Wicipedia:WiciBrosiect Addysg/Erthyglau Drafft/Gwrachyddiaeth a Dewiniaeth yng Nghymru
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
BBC Bitesize | |
Effaith newid crefyddol yn ystod y 17eg ganrif - Achosion trosedd | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd y gred mewn gwrachyddiaeth a dewiniaeth yn eang. Am amser hir credwyd bod gwrachod a dewiniaid da a drwg.Credwyd bod gan wrachod a dewiniaid da pwerau iacháu a'r gallu i gadw ysbrydion drwg i ffwrdd. Ond dechreuwyd cysylltu dewiniaeth gyda’r syniad bod yna gytundeb neu berthynas gyda’r diafol. Honnwyd bod gwrachod yn derbyn eu pwerau oherwydd eu cysylltiad uniongyrchol gyda’r diafol. Erbyn diwedd y 15eg ganrif roedd gwrachyddiaeth a heresi yn cael eu gweld fel troseddau oedd yn achosi gofid a phryder i bobl. Oherwydd yr ofn oedd yn cael ei greu dechreuodd ymgyrch erlid a cheisio dileu gwarchyddiaeth yn llwyr o’r gymdeithas. Ar adegau yn ystod yr 17eg ganrif cychwynnwyd ‘hela’ gwrachod a dewiniaid, yn arbennig menywod.[1][2]
Erlid gwrachod
golyguDaeth erlid gwrachod yn arfer cyffredin drwy Ewrop a wnaeth arwain i lawer o fenywod yn cael eu cyhuddo o wrachyddiaeth, yn cael eu poenydio, eu profi a’u dienyddio. Roedd Matthew Hopkins yn un o helwyr gwrachod enwocaf Lloegr adeg y Rhyfel Cartref. Mae tystiolaeth yng nghofnodion Llys y Sesiwn Fawr wedi cael eu herlyn yng Nghymru.[1]
Achos Dorothy Griffith, 1656
golyguMae cofnodion Llys y Sesiwn Fawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth yn dangos tystiolaeth bod gwrachod wedi cael eu herlyn yn Sir y Fflint. Un ohonynt oedd yr achos yn erbyn Dorothy Griffith yn 1656. Yn yr achos cyntaf mai William Griffith, morwr o Bictwn, yn cyhuddo Dorothy Griffith o Lanasa o wrachyddiaeth. Nid oes modd gwybod bellach pam yn union y cafodd y cyhuddiad ei wneud, ond mae'n debyg fod hanes o wrthdaro rhwng y teuluoedd. Mae William Griffith, ei frawd Edward, Thomas Rodgers, tafarnwr, a'i wraig Margaret Bellis yn rhoi tystiolaeth yn yr achos yn erbyn Dorothy Griffith. Er mwyn amddiffyn Dorothy mai deiseb yn cefnogi Dorothy, wedi'i harwyddo gan un ar ddeg ar hugain o'i chymdogion, gan gynnwys aelodau amlwg o'r gymuned leol.
Achos Charles Hughes, 1690
golyguCododd digwyddiad arall ym mhlwyf Llanasa. Cyhuddwyd Charles Hughes, tenant i John Evans a mab i Hughe ap Edward, o niweidio gwartheg ei landlord yn dilyn anghydfod ynglŷn â thenantiaeth. Mae Hughe ap Edward yn rhoi tystiolaeth, ac fel yn achos Dorothy Griffith, deiseb yn ei gefnogi, wedi'i harwyddo gan un ar bymtheg o foneddigion lleol. Mae'n debyg nad aethpwyd yn bellach â'r achos yn erbyn Hughes.
Achos Anne Ellis, 1657
golyguYn Llannerch Banna cyhuddwyd Anne Ellis o wrachyddiaeth. Cardotwraig yn byw ar gyrion cymdeithas oedd Anne Ellis, ac fe'i cyhuddwyd o ddefnyddio dewiniaeth, da a drwg, yn erbyn anifeiliaid a phlant. Ynghyd â'i thystiolaeth ei hun ceir datganiadau gan chwech o'i chymdogion a chwnstabl. Cafodd Ellis ei rhyddhau'n ddiweddarach heb ddyfarniad yn ei herbyn.[1]
Dewiniaeth
golyguRoedd nifer sylweddol o bobl Cymru yn rhoi eu ffydd mewn dynion hysbys neu gonsurwyr er mwyn darganfod pwy oedd wedi dwyn eu heiddo. Credwyd bod y gallu a’r wybodaeth gan y dyn hysbys i wella pobl ac anifeiliaid yn ogystal â darganfod lladron ac eiddo oedd wedi ei ddwyn. Er bod y dystiolaeth yn dangos nad oeddent wedi cael llawer o lwyddiant yn y cyswllt yma roedd ffydd pobl yng nghymorth y dyn hysbys yn gryf. Gan fod cynifer yn credu ym mhŵer y dyn hysbys gallent weithiau gael eu cyhuddo eu hunain o’drosedd’. Digwyddodd hyn yn enghraifft John Price yn 1788 pan gafodd ei arian ei ddwyn. Holwyd am gymorth y dyn hysbys o Wrecsam, sef Robert Darcy, i helpu gyda’r ymholiadau. Yn ôl tystiolaeth achos llys cynharach roedd dyn o’r enw Edward Phillips wedi bod yn anhapus gyda safon gwaith ditectif Robert Darcy. Chwiliwyd Darcy yn euog o gymryd arian trwy dwyll ac fe gafodd dirwy.
Hyd yn oed erbyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd bobl yn gofyn y dyn hysbys am gymorth, er enghraifft, yn 1824 bu ffrindiau Thomas Jones o Lansanffraid Glyn Conwy yn trafod y syniad o fynd i ymgynghori gyda’r dyn hysbys, John Edwards, er mwyn darganfod pwy oedd wedi lladd Thomas Jones.[3]
Roedd swynion yn cael eu hysgrifennu mewn inc ar bapur o faint penodol a byddent fel arfer yn cael eu rholio a’u selio mewn potel. Byddent wedyn yn cael eu gosod uwchben drws neu’n cael eu claddu o dan y llawr. Darganfyddwyd un swyn o dan trawst yn Gelli Bach, Glyn Ceiriog a daethpwyd o hyd i swyn arall mewn tun oedd wedi ei osod yn wal beudy ar fferm ger Trefesgob, swydd Amwythig. Roedd y swynion yn dueddol i ddilyn fformiwla mewn cyfuniad o Saesneg a Lladin bratiog ac roedd tair rhan i’r swyn. Yn gyntaf, byddai gweddi yn gofyn am warchod y person dan sylw, aelodau o’r teulu, ac / neu ddiogelu anifeiliaid rhag pethau drwg. Yna galwyd ar Dduw, y Doethion a’r efengylwyr. Yn drydydd, ar waelod y swyn, byddai fel arfer dau arwydd hudol, sef abracadabra ar ffurf triongl a’i ben i waered ar y chwith, a chylch ar y dde gyda arwyddion planedol neu seryddol rhyngddynt.[4][5]
Teulu Harries
golyguUn o deuluoedd enwocaf Cymru yn ymarfer dewiniaeth gwyn oedd y dynion hysbys o ardal Caio, Sir Gaerfyrddin. Roedd John Harries, a fu farw yn 1839, o Bantcoy, Cwrtycadno, Sir Gaerfyrddin, yn astrolegwr ac yn feddyg. Roedd y teulu Harries yn enwog drwy Gymru a siroedd cyfagos dros y ffin yn Lloegr fel meddygon proffesiynol, llawfeddygon dawnus ac astrolegwyr medrus a oedd yn uchel eu parch yn y gymdeithas. Fe ddaethon nhw’n enwog am eu dawn i broffwydo’r dyfodol, darganfod eiddo a oedd ar goll neu wedi ei ddwyn, brwydro gwrachyddiaeth a chodi ysbrydion rhadlon ac o ganlyniad fe’u condemniwyd yn arw gan grefyddwyr y 19eg ganrif.
Dywedir bod John Harries yn guddio un o’i lyfrau dan glo, ac ond yn mentro ei agor unwaith y flwyddyn mewn coedwig ddiarffordd gerllaw, lle byddai’n darllen swynion amrywiol ohoni i alw ysbrydion. Mae’n debyg bod storm ddifrifol yn digwydd bob tro roedd y llyfr yn cael ei agor. Dyma sail y syniad bod pŵer y teulu’n deillio o’r gyfrol drwchus o swynion yma a oedd wedi ei rhwymo gan gadwyn haearn a 3 chlo. Sonia J. H. Davies yn ei lyfr Rhai o hen ddewiniaid Cymru a gyhoeddwyd ym 1901, mai’r unig lyfr a welodd yn ystod ei ymweliad â Chwrtycadno rai blynyddoedd ynghynt a oedd yn debyg i’r llyfr yma, oedd hen lyfr du gyda dau glo, maint Beibl teuluol, a oedd yn cynnwys offer meddygol amrywiol. Awgryma mai hwn oedd llyfr swynion John Harries oedd yn cynnwys nifer o swynion darluniadol ac arwyddion astroleg.
Dywedir bod John Harries wedi cael rhagargoel y byddai’n marw trwy ddamwain ar Fai yr 11eg 1839, ac er mwyn osgoi hyn, arhosodd yn y gwely drwy’r dydd. Er gwaethaf ei ymdrechion i osgoi yr anffawd roedd e’n rhagrithio i’w hunan aeth y tŷ ar dân yn ystod y nos a bu farw. Roedd Henry Gwynne Harries (c.1821-1849), mab John Harries, hefyd yn feddyg adnabyddus ac yn ‘dyn hysbys’. Fe’i bedyddiwyd ar y 7fed o Dachwedd 1821, a chafodd ef hefyd ei addysgu yn y Cowings, yna yn ysgol ramadeg Hwlffordd, ac mae’n bosib ei fod wedi astudio ym Mhrifysgol Llundain. Bu farw o’r ddarfodedigaeth ar 16 Mehefin 1849 yn 28 oed. Yr ail fab, John Harries, (c.1827-1863), oedd yr olaf o ddynion hysbys enwog Cwrtycadno.[6]
Gweler Hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Gwrachyddiaeth | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-04-07.
- ↑ "Effaith newid crefyddol yn ystod y 17eg ganrif - Achosion trosedd - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-07.
- ↑ Parry, Glyn. Naid i Dragwyddoldeb – Trosedd a Chosb 1700-1900. Aberystwyth: Llyfrgell Genelaethol Cymru. tt. t.15-16.
- ↑ "Abracadabra!". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2020-04-07.
- ↑ "Llyfr swynion John Harries, Cwrtycadno". Blog Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 2020-04-07.
- ↑ "Llyfr Swynion John Harries | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-04-07.