Waka
Mae Waka yn gwch traddodiadol Maori o Seland Newydd.[1] ‘Waka'’ yw’r gair lluosog hefyd. Gwelir cychod tebyg, gyda enwau tebyg, dros Polynesia, gyda enwau tebyg,megis vaka, wa'a, neu va'a. Mae maint a phwrpas y cychod yn amrywio.
Math | canoe |
---|---|
Gwlad | Seland Newydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'u gwnaed yn wreiddiol o bren y goeden totara (Podocarpus totara).[2]
Darganfywyd y waka cynharaf ger Afon Anaweka yn Ardal Tasman. Adeiladwyd y waka tua 1400 yn Seland Newydd.[3]
Ers y 1970au, tua 8 weka, tua 20 medr o hyd, wedi cael eu hadeiladu i forio i rannau eraill y cefnfor.
Mae Waka taua yn golygu canw rhyfel. Gallent fod 40 medr o hyd, ac yn cario hyd at 80 o bobl[4] Fel arfer, mae ganddynt cerfiadau, ac yn dod o un boncyff[5]. Weithiau, mae un astell hir yn uchwanegu uchder i’r Waka, a weithiau mae astell arall yn cryfhau’r waka, fel Te Winika yn Amgueddfa Waikato.[6][7]
Yn draddodiadol, roedd Waka taua yn sanctaidd. Ni chaniatwyd bwyd wedi coginio arno. Roedd rhaidmynd ar y cwch wrth ei ochrau. Yn aml roeddent du neu wyn, gyda du yn cynrychioli marwolaeth. Y lliw arall oedd coch, i gynrychioli sancteiddrwydd. Weithiau gosodwyd waka taua ar ei ben er mwyn anrhydeddu arweinydd sy wedi marw.[8] Anelwyd Waka at ganol waka eu gelynion er mwyn ei gorfodi dan y dŵr. Digwyddodd rhywbeth tebyg i gwch Abel Tasman ym 1642, a bu farw 4 o’i forwyr.
Adeiladu Waka
golyguDarparid coeden Totara a threulid blynyddoedd yn paratoi am ei thorri. Mae totara’n bren ysgafn gyda chyfran uchel o olew, sy’n cadw’r pren yn iach. Tynnid rhisgl oddi ar un ochr y goeden, clirid y tir o’i chwmpas, a phlannid cnwd ar gyfer y gweithwyr. Ar ôl caneuon a gweddi, torrid y goeden gan ddefnyddio adze gosod tân ar waelod y goeden.
Adeiladid platfform a defnyddid “toki” (bwyell mawr) ar gyfer coeden fawr. Defnyddid y toki fel pendil a threulid wythnosau i ddod â’r goeden i lawr. Torrid y canghennau i gyd i ffwrdd, a siapid corff y waka. Wedyn tynnid y waka, yn pwyso tua 3-4 tunnell, i afon gyda raffau. Defnynnid boncyffion fel rholbrennau i hwyluso’r gwaith. Gorffenid siapio’r waka yn agosach i’r pentref i fod yn agosach at fwyd. Cymerid yr holl broses tua blwyddyn; os oedd damwain neu farwolaeth yn ystod y proses, ni fuasai’r waka’n cael ei orffen. Adeiladid waka mawr mewn darnau ac yn cael eu clymu gyda’n gilydd. Roedd ganddynt i gyd enwau.
Mae gan waka dueddiad i lenwi gyda dŵr tra chario llwyth mawr neu nifer sylweddol o bobl. Felly roedd angen aros am dywydd braf cyn adael y llan.
Crëwyd ffilm dogfen gan Uned Ffilm Cenedlaethol ym 1974 am adeiladu waka.[9] Cymerodd y broses 18 mis. Comisiynwyd y waka gan Frenhines Maori, Te Arikinui Dame Te Atairangikaahu. Adeiladwy y waka yn Tūrangawaewae Marae gan y cerfydd Piri Poutapu. Cyfarwyddwr y ffilm oedd David Sims.
Hwyliau traddodiadol
golyguNododd Abel Tasman bod 2 o’r waka sy wedi ymosod ar ei cychod yn cario hwyliau bychain gyda siap triongl.[10] O’r 1830au ymlaen, morwyr o Ewrop wedi eu disgrifio. Roeddent yn fach, gwnaethpwyd gyda llin neu lafrwyn, ac yn hawdd eu codi neu ollwng. Roedd yr hwybren a cheibren yn hir ond yn ysgafn; defnyddiwyd pren Tanekaha, a oedd yn syth, yn gryf ac yn ystwyth.
. Yn aml, gosodwyd plu ar ben yr hwyl, efallai i ddangos cyfeiriad y gwynt. Defnyddir y gwynt i hwylio gyda’r gwynt, byth yn ei erbyn, oherwydd ansyfodlogrwydd y waka; does ganddo cêl i’w syfodli. Yn achlysurol, roedd 2 hwyl ar waka mwy. Weithiau, roedd gan yr hwyl addurniad patrwmog. Roedd gan cychod yr Ynysoedd Marquesa hwyliau tebyg.
Technoleg
golyguWedi cyrhaeddiad James Cook ym 1769 a Marion Du Fresneym 1772, roedd haearn a dur ar gael i’r bobl Māori. Cyfnewidwyd pysgod rhwng y Māori a morwyr am hoelion miniog i gerfio pren. Cyrhaeddodd llawer o gychod o Ewrop ar ôl 1835, ac roedd cychod ar gael i’r Māori; roeddent yn fwy ymarferol na’r waka, a chafodd y Māori brofiad ohonynt tra gweithio ar gychod o gwmpas Seland Nwydd ac ar y Cyfanfor Tawel. Cyrhaeddodd 100 o gychod y Bae Ynysoedd ym 1839. Defnyddiwyd ychydig iawn o waka yn ystod Rhyfeloedd Seland Newydd. Suddwyd llawer ohonynt gan llywodraeth Seland Newydd ym 1863 ar Afon Waikato. Mae sawl erbyn hyn yn Amgueddfa Goffa Rhyfel Auckland.
Waka ar y cyfanfor
golyguRoedd hi’n bosibl padlo waka ar y cyfanfor, ond roeddent yn gyflymach wrth hwylio.
Yn ôl chwedlau, daeth pobl Polynesiadd yn defnyddio waka mawrion, ac efallai waka hourua, cychod gyda dau gorff. Adeiladwyd Te Aurere, waka hourua, ym 1992, yn defnyddio dullau a defnydd traddodiadol.[11] Mae’r waka wedi hwylio dros y Môr Tawel i Hawaii, Tahiti, Ynysoedd y Marquesas, Caledonia Newydd ac Ynys Norfolk, yn ogystal a hwylio o gwmpas Ynys y Gogledd sawl gwaith yn defnyddio dullau Polynesiano hwylio]].[12]
Waka ama (canw sadiwr)
golyguGwelwyd waka ama gan fforwyr gynnar o Ewrop, gan gynnwys Sydney Parkinson, arlunydd gyda James Cook ym 1769, a Johann Reinhold Forster, gwyddonydd gyda Cook ym 1773[13] Roedd waka ama wedi mynd erbyn dechrau’r 19fed ganrif, heblaw am hen hanesion ohonynt. Darganfuwyd dau hen sadiwr ar arfordir Horowhenua ac un arall yn Ogof Moncks ger Christchurch. Roeddent i gyd yn fach, yn awgrymu bod y cychod hefyd yn fach, ac yn cael eu defnyddio ar ddyfroedd lleol.
Dechreuodd rasio waka ama yn ystod y 1980au, yn defnyddio canwod wedi cynllunio yn Hawaii a Tahiti, ac mae rasio wedi dod yn fwy poblogaidd, yn aml yn ystod gwyliau diwylliannol yr haf.[14]
Defnydd arall
golyguDefnyddiwyd llafrwyn neu lin i adeiladu Waka weithiau, yn arbennig yn Ynysoedd Chatham. Yn 2009, crëwyd flyd o vaka moana gan Sefydliad Okeanos ac adeiladwyr cychod Salthouse, yn defnyddio Gwydr ffibr.[15] Rhoddwyd un ohonynt, yr Haunui, i Ymddiriedolaeth Mordeithio Te Toki.[16]
Atgyweiriwyd y waka taua Te Tuhono yn Amgueddfa Genedlaethol yr Alban gan y Maori George Nuku, yn defnyddio polymethyl methacrylêt.[17]
Ystyron eraill
golyguMae "waka" hefyd yn golygu ‘llestr’ neu ‘cerbyd’. Mae “waka huia” yn cyfeirio at llestr lle cedwir “taonga” (trysorau).[18]. Mae’n cyfeirio hefyd at ceir; mae waka-rere-rangi yn golygu ‘awyren’; mae waka hari hinu yn llong olew. "Te Manatū Waka" yw’r Gweinyddiaeth Trafnidiaeth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Tahana, Yvonne (18 Ionawr 2010). "Waka back and better than ever". The New Zealand Herald (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2011.
- ↑ "Story: Conifers – Tōtara group" (yn Saesneg). Te Ara - the Encyclopedia of New Zealand. Cyrchwyd 30 Medi 2012.
- ↑ ’An early sophisticated East Polynesian voyaging canoe discovered on New Zealand's coast’; cofnodion Academi Cenedlaethol Gwyddorion, 14 Hydref 2014, awduron Dilys A Johns a Geoffrey J Irwin, Yun K Sung
- ↑ [http://www.teara.govt.nz/en/waka-canoes/3 Gwefan Te Ara
- ↑ Gwefan y Herald Seland Newydd, 18 Ionawr 2010
- ↑ Taflen Amgueddfa Waikato
- ↑ Gwefan Amgueddfa Waikato[dolen farw].
- ↑ ’Stories without end’ gan Judith Binney, cyhoeddwr Llyfrau Bridget Williams:isbn=9781877242472
- ↑ Taahere Tikitiki - the making of a Maori canoe
- ↑ ’Dyddiadur Abel Tasman’; Cyhoeddwyr Random House, 2008
- ↑ Gwefan teaurere.org.nz, cyhoeddwr Te Tai Tokerau Tarai Waka
- ↑ Gwefan teaurere.org.nz, cyhoeddwr Te Tai Tokerau Tarai Waka
- ↑ ‘An Account Of A Voyage Round The World In The Years MDCCLXVIII, MDCCLXIX, MDCCLXX, and DCCLXXI gan Lieutenant James Cook, Commander of his Majesty's Bark the Endeavour; Cyhoeddwyr William Strahan a Thomas Cadell, Llundain
- ↑ Gwefan nzherald.co.nz; erthygl gan Michael Neilson:’ Waka ama race through Auckland retraces 800-year-old Tainui route’,8 Chwefror 2019
- ↑ "Gwefan sefydliad Okeanos". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-25. Cyrchwyd 2022-05-29.
- ↑ Gwefan tetokiwakahourua.org
- ↑ ’Gwefan y Journal of Conservation and Museum Studies Archifwyd 2022-06-09 yn y Peiriant Wayback
- ↑ Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Seland Newydd.