyngwladol cyntaf yn erbyn yr Iwerddon ar 18 Mawrth 1898 yn Limerick o dan gapteiniaeth Billy Bancroft. Hon oedd gêm gyntaf Cymru ar ôl eu halltudiaeth a achoswyd gan Achos Gould. Trechwyd yr Iwerddon gan Gymru o 11 pwynt i 3, gyda Huzzey yn sgorio un o'r ddau gais. Roedd yn ôl dros Gymru yn erbyn Lloegr ar 2 Ebrill ac er i Gymru golli, chwaraeodd Huzzey yn dda gan sgorio holl bwyntiau Cymru gyda chais a gôl adlam. Roedd Huzzey yn ôl y tymor nesaf ym Mhencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1899, ac yn y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr ar faes St Helen, Abertawe, roedd Cymru yn rhemp. Sgoriodd Willie Llewellyn bedwar cais yn ei gêm gyntaf, a sgoriodd Huzzey dau arall. Chwaraewyd dwy gêm ryngwladol olaf Huzzey yn erbyn yr Iwerddon a’r Alban ond roedd ar yr ochr a gollodd y ddwy ornest. Oherwydd ei benderfyniad i newid i gêm broffesiynol rygbi'r gynghrair, roedd wedi ei wneud ei hun yn anghymwys i’w ddewis mwyach.
Gemau rhyngwladol wedi'u chwarae
golyguCymru [10]
Pêl-fas
golyguYm 1908 trodd Huzzey allan dros Gymru yn y gêm bêl fas ryngwladol gyntaf i'w chware ym Mhrydain, a ymladdwyd rhwng Cymru a Lloegr. Chwaraewyd y gêm ar Faes yr Harlecwiniaid yng Nghaerdydd. Cymru oedd yn fuddugol gan ennill 122-114.[11] Yn nhîm Cymru ar y diwrnod hwnnw roedd dau chwaraewr arall o Glwb Rygbi Caerdydd, Jack 'Buzzer' Heaven a Charlie Spackman.[12]
-
Tîm pêl-fas Cymru 1908
Mae Huzzey yn y rhes ganol, 4ydd o chwith y sgrin
Teulu
golyguYm 1898 priododd Huzzey â Edith Mary Evans merch i dafarnwr. Bu iddynt bump o blant.
Marwolaeth
golyguBu farw yng Nghaerdydd yn 53 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Cathays.[13]
Llyfryddiaeth
golygu- Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Pen-y-bont: seren. ISBN 1-85411-262-7.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
- Budd, Terry (2017). That Great Little Team On The Other Side Of The Bridge:The 140 Year History of Canton RFC (Cardiff) Season 1876-77 to 2016-17. Penarth, Morgannwg: Beacon Printers Ltd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Toogood family tree
- ↑ Welsh Rugby Union player profiles[dolen farw]
- ↑ Parry-Jones (1999), tud 37.
- ↑ "Club History - Viv Huzzey". www.pitchero.com. Cyrchwyd 2021-02-01.
- ↑ world.rugby. "An open game: The story of how rugby union turned professional | World Rugby". www.world.rugby. Cyrchwyd 2021-02-01.
- ↑ Pearce, Walter Alfred (1899-01-21). "Viv Huzzey as Publican". Evening Express. Cyrchwyd 2021-02-01.
- ↑ Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1911 RG14/31896; Rhif: 34
- ↑ Parry-Jones (1999), tud 82.
- ↑ "HUZZEY THE WELSH INTERNATIONAL GOES NORTH - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1900-10-01. Cyrchwyd 2021-02-01.
- ↑ Smith (1980), tud 467.
- ↑ Lowry, Phillip J. (2010). Baseball's Longest Games: A Comprehensive Worldwide Record Book. McFarland. t. 99. ISBN 978-0-7864-4263-8.
- ↑ WalesOnline (2011-12-20). "How Huzzey proved a dual sport big hitter for Wales". WalesOnline. Cyrchwyd 2021-02-01.
- ↑ "Henry Vivian Pugh Huzzey (1876-1929) - Find A..." www.findagrave.com. Cyrchwyd 2021-02-01.