William Davies Evans
Fforiwr o Gymru oedd y Capten William Davies Evans (27 Ionawr 1790 – 3 Awst 1872). Yn ogystal â bod yn fforiwr enwog fe'i cofir fel dyfeisydd 'Gambit Evans' mewn gwyddbwyll.
William Davies Evans | |
---|---|
William Davies Evans, tua 1830. | |
Ganwyd | 27 Ionawr 1790 Penfro |
Bu farw | 3 Awst 1872 Oostende |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | chwaraewr gwyddbwyll |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Ganwyd Evans mewn ffermdy o'r enw Musland ym mhlwyf Llantydewi ger Hwlffordd, Sir Benfro. Aeth i'r môr yn ifanc gan wasanaethu ar longau'r Llynges Brydeinig nes daeth Rhyfeloedd Napoleon i ben yn 1815. Wedyn ymunodd â'r Gwasanaeth Post a dod yn gapten pacedlong yr Auckland a hwyliai rhwng Milffwrdd a Waterford yn Iwerddon. Nid oes neb yn siwr iawn ymhle y dysgodd chwarae gwyddbwyll ond mae'n debyg iddo ddyfeisio'r gambit enwog ar y teithiau unig rhwng Cymru ac Iwerddon.
Yn 1826, cerddodd y Capten Evans i mewn i Ystafelloedd Gwyddbwyll William Lewis yn St. Martin's Lane, Llundain a chynnig chwarae rhai o chwaraewyr gwyddbwyll cryfa'r dydd. Doedd Evans ddim yn adnabyddus fel chwaraewr gwyddbwyll, ond wedi iddo esbonio pam ei fod am eu chwarae llwyddodd i berswadio A. McDonnell i chwarae gêm yn ei erbyn. Roedd McDonnell yn un o'r chwaraewyr gorau gynhyrchodd Iwerddon erioed, ac un o'r cryfaf ym Mhrydain ar y pryd. Gorffennodd y gêm ar yr 20fed symudiad a Chapten Evans yn fuddugol. Dyma ddechrau 'Gambit Evans' sydd wedi cael ei ddefnyddio gan chwaraewyr fel Paul Morphy, Jan Timman, ac yn y 1990au gan Garry Kasparov, yn fwyaf arbennig mewn buddugoliaeth 25 symudiad yn erbyn Viswanathan Anand ym Mhencampwriaeth Goffa Tal yn Riga, 1995.
Ffynonellau
golygu- Iolo Jones a T. Llew Jones, A Chwaraei Di Wyddbwyll? (Gwasg Gomer, 1980), t. 43-45.