Wicipedia:Chwilio am erthygl

(Ailgyfeiriad o Wicipedia:Chwilio)

Mae yna nifer o ffyrdd gwahanol o gael gafael ar bwnc penodedig yn Wicipedia. Mae'r rhain yn cynnwys:

Y blwch chwilio golygu

Dyma'r ffordd hawsaf o ddarganfod erthygl yn Wicipedia. Yn syml, y cyfan sydd angen ei wneud yw i deipio'r chwiliad yn y blwch 'chwilio' ar ymyl chwith y dudalen, a chlicio ar 'Chwilio'. Yna fe ddaw tudalen sydd yn rhestru'r canlyniadau chwilio. Os gliciwch chi ar 'Mynd' yn lle hynny, fe fydd y safle yn chwilio am erthygl gyda'r un enw â'r term chwilio. Os nad yw'n bodoli, fe ddaw'r dudalen o ganlyniadau fel o'r blaen. O ganlyniad i brysurdeb ar y safle, ni fydd y dudalen canlyniadau ar gael bob tro. Isod fe welwch nifer o ganllawiau ar sut i gael y defnydd gorau o'r nodwedd chwilio.

Chwiliadau sylfaenol golygu

Mae chwilio am air yn dychwelyd rhestr o bob tudalen sy'n cynnwys y gair hwnnw. Mae geiriau sy'n cynnwys y gair a chwiliwyd amdano hefyd yn cyfrif, fel bod chwiliad am tref yn dychwelyd tudalennau sydd yn cynnwys 'trefi', 'pentref' a 'trefnu'.

Pan fyddwch yn chwilio am fwy nag un gair ar y tro, bydd y dudalen o ganlyniadau yn cynnwys rhestr o'r tudalennau sydd yn cynnwys pob un o'r geiriau a chwiliwyd amdanynt. Felly mae chwiliad am papur newydd yn dychwelyd pob tudalen sydd yn cynnwys y dau air 'papur' a 'newydd', mewn unrhyw drefn.

I chwilio am ymadrodd penodol, rhowch y chwiliad mewn dyfynnodau dwbl: mae chwiliad am "papur newydd" yn dychwelyd pob tudalen sydd yn cynnwys yr ymadrodd hwnnw.

I hepgor canlyniadau sy'n cynnwys gair arbennig, defnyddiwch y sumbol '-': mae chwiliad am papur -newydd yn dychwelyd pob tudalen sydd yn cynnwys y gair 'papur' heb y gair 'newydd'.

Er mwyn gwneud chwiliadau sydd yn cynnwys unrhyw un o'r geiriau, defnyddiwch yr ymadrodd 'OR' (mae'r priflythrennau yn hanfodol): mae chwiliad am du OR gwyn yn dychwelyd pob tudalen sydd yn cynnwys naill ai 'du' neu 'gwyn'.

Gallwch gyfuno chwiliadau trwy ddefnyddio cromfachau: mae'r chwiliad (te OR coffi) -"ffa coffi pawb" yn dychwelyd pob tudalen sydd yn cynnwys naill ai 'te' neu 'coffi', ond nid y rheini sy'n cynnwys yr ymadrodd 'ffa coffi pawb'.

Ydi priflythrennau o bwys? golygu

Wrth chwilio, nac ydyn (heblaw am 'OR', fel y soniwyd amdano uchod). Nid yw o bwys wrth wasgu'r botwm 'Mynd' chwaith - pe deipiwch 'Ynys enlli', 'Ynys Enlli' neu 'ynys enlli' fe ewch at yr erthygl 'Ynys Enlli'.

Llythrennau acennog golygu

Mae'r chwilydd yn ystyried bod llythrennau acennog yn wahanol i'r ffurfiau heb acen, fel bod chwiliad am 'mor' yn pallu chwilio am erthyglau sy'n cynnwys 'môr', er enghraifft. Os oes rhywun wedi creu tudalen ailgyfeirio i'ch hebrwng o'r term heb yr acen at yr erthygl gywir yna ni chewch drafferth, e.e. os teipiwch 'Gwydd Wyran' yn y bocs chwilio fe gyrhaeddwch yr erthygl 'Gŵydd wyran'. Ond os teipiwch 'Hyd' yn y bocs chwilio cewch chi ddim canlyniadau ar gyfer 'Hŷd' gan nad oes tudalen ailgyfeirio o 'Hyd' i 'Hŷd' i gael.

Os na chewch ganlyniadau ar gyfer y term heb acenion yna gallwch naill ai:

  • chwilio'r rhestrau o bob tudalen – gwelwch Pori pob tudalen isod, neu,
  • os oes amynedd gennych gallwch deipio côd HTML y llythyren acennog. Dyma'r rhai mwyaf cyffredin:
Llythyren
acennog
Teipiwch
 
û û
ù ù
ú ú
ü ü
ŵ ŵ
ŷ ŷ

Mae'r llythrennau a, e, i, ac o yn dilyn yr un patrwm ag u.

Os ydy'r rhaglen Draig To Bach ar eich cyfrifiadur gallwch deipio'r to yn uniongyrchol yn y bocs - gweler gwefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Treigladau golygu

Mae treigladau yn nodweddion yn yr iaith Gymraeg sy'n cymhlethu chwiliadau o gymharu â'r Saesneg. Yn ffodus, mae modd dygymod â hyn. Fe gofiwch bod modd chwilio am sawl ffurf gwahanol trwy ddefnyddio 'OR'. Felly, ar gyfer treigladau, gallwch chwilio am pentref OR bentref OR mhentref OR phentref er mwyn cael pob canlyniad posib am y gair 'pentref'.

Chwilio parthau golygu

Dim ond rhai parthau sy'n cael eu chwilio'n ddiofyn. Os ydych am chwilio'r holl barthau (gan gynnwys tudalennau sgwrs, nodiadau, ayb) teipiwch all: o flaen y geiriau y chwilir amdanynt. Os am chwilio parth arbennig teipiwch enw'r parth: o flaen yr enw.

Ar waelod y dudalen o ganlyniadau, fe welwch bod cyfle i chwilio o fewn sawl parth ar y tro trwy'r blwch 'Chwiliad uwch'. Fel rheol dim ond y prif barth sydd yn berthnasol, gan mai hwn yw'r parth sy'n cynnwys yr holl erthyglau. Os ydych wedi cofrestri fel defnyddiwr Wicipedia, gallwch newid eich dewisiadau er mwyn rhagosod y parthau y chwilir ynddynt yn ddiofyn.

Pori'r categorïau golygu

Mae tudalennau Wicipedia wedi eu dosbarthu i gategorïau ac is-gategorïau yn ôl pwnc. Nodir y categorïau hyn ar waelod yr erthygl. Pwyswch ar y cyswllt wici i'r categori i weld pa erthyglau eraill sydd yn trafod yr un math o bwnc, e.e. ar waelod y dudalen 'T. H. Parry-Williams' gwasgwch y cyswllt wici 'Beirdd Cymraeg' i weld cynnwys y categori hwnnw a mynd at yr erthyglau ar y beirdd Cymraeg eraill megis Gerallt Lloyd Owen.

  Gwyddoniaeth a Mathemateg

Bioleg · Cemeg · Ffiseg · Cyfrifiadureg · Gwyddorau Daear · Mathemateg

  Celfyddyd a Diwylliant

Barddoniaeth · Cerddoriaeth · Dawns · Eisteddfodau · Ffilm · Llenyddiaeth · Theatr

  Gwyddorau Cymdeithas ac Athroniaeth

Addysg · Crefydd · Economeg · Daearyddiaeth · Gwyddor Gwleidyddiaeth · Hanes

  Adloniant, Difyrweithiau a'r Cyfryngau

Coginio · Chwaraeon · Garddio · Hamdden · Newyddiaduraeth · Radio · Rhyngrwyd · Teledu

  Gwyddoniaeth Gymhwysol

Amaeth · Cyfathrebu · Cyfraith · Diwydiant · Llyfrgellyddiaeth · Peirianneg · Technoleg

  Pori'r Cynnwys

Y Cyfeiriadur · Yn nhrefn yr wyddor · Bywgraffiadau · Mynegai i'r categorïau · Rhestrau

Mae'r categorïau wedi eu trefnu'n goeden sydd yn ymledu o'r gwraidd 'Categorïau'. Gallwch fynd at y dudalen hon drwy'r cyswllt 'Categorïau' yn yr adran 'pori'r cynnwys' ar dudalen yr hafan. Neu gallwch bori rhestr y categorïau i gyd drwy bwyso'n gyntaf ar y cyswllt 'tudalennau arbennig' yn y panel llywio ar ymyl chwith pob tudalen, yna pwyso ar 'Categorïau tudalennau'.

Pori pob tudalen golygu

Mae rhestr o bob tudalen yn Wicipedia i gael y gellir ei bori. Gallwch fynd ato drwy:

  • wasgu'r botwm 'Tudalennau arbennig' sydd yn y ffrâm ar ymyl chwith y dudalen. Wedyn cliciwch ar 'Pob tudalen' ar y dudalen nesaf.
  • wasgu'r cyswllt 'yn nhrefn yr wyddor' yn yr adran 'Pori'r cynnwys' ar ochr dde'r Hafan.
  • wasgu'r cyswllt hwn: Pob tudalen.

Yna cliciwch ar yr ystod sydd yn cynnwys y gair rydych chi yn chwilio amdano, ac fe welwch restr yn nhrefn yr wyddor Saesneg. Mae llythrennau acennog yn dilyn z, e.e. mae 'Màs' a 'Mêl' ill dau yn dilyn 'Mytholeg'.

Peiriannau chwilio allanol golygu

Fe allwch chi ddefnyddio peiriannau chwilio allanol i chwilio am erthyglau yn Wicipedia, ond cofiwch nad fersiwn diweddaraf erthygl sydd yn cael ei storio gan y safleoedd yma. Dilynwch y cysylltiadau isod i chwilio trwy Wicipedia ar Google a Yahoo: