William David Owen

cyfreithiwr a newyddiadurwr
(Ailgyfeiriad o W. D. Owen)

Nofelydd Cymraeg oedd William David Owen (21 Hydref 18744 Tachwedd 1925), a ysgrifennai wrth yr enw W. D. Owen. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y rhamant hanesyddol Madam Wen.[1]

William David Owen
Ganwyd21 Hydref 1874 Edit this on Wikidata
Bodedern Edit this on Wikidata
Bu farw4 Tachwedd 1925 Edit this on Wikidata
Rhosneigr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Gynradd y Garth
  • Athrolys Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithiwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

 
Tŷ Franan, Bryngwran; man geni a magu W. D. Owen.

Ganed W. D. Owen yn "Nhŷ Franan", ychydig i'r gogledd-orllewin o bentref Bryngwran, ond ym mhlwyf Bodedern, Ynys Môn yn 1874.[2][3] Astudiodd yng Ngholeg y Normal, Bangor, ac aeth ymlaen i astudio'r gyfraith a daeth yn fargyfreithiwr. Aeth i weithio i Lundain ond bu'n wael iawn a bu'n rhaid iddo ddychwelyd adref i Fôn lle gweithiodd fel cyfreithiwr yn Rhosneigr am rai blynyddoedd. Dyma'r cyfnod pan aeth ati i lenydda. Bu farw ar 4 Tachwedd 1925, yn 50 oed.[4]

Gwaith llenyddol golygu

Cyhoeddodd ddwy nofel fel cyfres yn Y Genedl Gymreig, newyddiadur Cymraeg a gyhoeddid yng Nghaernarfon. Ni roddir llawer o sylw gan feirniaid heddiw i'r gyntaf, sef Elin Cadwaladr (1914), ond mae'r ail, Madam Wen (1914-1917) yn llyfr poblogaidd o hyd ac wedi ysbrydoli ffilm teledu a ddangoswyd ar S4C. Ymddengys fod yr awdur wedi tynnu ar draddodiadau lleol i lunio'r rhamant gyffrous a leolir ar yr ynys ganol y 18g. Yn ôl traddodiad yn ardal Bodedern, roedd ogof Madam Wen mewn hafn ar ochr Llyn Traffwll, ger Bodedern.[4]

Llyfryddiaeth golygu

Nofelau W. D. Owen golygu

  • Elin Cadwaladr (1914)
  • Madam Wen (1914-17) yn Y Genedl Gymreig; cyhoeddwyd fel llyfr gan Hughes a'i Fab (1925)

Erthyglau amdano golygu

  • Mairwen Gwynn Jones, "W. D. Owen", Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983).
  • R. Maldwyn Thomas, "W. D. Owen", Gwŷr Môn, gol. Bedwyr Lewis Jones (Y Bala, 1979)

Cyfeiriadau golygu

  1. Mairwen Gwynn Jones, 'W. D. Owen', Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983.
  2. Y Bywgraffiadur Arlein; gwybodaeth gan ei chwaer ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  3. Ffotograff o'r tŷ, a lleoliad ar wefan anglesey.info; Archifwyd 2016-08-10 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 15 Rhagfyr 2016.
  4. 4.0 4.1 R. Maldwyn Thomas, 'W. D. Owen', Gwŷr Môn (Y Bala, 1979).