William Cope, Barwn 1af Cope
Roedd William Cope, Barwn 1af Cope (18 Awst 1870 - 15 Gorffennaf 1946) [1], yn wleidydd Ceidwadol o Gymru a wasanaethodd fel AS Llandaf a'r Barri rhwng 1918 a 1929. Roedd hefyd yn nodedig fel chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol dros Gymru. Gwnaed ef yn farwnig ym 1928 a'i ddyrchafu i'r bendefigaeth fel y Barwn Cope ym mis Gorffennaf 1945.
William Cope, Barwn 1af Cope | |
---|---|
Ganwyd | 18 Awst 1870 y Rhath |
Bu farw | 15 Gorffennaf 1946 Llaneirwg |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb, gwleidydd, bargyfreithiwr |
Swydd | Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Matthew Cope |
Mam | Margaret Harrison |
Priod | Helen Shuldham |
Plant | Helen Margaret Letitia Cope, William Shuldham Cope |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Tîm rygbi'r undeb Prifysgol Caergrawnt, Blackheath F.C. |
Cefndir
golyguGanwyd Cope yn y Rhath, Caerdydd, yn fab i Matthew Cope o Laneirwg a Margaret (née Harrison) ei wraig.[2] Addysgwyd ef yn Ysgol Repton ac aeth i Goleg Clare, Caergrawnt ym 1888, gan raddio BA ym 1891 ac MA ym 1895.[3] Derbyniwyd ef i'r Deml Fewnol, ac ym 1894 galwyd ef i'r bar. Bu'n ymarfer fel bargyfreithiwr yn Llundain am oddeutu naw mlynedd.[4]
Disgrifiwyd ei dad, a fu farw ym 1933, mewn ysgrif goffa fel "arloeswr masnach lo De Cymru". Roedd yn gysylltiedig â Dociau Caerdydd, ac yn gadeirydd bwrdd Cwmni Glo Stêm Albion, a oedd yn rhedeg pwll glo'r Albion. Ymunodd William Cope â'r bwrdd ym 1907. Daeth y swydd i ben ym 1910, pan gymerodd y Cambrian Combine y cwmni drosodd.
Gyrfa wleidyddol
golyguGyda dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914, ymunodd Cope ag Iwmyn Morgannwg, gan godi i reng uwchgapten. Methodd brawf meddygol am wasanaeth milwrol dramor. Yn Etholiad Cyffredinol 1918, safodd dros y Blaid Geidwadol yn etholaeth Llandaf a'r Barri.[5] Roedd Llandaf a'r Bari yn sedd newydd a Cope oedd ei Aelod Seneddol gyntaf. Ym 1923 fe'i penodwyd yn un o Arglwydd Iau'r Trysorlys (teitl swyddogol chwipiaid plaid y llywodraeth), swydd a ddaliodd tan 1928, gyda seibiant yn ystod Llywodraeth Llafur byr 1924. Ym 1928 cafodd ei greu yn farwnig.[6]
Ar ôl symud o swyddfa'r chwipiaid penodwyd Cope yn Rheolwr yr Aelwyd Frenhinol, rôl yr ymgymerodd â hi am flwyddyn yn unig pan adawodd y llywodraeth ym 1929. Daliodd sawl swydd yn ei sir enedigol, Morgannwg. Roedd yn Ynad Heddwch, ac yn Ddirprwy Raglaw ac ym 1932 fe'i gwnaed yn Uchel Siryf Morgannwg. Yn 1933 urddwyd ef yn Gwnsler y Brenin. Ym mis Gorffennaf 1945 cafodd ei ddyrchafu i'r bendefigaeth fel y Barwn Cope, o Laneirwg yn Sir Fynwy.[7]
Gyrfa rygbi
golyguDaeth Cope i'r amlwg gyntaf fel chwaraewr rygbi pan chwaraeodd i Brifysgol Caergrawnt tra’n fyfyriwr. Ym 1891 chwaraeodd yn Y Gêm Rhyngolegol yn erbyn Prifysgol Rhydychen, gan ennill Crys Glas chwaraeon. O 1891 hyd at 1895 trodd Cope allan am ei glwb cartref Clwb Rygbi Caerdydd. Ar ôl gadael y brifysgol roedd yn cynrychioli'r tîm haen uchaf Lloegr Blackheath.[8] Yn ystod tymor 1891-1892 daeth Cope yn aelod o dîm gwahodd y Barbariaid yn ail flwyddyn eu bodolaeth.[9]
Bedair blynedd yn ddiweddarach, dewiswyd Cope i gynrychioli Cymru fel rhan o Bencampwriaeth y Pedair Gwlad 1896 mewn gêm yn erbyn yr Alban.[10] Daethpwyd â Cope i mewn i dîm a welodd newid mawr i'r garfan ar ôl gêm agoriadol drychinebus yn erbyn Lloegr. Ymatebodd y dewiswyr i sgôr 25-0 trwy ddewis pum cap newydd yn y pac. Roedd Cope yn un o'r aelodau newydd, a lwyddodd o dan arweiniad Arthur Gould, i guro'r Alban 6-0. Er gwaethaf y fuddugoliaeth, hon oedd unig gêm ryngwladol Cope. Cafodd ei ddisodli gan fod Arthur Boucher ar gael i ddychwelyd ar gyfer gêm nesaf y Bencampwriaeth.
Teulu
golyguPriododd William Cope â Helen Shuldham (bu farw 21 Ionawr 1961), merch Alexander Shuldham o Flowerfield, Swydd Derry, Iwerddon, ar 5 Medi 1900.[11] Bu iddynt ddau o blant.
Marwolaeth
golyguBu farw ym mis Gorffennaf 1946, yn 75 oed. Bu farw'r farwnigaeth a'r farwniaeth gydag ef, bu ei fab ac etifedd William Shuldham Cope marw yn Awstralia yn y blynyddoedd blaenorol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ESPN Sports Media Ltd WILLIAM COPE Wales adalwyd 2 Mawrth 2021
- ↑ "Cope, 1st Baron, (William Cope) (18 Aug. 1870–15 July 1946)". WHO'S WHO & WHO WAS WHO. doi:10.1093/ww/9780199540884.013.u224113. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "Cope, William (CP888W)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt.
- ↑ "SOUTH GLAMORGAN - The Glamorgan Gazette". Central Glamorgan Printing and Publishing Company Limited. 1916-12-15. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "Election Address Major William Cope - Barry Dock News". South Wales Advertising, Printing, and Publishing Company. 1918-12-13. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ The London Gazette:3 Mehefin 1928. Rhif: 33400. Tud. :4495
- ↑ The London Gazette:24 Gorffennaf 1945 Rhif:37193 Tud.:3835
- ↑ "FOOTBALL Cardiff v Blackheath - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1895-01-17. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ Nigel Starmer-Smith, The Barbarians (Macdonald & Jane's Publishers, 1977), t.219
- ↑ "The Welshmen's Victory - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1896-01-27. Cyrchwyd 2021-03-02.
- ↑ "WEDDINGS - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1900-09-06. Cyrchwyd 2021-03-02.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol dros Llandaf a'r Barri 1918 – 1929 |
Olynydd: Charles Ellis Lloyd |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: creadigaeth newydd |
Barwn Cope 1945–1946 |
Olynydd: marw |
Teitlau Anrhydeddus | ||
Rhagflaenydd: Syr Lewis Lougher |
Uchel Siryf Morgannwg 1933-1934 |
Olynydd: Thomas Edward Morel |