William Morris Hughes
Bu William Morris Hughes, sy'n fwy adnabyddus wrth yr enw Billy Hughes (25 Medi 1862 – 28 Hydref 1952) yn brif weinidog Awstralia o 1915 hyd 1923.
William Morris Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 25 Medi 1862 Llundain |
Bu farw | 28 Hydref 1952 Sydney |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd |
Swydd | Prif Weinidog Awstralia, Attorney-General for Australia, Aelod o Tŷ'r Cynrychiolwyr, Awstralia, Member of the New South Wales Legislative Assembly, Minister for Foreign Affairs (Australia), aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o Tŷ'r Cynrychiolwyr, Awstralia, Aelod o Tŷ'r Cynrychiolwyr, Awstralia, Aelod o Tŷ'r Cynrychiolwyr, Awstralia, Attorney-General for Australia, Attorney-General for Australia, Attorney-General for Australia |
Plaid Wleidyddol | Plaid Lafur Awstralia, National Labor Party, Plaid Cenedlaetholwyr Awstralia, United Australia Party, Plaid Ryddfrydol Awstralia |
Priod | Mary Hughes |
Plant | Helen Beatrice Hughes |
Gwobr/au | Cydymaith Anrhydeddus |
llofnod | |
- Am bobl eraill o'r enw William Hughes neu Billy Hughes, gweler William Hughes.
Blynyddoedd cynnar
golyguGaned ef yn rhif 7 Moreton Place, Pimlico, Llundain, yn unig fab i rieni Cymreig; roedd ei dad, William Hughes, o Gaergybi a'i fam Jane o Lansanffraid-ym-Mechain, Powys. Wedi marwolaeth ei fam mewn damwain trên yn Glastonbury ar 28 Mai 1869, pan oedd yn saith oed, bu'n byw gyda'i fodryb ddibriod Mary Hughes, chwaer ei dad, yn Llandudno. Bu'n fyw yn ei chartref ym Mryn Rosa, 16 Abbey Road; ceir plac ar y tŷ sy'n cofnodi hynny.[1] Mynychai ysgol fechan George Roberts yn y dref, mewn adeilad a godwyd fel ysgol Capel Wesleyaidd Caersalem yn 1837; ceir hen blac ar y drws sy'n darllen "The Right Honourable William Morris Hughes, Premier of Australia 1916-23, was educated in this building".[2] Symudodd oddi yno i fyw gyda theulu ei fam yn Sir Drefaldwyn, lle gorffennodd ddysgu siarad Cymraeg.
Pan oedd yn 14 oed, dychwelodd i Lundain i weithio fel athro ifanc. Yn 1881, roedd yn byw gyda'i dad a chwaer hynaf ei dad, Mary Hughes, yn 78 Ffordd Vauxhall Bridge.
Awstralia
golyguYmfudodd i Awstralia yn Hydref 1884. Wedi peth gwaith fel cogydd a labrwr, agorodd siop a bu'n weithgar gyda'r undebau llafur. Roedd yn Sydney yn 1886 ble roedd yn byw gyda merch ei landlord, sef Elizabeth Cutts.
Yn 1901 etholwyd ef i'r Senedd dros y Blaid Lafur yn etholaeth Gorllewin Sydney. Yn y cyfnod hwn, astudiodd y gyfraith a chafodd ei wneud yn fargyfreithiwr yn 1903. Bu farw ei wraig yn 1906; ei ferch hynaf Ethel (ganwyd 1889) a fagodd ei bum plentyn iau, a hynny yn Sydney: William (1891), Lily (1893), Dolly (1895), Ernest (1897) a Charles (1899). Yn 1911 priododd Mary Cambell.[3] a ganwyd Helen iddynt yn 1915.
Prif Weinidog Awstralia
golyguDaeth yn Brif Weinidog yn Hydref 1915, ynghanol y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu rhwyg gyda charfan o'r Blaid Lafur, a ffurfiodd Hughes a'i gefnogwyr ei blaid ei hun, y Blaid Genedlaethol, a enillodd etholiad 1917, gyda Hughes yn parhau'n Brif Weinidog. Yn 1919 cynrychiolodd Awstralia yn y trafodaethau a arweiniodd at Gytundeb Versailles; dywedir ei fod yn sgwrsio yn Gymraeg gyda David Lloyd George. Ymddiswyddodd yn Chwefror 1923. Dyma ddisgrifiad un gohebydd papur newydd o Ffrainc ohono:
frail, narrow-shouldered, stooped, with the long, metallic face, seamed with lines, of a Breton peasant, at first he sits doubled up like a spider and lets others talk ... but suddenly he straightens out, darts forward his thin arms and the double trident of stretched out fingers and cuts through the flabbiness of the discussion with a word.[4]
Llyfryddiaeth
golygu- Booker, Malcolm. The great professional, a study of W.M. Hughes. McGraw Hill, Sydney, 1980.
- Browne, Frank C. They called him Billy, a biography of the Rt. Hon. W. M. Hughes, P.C., M.P.. Peter Houston, Sydney.
- Chase, Diana. William Morris Hughes: Prime Minister for the underdog. South Melbourne: Macmillan Education, 1993.
- Fitzhardinge, L.F. William Morris Hughes: a political biography. Dwy gyfrol. Angus and Robertson, 1964, 1979
- Horne, Donald Richmond. In search of Billy Hughes. Macmillan, 1979.
- Hughes, Aneurin. Billy Hughes: Prime minister and controversial founding father of the Australian Labor Party. John Wiley & Sons Australia, 2005.
- Iorwerth, Dylan. 'Billy Bach - cythraul mewn croen'. Golwg 6.6.1996, tt. 10-11.
- Sladen, D. From boundary rider to Prime Minister. Llundain, 1916.
- Whyte, W. Farmer. William Morris Hughes: his life and times. Angus and Robertson, 1957.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Ivor Wynne Jones, Llandudno, Queen of Welsh Resorts (ail argraffiad 2002), tud. 37.
- ↑ Ivor Wynne Jones, Llandudno, Queen of Welsh Resorts (ail argraffiad 2002), tud. 26.
- ↑ Gweler erthygl Saesneg arni hi a Hughes
- ↑ "Gweler erthygl Saesneg ar". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-15. Cyrchwyd 2008-12-28.
Dolenni allanol
golygu- BBC Cymru - Gogledd Orllewin Tudalen am Billy Hughes