Phylipiaid Ardudwy

grwp o feirdd Cymreig

Teulu o feirdd o ardal Ardudwy, Meirionnydd (de Gwynedd) yn yr 16g a'r ganrif olynnol oedd Phylipiaid Ardudwy. Roeddent yn ddisgynyddion i ymsefydlwyr Normanaidd yn yr ardal yn y 12g ond cawsont eu cymathu i'r gymdeithas Gymreig o'u cwmpas.

Mae'r Phylipiaid yn cynrychioli to olaf Beirdd yr Uchelwyr, y beirdd proffesiynol a ganai i uchelwyr Cymru yn yr Oesoedd Canol Diweddar a dechrau'r Cyfnod Modern. Arferent fynd ar deithiau clera gan ymweld ac aelwydau mawr gogledd Cymru. Mae eu gwaith yn ddrych i gymdeithas y cyfnod a'r newidiadau a welwyd.

Ni wyddom pryd y daeth y teulu i fagu beirdd, ond mae'r traddodiad yn cychwyn yn yr 16g gyda'r ddau frawd Rhisiart (m. 1641) a Siôn (tua 1543 - 1620). Roedd Siôn yn ffermio ym Mochres, ar lan Bae Ceredigion ger Llandanwg, Ardudwy; boddodd tra'n dychwelyd o bererindod i Ynys Enlli yn 1620.

Roedd meibion Siôn Phylip yn feirdd hefyd. Nid oes llawer o waith Phylip Siôn wedi goroesi, ond cedwir ar glawr tua thrigain cywydd gan ei frawd Gruffudd (m. 1666), a ystyrir yn un o'r clerwyr olaf.

Mae'n bosibl fod Wiliam Phylip (1579 - 1669) o Hendrefechan yn perthyn i'r teulu hefyd. Gŵr bonheddig a bardd yn canu ar ei aelwyd ei hun (h.y. heb fod yn fardd proffesiynol fel y cyfryw) oedd Wiliam. Erys ar glawr farwnad iddo gan Phylip Siôn Phylip.

Cyfeiriadau

golygu
Phylipiaid Ardudwy: erthygl gan William Llewelyn Davies yn y Bywgraffiadur Cymreig arlein (LlGC).