Phylip Siôn Phylip

Bardd proffesiynol o ardal Ardudwy, Meirionnydd, oedd Phylip Siôn Phylip (bu marw yn y 1670au).

Phylip Siôn Phylip
Ganwyd17 g Edit this on Wikidata
Bu farw1676 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Roedd yn un o'r teulu o feirdd o Ardudwy yn yr 16g a'r ganrif olynnol a adnabyddir fel Phylipiaid Ardudwy. Roeddent yn ddisgynyddion i ymsefydlwyr Normanaidd yn yr ardal yn y 12g ond cawsont eu cymathu i'r gymdeithas Gymreig o'u cwmpas. Mae'r Phylipiaid yn cynrychioli to olaf Beirdd yr Uchelwyr, y beirdd proffesiynol a ganai i uchelwyr Cymru yn yr Oesoedd Canol Diweddar a dechrau'r Cyfnod Modern. Arferent fynd ar deithiau clera gan ymweld ac aelwydau mawr gogledd Cymru. Mae eu gwaith yn ddrych i gymdeithas y cyfnod a'r newidiadau a welwyd.

Phylipiaid Ardudwy golygu

Roedd Phylip Siôn yn fab i'r bardd Siôn Phylip ac yn frawd i fardd arall yn y teulu, sef Gruffudd Phylip, a ystyrir yn un o'r clerwyr olaf. Dim ond pedawr o'i gerddi sydd ar glawr heddiw, yn cynnwys cywydd marwnad i Morys Wyn (Maurice Wynne) o'r Glyn (Hydref, 1673). Roedd cyfnod blodeuo'r teulu'n ymestyn o 1543, dyddiad geni Siôn Phylip, hyd at 1678, sef y flwyddyn y profwyd ewyllys Phylip Siôn Phylip ei fab.

Redd y brodyr Siôn a Rhisiart, a'r brodyr Gruffydd a Phylip Siôn, yn canu yn y mesurau caeth, gan mwyaf. Gwyddem hefyd drwy eu canu mai clerigwyr oedd Siôn, Rhisiart a Gruffydd. Yn y mesurau rhydd y canodd William Phylip gan mwyaf, ac nid oedd yn clera. Canodd Siôn, a'i fab Gruffydd ar ei ôl, lawer i Fychaniaid Corsygedol, ac yr oedd Rhisiart yn fardd teulu Fychaniaid Nannau. Ond nid i deuluoedd Sir Feirionnydd yn unig y canai'r tri bardd. Bu i bob un o'r tri athro barddol a ‘graddiodd’ Siôn yn ail eisteddfod Caerwys, 1568; yr oeddent hefyd yn achyddwyr da. Yr oeddynt ymhlith y clerwyr diwethaf yng Nghymru a phan fu Gruffydd farw yn 1666 fe'i galwyd ‘y diweddaf o'r hen feirdd.’

Cyfeiriadau golygu