William Charles Williams

milwr Cymreig

Milwr Cymreig oedd William Charles Williams (15 Medi 1880 - 25 Ebrill 1915), a gafodd ei gyflwyno gyda'r Groes Fictoria, yr addurn milwrol uchaf am ddewrder yng ngwyneb y gelyn i aelodau lluoedd arfog y Gymanwlad a chyn-diriogaethau'r Ymerodraeth Brydeinig, yn dilyn ei farwolaeth ym Mrwydr Gallipoli yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.[1]

William Charles Williams
Gwn bwrdd llong UB-91, Cas-gwent
Ganwyd15 Medi 1880 Edit this on Wikidata
Stanton Lacy Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ebrill 1915 Edit this on Wikidata
Cape Helles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Fictoria Edit this on Wikidata
River Clyde ar lawr Traeth V, 18 Mai 1915

Bywgraffiad

golygu

Cefndir

golygu

Ganwyd ef yn Sandpits, Stanton Lacy, Swydd Amwythig, yn fab i William ac Elizabeth Williams.[2] Symudodd y teulu i Pinhoe yng Nghaerwysg, cyn ymgartrefu yng Nghas-gwent, Sir Fynwy, rhywbryd cyn 1891. Mynychodd Williams Ysgol Ramadeg Cas-gwent cyn ymuno gyda Gwasanaeth i Fechgyn y Llynges Frenhinol yn 1895.

Cafodd ei ddyrchafu'n Fachgen Dosbarth 1af yn 1896, yn llongwr cyffredin yn 1898, ac yn llongwr abl yn 1900.[3] Gadawodd y Llynges yn 1910 a trosglwyddodd i'r Fflyd Brenhinol Wrth Gefn. Rhwng 1910 a dechrau'r rhyfel yn 1914, bu'n gweithio yng Ngweithfeydd Orb Lysaght yng Nghasnewydd, a mae'n bosib iddo weithio am gyfnod byr fel heddwas gyda Heddlu Sir Fynwy.[2]

Y Rhyfel Byd Cyntaf

golygu

Ailymunodd Williams â'r Llynges yn 1914 yn dilyn dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar 25 Ebrill 1915, yn ystod y glaniad ar Draeth V, penrhyn Gallipoli, ar HMS River Clyde aeth Williams i gynorthwyo ei Gapten Edward Unwin i sicrhau'r cychod dadlwytho. Daliodd i'r rhaff am dros awr yn y dŵr wrth i'r gelyn parhau i saethu cyn iddo gael ei lladd.[2] Mae erthygl o'r South Wales Weekly Post ar ddydd Sadwrn 21 Awst 1915 yn disgrifio amgylchiadau ei farwolaeth: "Held on to a line, in the water, for over an hour under heavy fire until killed."[4] Roedd yn 34 mlwydd oed. Cafodd Williams ei ddisgrifio gan Gapten Unwin, fel y llongwr mwyaf dewr yr oedd erioed wedi adnabod.[5]

Ar ôl ei farwolaeth

golygu

Cafodd y Groes Fictoria ei gyflwyno i'w dad a'i llys-fam gan y Brenin Siôr V ym Mhalas Buckingham ar 16 Tachedd 1916 i gymeradwyo ei ddewrder.[2]

Nid yw'n wybod lle mae Williams wedi'i claddu. Mae'n bosib ei bod wedi'i gladdu mewn bedd heb ei farcio neu yn y môr. Mae ef wedi'i goffáu ar banel 8, cofeb morwrol Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn Portsmouth [1] ac ar wn a roddwyd i dref Cas-gwent gan y Brenin Siôr V wedi'r rhyfel.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 [1] Cofnod Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Williams, W. Alistair (2008). Heart of Dragon: the VCs of Wales and the Welsh regiments, 1914-82. Bridge Books. pp. 27-37.
  3. [2][dolen farw] Tystysgrif y Llongwr Abl W. C. Williams V.C., yn nodi ei wasanaeth gyda'r Llynges Frenhinol, Gathering the Jewels.
  4. [3] Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback"Nothing could stop such men", South Wales Weekly Post, 21 Awst 1915, p. 6, Cymru1914.org
  5. Snelling, Stephen (1995). VCs of the First World War: Gallipoli. Alan Sutton Publishing Ltd. p. 49.