Wiliam Phylip
Uchelwr a bardd o blas Hendre Fechan (neu 'Hendrefechan') yn Ardudwy, Meirionnydd (de Gwynedd) oedd Wiliam Phylip (1579 - Chwefror 1669). Mae'n bosibl, yn ôl rhai ffynonellau, ei fod yn perthyn i deulu barddol enwog Phylipiaid Ardudwy, ond does dim sicrwydd am hynny a cheir peth amheuaeth am ddilysrwydd y traddodiad.
Wiliam Phylip | |
---|---|
Ganwyd | 1579 |
Bu farw | Chwefror 1669 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywgraffiad
golyguGŵr bonheddig oedd Wiliam Phylip, a'i rieni wedi symud o dref Corwen i Ardudwy cyn ei eni. Bu fyw yn Hendre Fechan bron ar hyd ei oes. Roedd yn Frenhinwr a wrthwynebodd y Seneddwyr yng nghyfnod Rhyfel Cartref Lloegr. Roedd yn ffyddlon i'r Eglwys sefydlog ac yn casau'r Piwritaniaid a'r Catholigion fel ei gilydd.
Fel bardd, canai ar y mesurau rhydd yn hytrach na'r mesurau caeth traddodiadol. Nid oedd yn fardd proffesiynol ond mae safon ei gerddi yn uchel a cheir tinc personol anghyffredin mewn rhai ohonynt. Un o'r hoff fesurau oedd y ddyri.
Canodd farwnad i'r brenin Siarl I o Loegr ar ei ddienyddiad ac enillodd hynny elynion iddo. Bu rhaid iddo ffoi o'i gartref yn Hendrefechan yn y Rhyfel Cartref a chysgodi ym mryniau Ardudwy. Canodd foliant y brenin Siarl II pan adferywd y frenhiniaeth yn 1660. Yn 1670 canod Ffarwel i Hendre Fechan ar ffurf englynion:
- Yn lle fy Hendre hyndriol - a'r boen
- Yma i'r byd daearol,
- Mi gaf Hendref, wlad Nefol,
- Gan Dduw nef, ac ni ddo i'n ôl.[1]
Yn 92 oed, bu farw yn ŵr tlawd a'r Goron a etifeddodd ei eiddo - gan nad oedd ganddo etifedd. Cafodd ei gladdu ym mynwent eglwys Llanddwywe, Ardudwy, ar 11 Chwefror, 1669 : gwelir ei feddrod yno o hyd. Cedwir ar glawr cywydd marwnad iddo gan Phylip Siôn Phylip.
Llyfryddiaeth
golyguCyhoeddwyd rhai o gerddi Wiliam Phylip yn y cyfrolau Carolau a Dyrïau Duwiol a Blodeu-gerdd Cymry (1779).
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ twitter.co; adalwyd 12 Chwefror 2015
- Phylipiaid Ardudwy: erthygl yn y Bywgraffiadur Cymreig arlein (LlGC).