William Williams (Will Penmorfa)
Telynor dall i deulu'r Wynniaid, Llandeilo oedd William Williams (1759 - 30 Tachwedd 1828), neu Will Penmorfa ar lafar gwlad. Roedd yn un o'r telynorion enwocaf yng Nghymru ar ddiwedd y 18g a dechrau'r ganrif ganlynol.
William Williams | |
---|---|
![]() Will Penmorfa. Portread gan J. Chapman, 1826. Amgueddfa Genedlaethol Cymru | |
Ganwyd | 1759 ![]() |
Bu farw | 1828 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | telynor ![]() |
Yn ôl pob tebyg cafodd ei eni a'i fagu ym mhlwyf Penmorfa ger Tremadog, Gwynedd. Roedd yn ddisgybl i'r enwog John Parry, sef 'Parry Ddall' Rhiwabon. Bu'n athro telyn yn ei dro i Richard Roberts, Caernarfon.[1]
Bu yn Eisteddfod Caerfyrddin 1823 lle cafodd ei gyflwyno i'r hanesydd Carnhuanawc a chwareuodd y delyn iddo. Ond erbyn hynny roedd yn ŵr hen a'i nerth yn pallu. Arferai wisgo cadach du dros ei lygaid ac roedd ganddo wallt hir hyd hanner ei gefn.[2]
Treuliodd y rhan olaf o'i oes yn delynor teuluaidd ym mhlas Tregib, ger Llandeilo Fawr. Yno y bu farw ar 30 Tachwedd 1828, yn 69 mlwydd oed.[2]
Mae'r portread olew o Will Penmorfa a wnaed gan artist o'r enw J. Chapman (ceir ansicrwydd ynglŷn â pha 'J. Chapman' oedd hwn) yn 1826 yn un o baentiadau Cymreig eiconaidd y 18g.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Robert Griffith, Llyfr Cerdd Dannau (d.d. = 1913), tud. 329.
- ↑ 2.0 2.1 Llyfr Cerdd Dannau, tud. 330.