William Lowe (Uwchfrigadydd)

Roedd yr Uwchfrigadydd William Henry Muir Lowe CB (20 Hydref 18617 Chwefror 1944) yn swyddog yn y Fyddin Brydeinig. Bu'n gorchymyn lluoedd Prydain yn Nulyn yn ystod Gwrthryfel y Pasg 1916 ac ef derbyniodd ildiad y lluoedd gweriniaethol.[1]

William Lowe
Ganwyd20 Hydref 1861 Edit this on Wikidata
North-Western Provinces Edit this on Wikidata
Bu farw7 Chwefror 1944 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDe Affrica Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Milwrol Brenhinol, Sandhurst Edit this on Wikidata
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCydymaith Urdd y Baddon Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Cafodd Lowe eni yn Nhaleithiau'r Gogledd Orllewin, India, yn fab i William Henry Lowe swyddog yng ngwasanaeth sifil India, a Caroline Charlotte Muir. Cafodd ei addysg yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst, gan dderbyn comisiwn yn 7fed Gwarchodlu'r Marchfilwyr ym 1881.[2]

Priododd Lowe, Frances Broster (bu farw 29 Medi, 1942), ym 1895, gweddw Capten Robert Harry Johnson o'r 64ain Catrawd y Traed Filwyr, merch Francisco de Salvo, o Salerno, Sisili. Bu iddynt fab a merch Elizabeth, a ddaeth yn lleian. Bu eu mab, John yn swyddog yn y Fyddin Brydeinig a wasanaethodd gyda'i dad hefyd yng Ngwrthryfel y Pasg[3] ymladdodd John yn Gallipoli a'r Somme cyn mynd yn actor Hollywood o dan yr enw sgrin John Loder.[4]

Gyrfa golygu

India a Byrma golygu

Ym 1881 bu Lowe a 7fed Gwarchodlu'r Marchfilwyr yn ymladd yn Ymgyrch yr Aifft, lle fu'r Gwarchodlu yn rhan o Frigad 1af y Gwŷr Meirch o dan arweiniad y Cadfridog Syr Baker Russell. Bu Lowe yn cymryd rhan yn yr ymladd yn Kassassin, Brwydr Tel el-Kebir a'r orymdaith ar Gairo. Derbyniodd Medal yr Aifft a Seren y Khedive, a medal a gyflwynwyd gan Khedive Tawfiq i'r holl swyddogion a dynion bu'n cymryd rhan yn yr ymgyrch am ei wrhydri. Ym 1886, aeth Lowe i Byrma fel swyddog gwasanaeth arbennig i Dasglu Byrma Uchaf yn ystod cyfnod ymosodiadau gorila'r Trydydd Rhyfel Eingl-Byrma. Arhosodd ym Myrma hyd 1887, gan dderbyn Medal Cyffredinol Gwasanaeth India gyda dau glesbyn am ei wasanaeth. Cafodd ei ddyrchafu i reng Capten ym 1887 ac Uwchgapten ym 1892.

Ail Ryfel y Boer golygu

Ym 1899, cafodd Lowe ei ddyrchafu'n Is-gyrnol gan dderbyn awdurdod dros 7fed Gwarchodlu'r Marchfilwyr. O 1900 hyd 1902 dan arweiniad Lowe bu'r gatrawd yn bresennol yn y frwydr i gipio Pretoria a Brwydr Diamond Hill fel rhan o Ail Ryfel y Boer. Cafodd ei ddyrchafu'n Gyrnol er anrhydedd ym mis Tachwedd 1900. Bu cad lythyrau a danfonwyd gan yr Arglwydd Kitchener ar 8 Awst 1901 yn sôn sut fu'r Cyrnol Lowe a'i filwyr am hanner nos ar y 30 Gorffennaf, synnu trigolion ffermdy, gan lwyddo i ddal 11 o garcharorion arfog a oedd ym meddiant reifflau, bandoliers a cheffylau. [5] Cafodd Lowe ei grybwyll mewn cadlythyrau ddwywaith eto, gan yr Arglwydd Roberts ar 2 Ebrill 1901 ac eto gan yn yr Arglwydd Kitchener ar 23 Mehefin 1902. Derbyniodd Medal De Affrica'r Frenhines a Medal De Affrica'r Brenin.[6]

Gwasanaeth gartref golygu

Ymadawodd Lowe a 7fed Gwarchodlu'r Marchfilwyr ym mis Mawrth 1903 i ddod yn Swyddog Cyflenwi Cynorthwyol i Ardal Reoli Milwrol Deheubarth Prydain yr Ail Corfflu, gan gael ei ddyrchaf yn Gyrnol llawn. Ym mis Mai 1905, symudodd i Ardal Reoli Gogledd Prydain fel y Cyrnol yng ngofal cofnodion y marchogluoedd a swyddog staff yr Iwmyn Ymerodrol. Fe'i urddwyd yn Gydymaith Urdd y Baddon ym 1906. Aeth ar hanner cyflog ym mis Mawrth 1907, gan ymddeol yn llwyr o'r fyddin blwyddyn yn ddiweddarach.

Gwrthryfel y Pasg

Pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914, ail ymunodd Lowe â'r fyddin fel Arolygydd y Gŵyr Meirch, a chafodd ei benodi'n Rheolwr Frigâd y Gŵyr Meirch fel Brigadydd Cyffredinol ym 1915. Ef oedd arweinydd 3ydd Brigâd Gwarchodfa'r Gwŷr Meirch. Roedd y warchodfa yng Ngwersyll y Curragh, Swydd Kildare pan dorrodd Gwrthryfel y Pasg ar Dydd Llun 24 Ebrill 1916. Wedi cael ei hysbysu o'r Gwrthryfel dros y ffôn, gorchmynnodd ei frigâd i gyrchu i Ddulyn ar y trên.

Ar gyrraedd Dulyn yn oriau mân fore Mawrth, derbyniodd Lowe reolaeth dros holl luoedd Prydain yn y ddinas ac aeth ati i sicrhau llinell filwrol rhwng yr orsaf, Castell Dulyn a Choleg y Drindod, a thrwy hynny llwyddodd i rannu lluoedd y gweriniaethwyr i'r gogledd ac i'r de o'r afon.

Gorchymynnodd Lowe i danio ar Neuadd Liberty gyda gynnau maes o Goleg y Drindod. Lowe oedd yn gyfrifol am y gyflafan ymysg milwyr Prydain gan fynnu bod Catrawd Coedwigwyr Sherwood i barhau i gyrchu ar Bont Mount Street gyda chost uchel mewn bywydau ac anafiadau.

Ar ddydd Sadwrn, 29 o Ebrill ar ôl cael cynnig gan Nyrs Éilís Ní Fhearghail, cytunodd Lowe i drafod gyda'r arweinwyr os fyddent yn ildio yn ddiamod. Am 2.30 pm y diwrnod hwnnw, ildiodd Pádraig Pearse i Lowe.

Marwolaeth golygu

Dyfarnwyd y rheng anrhydeddus Uwchfrigadydd iddo pan ymddeolodd ym mis Mawrth 1919.

Bu farw Lowe yn Llundain ar 7 Chwefror, 1944, yn 82 mlwydd oed. Nid yw'r ysgrif goffa gynhwysfawr iddo a ymddangosodd yn The Times[2] na'r cofnod amdano yn Who was Who 1941-1950[1] yn crybwyll ei rôl yng Ngwrthryfel y Pasg.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 ‘LOWE, Maj.-Gen. William Henry Muir’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 adalwyd 19 Mawrth 2016
  2. 2.0 2.1 Obituary: Maj.-Gen. W.H.M. Lowe, The Times, 9 February 1944, p. 7.
  3. BBC, 1916 Easter Rising Gallery adalwyd 19 Mawrth 2016
  4. "HEDY LAMARR AND THE EASTER RISING". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-19. Cyrchwyd 2016-03-19.
  5. The London Gazette Publication date:15 November 1901 Issue:27377 Page:7371 adalwyd 19 Mawrth 2016
  6. Anglo Bore War 7th (Princess Royal's) Dragoon Guards adalwyd 19 mawrth 2016