William Edwards (peiriannydd)
Peiriannydd sifil o dde Cymru oedd William Edwards (bedyddiwyd 8 Chwefror 1719 – 7 Awst 1789). Yn ffermwr ar hyd ei oes, ac yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac yn gynghorydd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd hefyd, cafodd yrfa lwyddiannus fel cynllunydd ac adeiladydd pontydd yn ne a gorllewin Cymru.[1]
William Edwards | |
---|---|
Ganwyd | Chwefror 1719 Eglwysilan, Sir Forgannwg |
Bu farw | 7 Awst 1789 Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pensaer, ffermwr |
Ganed William Edwards ym mhlwyf Eglwysilan, Morgannwg, yn 1719. Roedd ei dad yn ffermwr a bu rhaid i'r mab weithio ar y fferm, felly ni chafodd lawer o addysg ffurfiol. Bu ganddo ddawn at adeiladu pethau ar y fferm ac yn nes ymlaen symudodd i Gaerdydd lle cafodd waith yn codi gefeiliau gof. Yn y dref honno dysgodd ei dipyn Saesneg.
Daeth ei gyfle mawr yn 1746 pan ymgymerodd â'r gwaith o godi pont ar afon Taf yn ei blwyf genedigol, ym mhentref bychan (y pryd hynny) Pontypridd.[2] Golchwyd y bont, a godwyd ar bentanau, i ffwrdd gan y llif ar ôl glaw trwm ddwy flynedd yn ddiweddarach. Roedd Edwards wedi addo y byddai'r bont yn sefyll am saith mlynedd ac felly aeth ati i'w hail-godi. Pont un bwa oedd hon, ond yr un fu ei thynged oherwydd gormod o bwysau. Hyd yn hyn roedd wedi dilyn cynlluniau pobl eraill, ond ail-ddechreuodd ar y gwaith â chynllun o'i eiddo ei hun. Cadwodd at y cynllun o bont un bwa ond y tro yma tyllodd yr ystlysau i leihau'r pwysau mawr a safodd. Pan orffenwyd y bont yn 1755 dywedwyd mai hi oedd y bont un bwa fwyaf a harddaf yn y byd.
Mewn canlyniad daeth William Edwards yn enwog a bu galw mawr am ei wasanaeth. Cododd sawl pont arall, dros afon Tywy ac afon Wysg, yn Llanymddyfri, Aberafan, Y Betws a'r Clas-ar-Wy. Honnai fod ei gynllun arbennig o adeiladu yn dod o sylwi'n fanwl ar adeiladwaith Castell Caerffili.
Hyd ei ddyddiau olaf parhaodd i ffermio ar fferm y teulu a gwasanaethu fel gweinidog. Bu farw yn 1789 gan adael chwech o blant ar ei ôl. Cododd un o'i feibion, Dafydd, bont Llandeilo a phont Casnewydd.
Ffynhonnell
golygu- John James Evans, Cymry Enwog y Ddeunawfed Ganrif (Gwasg Aberystwyth, 1937), tt.200-201
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, John Morgan Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I; pennod X-Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf tud 228-9
- ↑ William Edwards yn Y Bywgraffiadur Arlein LlGC