Gwilym Brewys

(Ailgyfeiriad o William de Braose)

Arglwydd y Fenni, Brycheiniog, yn ne-ddwyrain Cymru oedd y Normaniad Gwilym Brewys neu William de Braose (11973 Mai 1230). Gelwyd ef gan y Cymry gyda'r enw Gwilym Ddu.[1]

Gwilym Brewys
Ganwyd2 Mai 1197 Edit this on Wikidata
Bu farw1230 Edit this on Wikidata
o crogi Edit this on Wikidata
Penfro Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
GalwedigaethArglwyddi'r Mers Edit this on Wikidata
TadReginald de Braose Edit this on Wikidata
MamGrecia de Briwere Edit this on Wikidata
PriodEva Marshal Edit this on Wikidata
PlantMaud de Braose, Eleanor de Braose, Eva de Braose, Isabella de Braose, Joan de Braose Edit this on Wikidata
Arfbais Gwilym Brewys gan Mathew Paris: Party per pale indented gules ac azure. Y Llyfrgell Brydeinig, MS Royal 14 C VII f. 116.

Roedd yn fab i Reginald de Braose. Cafodd garwriaeth gudd â Siwan, gwraig Llywelyn ap Iorwerth a merch y brenin John o Loegr, a arweiniodd at ei grogi gan y tywysog, efallai yng Nghrogen, ger Y Bala, yn 1230.

Mae drama fydryddol Saunders Lewis, Siwan, yn seiliedig ar y digwyddiad.

Priodi a phlant

golygu
 
Corffddelw Eve de Braose; yn Eglwys y Santes Fair, y Fenni.

Priododd Gwilym Eva Marshal, Barwnes y Fenni a merch William Marshal, Iarll 1af Penfro a chawsant bedwar o blant:

  1. Isabella de Braose (ganwyd tua 1222), gwraig y Tywysog Dafydd ap Llywelyn
  2. Maud de Braose (ganwyd tua 1224 – 1301), gwraig Roger Mortimer, Barwn 1af Wigmore
  3. Eleanor de Braose (ganwyd tua 1226 – 1251), gwraig Humphrey de Bohun a mam Humphrey de Bohun, 3ydd Iarll Henffordd.
  4. Eve de Braose (ganwyd tua 1227 – Gorffennaf 1255), gwraig William de Cantelou.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Bywgraffiadur Cymreig; adalwyd 3 Mai 2016

Dolenni allanol

golygu
     Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.