William Goldman
Sgriptiwr ffilmiau, nofelydd a dramodydd o'r Unol Daleithiau oedd William Goldman (12 Awst 1931 – 16 Tachwedd 2018).
William Goldman | |
---|---|
Ganwyd | 12 Awst 1931 Highland Park |
Bu farw | 16 Tachwedd 2018 Manhattan |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, dramodydd, sgriptiwr, sgriptiwr ffilm, nofelydd |
Adnabyddus am | The Princess Bride |
Arddull | theatre, llenyddiaeth plant |
Plant | Jenny Rebecca Goldman, Susanna Goldman |
Gwobr/au | Gwobr Urdd Awduron America, Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Wreiddiol, Gwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Addasedig, Gwobr Edgar, Gwobr Hugo am y Cyflwyniad Dramatig Gorau |
Plentyndod ac addysg
golyguGanwyd William ym maestref Highland Park ger Chicago, Illinois, yn fab i Maurice Goldman a'i wraig Marion (Weil gynt). Dyn busnes ac alcoholig oedd Maurice, a laddodd ei hunan pan oedd William yn 15 oed.[1] Mynychodd Coleg Oberlin yn Ohio, ac weddi iddo ennill ei radd yn Saesneg yn 1952 symudodd i Ddinas Efrog Newydd i astudio ym Mhrifysgol Columbia. Derbyniodd ei radd meistr yn ysgrifennu creadigol yn 1956.
Gyrfa lenyddol
golyguWedi iddo adael y brifysgol, roedd disgwyl gan Goldman iddo gychwyn ar yrfa fel ysgrifennwr copi. Rhodd y gorau i'r syniad honno pan lwyddodd i werthu ei nofel gyntaf, The Temple of Gold, yn 1957. Ysgrifennodd bedair nofel arall cyn iddo ymwneud â'r diwydiant ffilm: Your Turn to Curtsy, My Turn to Bow (1958), Soldier in the Rain (1960), Boys and Girls Together (1964), a No Way to Treat a Lady (1964).
Ysgrifennodd Goldman gweithiau i'r theatr hefyd, heb fawr o lwyddiant. Perfformiwyd dwy ohonynt, a gyd-ysgrifennodd gyda'i frawd James Goldman, ar Broadway am gyfnod byr: y ddrama Blood, Sweat, and Stanley Poole (1961) a'r sioe gerdd A Family Affair (1962).[2]
Gyrfa ffilm
golyguYn 1964, darllenodd yr actor Cliff Robertson y nofel No Way to Treat a Lady, a gofynodd i Goldman addasu'r nofel wyddonias Flowers for Algernon gan Daniel Keyes ar gyfer y sgrin fawr, a chytunodd yr awdur ar unwaith. Codwyd braw ar Goldman wrth iddo geisio ysgrifennu ei sgriptiau cyntaf, a chafodd ei ddiswyddo gan Robertson.[3] Cafodd brofiad cyd-ysgrifennu drwy Americaneiddio llinellau cymeriad Robertson ar gyfer y ffilm Masquerade (1965), a'i sgript gyntaf i gael ei derbyn oedd Harper (1966) yn seiliedig ar y nofel The Moving Target gan Ross Macdonald.
Trwy gydol y 1960au, gweithiodd Goldman ar sgript ffilm yn seiliedig ar hanes y lladron banciau Robert LeRoy Parker (Butch Cassidy) a Harry Longabaugh (y Sundance Kid). Tra'r oedd yn addysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Princeton yn 1967, llwyddodd i werthu'r sgript i stiwdio 20th Century Fox am $400,000, y swm uchaf bryd hynny.[3] Yn 1969 rhyddhawyd y ffilm, Butch Cassidy and the Sundance Kid, yn serennu Paul Newman a Robert Redford. Enillodd bedair Oscar, gan gynnwys gwobr i Goldman am y sgript wreiddiol orau. Roedd stori a chymeriadaeth Goldman yn rhoi gwedd "y Don Newydd", arddulliau Hollywood yn niwedd y 1960au, ar hen genre'r Gorllewin Gwyllt.[1]
Enillodd Goldman ei ail Oscar, y wobr am y sgript orau wedi ei chyfaddasu, am y ffilm All the President's Men (1976), yn seiliedig ar y llyfr o'r un enw gan Bob Woodward a Carl Bernstein am sgandal Watergate. Ymhlith ei sgriptiau eraill yn y 1970au oedd The Stepford Wives (1975), yn seiliedig ar y nofel gan Ira Levin; Marathon Man (1976), addasiad o un o nofelau ei hunan ac yn serennu Laurence Olivier a Dustin Hoffman; y ffilm ryfel A Bridge Too Far (1977), yn seiliedig ar y llyfr hanes gan Cornelius Ryan; a'r ffilm iasoer Magic (1978) gydag Anthony Hopkins, addasiad o un arall o nofelau Goldman.
Yn nechrau'r 1980au, derbyniodd Goldman llai o waith. Yn y cyfnod hwn, ysgrifennodd ei gofiant Adventures in the Screen Trade (1983). Daeth y llyfr yn hynod o boblogaidd ac yn fath o Feibl i sgriptwyr ifainc yn Hollywood. Cyflwynodd Goldman bortread llawn amheuon o fyd y sinema o'r tu mewn, gan ddadlau nad oes fformiwla arbennig neu reolau pendant ynglŷn â llwyddiant yn y diwydiant ffilm, er gwaethaf yr hyn a ddywedai'r asiantiaid, y cynhyrchwyr, a'r swyddogion hysbysebu. Mabwysiadwyd ei ddatganiad "NOBODY KNOWS ANYTHING" yn wireb gan genhedlaeth newydd Hollywood.[3]
Addasodd Goldman un o'i nofelau ar gyfer y sgrin fawr unwaith eto yn 1987, ac erbyn heddiw mae'r ffilm honno, The Princess Bride, yn glasur yn genre ffantasi ac yn ffilm gwlt. Ysgrifennodd y sgript am Misery (1990), yn seiliedig ar nofel gan Stephen King, ac Absolute Power (1997), ffilm gyffrous wleidyddol. Cyfrannodd hefyd, gyda sawl ysgrifennwr arall, at sgript y bywgrafflun Chaplin (1992). Ysgrifennodd cofiant arall, Hype and Glory (1990), sy'n ymdrin â'i brofiadau ym mhasiant Miss America a Gŵyl Ffilm Cannes, a chasgliad o ysgrifau am y diwydiant ffilm, The Big Picture: Who Killed Hollywood? (2000).
Bywyd personol
golyguPriododd y ffotograffydd Ilene Jones yn 1961, ac ysgarasant yn 1991. Cawsant dwy ferch, Jenny a Susanna. Yn ddiweddarach yn ei oes, cafodd Goldman berthynas â Susan Burden. Bu farw William Goldman yn Manhattan, Dinas Efrog Newydd, yn 87 oed o ganser y colon a niwmonia.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) "William Goldman obituary", The Guardian (16 Tachwedd 2018). Adalwyd ar 23 Tachwedd 2018.
- ↑ (Saesneg) William Goldman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Tachwedd 2018.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 (Saesneg) "William Goldman, Screenwriting Star and Hollywood Skeptic, Dies at 87", The New York Times (16 Tachwedd 2018). Adalwyd ar 23 Tachwedd 2018.