Yn 1826 cerddodd y Capten William Davies Evans, o Blwyf Sant Degwel ger Hwlffordd, i mewn i Ystafelloedd Gwyddbwyll William Lewis yn St. Martin's Lane, Llundain a chynnig chwarae rhai o chwaraewyr gwyddbwyll cryfa'r dydd. Doedd Evans ddim yn adnabyddus fel chwaraewr gwyddbwyll, ond wedi iddo esbonio pam ei fod am eu chwarae llwyddodd i berswadio A McDonnell i chwarae gêm yn ei erbyn. Roedd McDonnell yn un o'r chwaraewyr gorau gynhyrchodd Iwerddon erioed, ac un o'r cryfaf yn y Deyrnas Unedig ar y pryd. Gorffennodd y gêm ar yr 20fed symudiad a Chapten Evans yn fuddugol. Dyma ddechrau Gambit Evans sydd wedi cael ei ddefnyddio gan chwaraewyr fel Paul Morphy, Jan Timman, ac yn y 1990au gan Garry Kasparov, yn fwyaf arbennig mewn buddugoliaeth 25 symudiad yn erbyn Viswanathan Anand ym Mhencampwriaeth Goffa Tal yn Riga, 1995.

Gambit Evans
abcdefgh
8
a8 black rook
c8 black bishop
d8 black queen
e8 black king
g8 black knight
h8 black rook
a7 black pawn
b7 black pawn
c7 black pawn
d7 black pawn
f7 black pawn
g7 black pawn
h7 black pawn
c6 black knight
c5 black bishop
e5 black pawn
b4 white pawn
c4 white bishop
e4 white pawn
f3 white knight
a2 white pawn
c2 white pawn
d2 white pawn
f2 white pawn
g2 white pawn
h2 white pawn
a1 white rook
b1 white knight
c1 white bishop
d1 white queen
e1 white king
h1 white rook
8
77
66
55
44
33
22
11
abcdefgh
Gambit Evans
Enghraifft o'r canlynolAgoriadau gwyddbwyll, gambit Edit this on Wikidata
MathGiuoco Piano Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Rhan ochess terminology Edit this on Wikidata
Enw brodorolEvans Gambit Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ôl Reuben Fine, mae Gambit Evans yn her i'r Du gan fod yr amddiffynfa arferol (chwarae ...d6 a/neu ddychwelyd milwr y gambit) yn anoddach i'w chyflawni na gyda gambitau eraill. Cafodd Fine ei guro unwaith gan y gambit hwn mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Bobby Fischer, mewn dim ond 17 symudiad.[1])

Mae Gambit Evans yn gweithio fel pob gambit arall, sef bod un ochr yn cynnig darn (fel arfer gwerinwr) er mwyn ennill tempo neu safle. Yn Gambit Evans mae gwyn yn cynnig gwerinwr rheng b, a thrwy wneud hynny yn dod i reoli'r sgwariau canol a datblygu ymosodiad cryf ar f7 yn hwyrach yn y gêm. Dyma'r symudiadau: 1.e4 e5 2.Mf3 Mc6 3.Ec4 Ec5 4.b4... fel yn y llun, ac fel arfer ... Exb4 5 c3 Ea5. Os yw Du'n gwrthod 4..Exb4 mae'n colli tempo'n ofnadwy.

Yn y gêm wreiddiol rhwng Evans a McDonnell roedd un symudiad arall cyn b4 pan gastellodd y Capten Evans. Dyma'r gêm honno'n llawn: 1. e4 e5 2. Mf3 Mc6 3. Ec4 Ec5 4.0-0 d6 5.b4 Exb4 6.c3 Ea5 7. d4 Eg4 8. Bb3 Bd7 9. Mg5 Md8 10. dxe5 dxe5 11. Ea3 Mh6 12. f3 Eb6+ 13. Th1 Eh5 14. Cd1 Bc8 15. Cxd8+ Bxd8 16. Mxf7 Bh4 17. Bb5+ c6 18. Bxe5+ Td7 19. Be6+ Tc7 20. Ed6# 1-0 (mae aberth hyfryd gan Evans yn symudiad 15).

Ganed William Davies Evans mewn ffermdy o'r enw Musland Farm ym Mhlwyf Sant Degwel ger Hwlffordd, Sir Benfro. Aeth i'r môr yn ifanc gan wasanaethu ar longau'r Llynges Brydeinig nes daeth Rhyfeloedd Napoléon Bonaparte i ben yn 1815. Wedyn ymunodd â'r Gwasanaeth Post a dod yn gapten pacedlong yr Auckland a hwyliau rhwng Milffwrt a Waterford yn Iwerddon. Nid oes neb yn siwr iawn ymhle y dysgodd chwarae gwyddbwyll ond mae'n debyg iddo ddyfeisio'r gambit ar y teithiau unig rhwng Cymru ac Iwerddon.

Mae rhai yn dadlau mai yn 1827 ac nid 1826 y chwaraeodd Evans yn erbyn McDonnell.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Fischer vs. Fine, New York 1963".

Dolenni Allanol

golygu