Crogen

pentrefan ger Llandrillo, y Bala, Gwynedd

Pentrefan neu amlwd (hamlet) gwasgaredig yn ardal Meirionnydd, Gwynedd, yw Crogen ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'n gorwedd ar lan ddeheuol Afon Dyfrdwy tua hanner ffordd rhwng Y Bala i'r gorllewin a Llandrillo i'r dwyrain, Saif o fewn tafliad carreg i'r ffin rhwng Gwynedd a Sir Ddinbych.

Crogen
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.919969°N 3.47651°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Map
Erthygl am y lle yng Ngwynedd yw hon. Am y frwydr yn Nyffryn Ceiriog gweler Brwydr Crogen.
Rhan o Ystâd Crogen.

Castell Crogen

golygu

Er nad yw'n fawr o le heddiw, roedd yn ganolfan o bwys yn yr Oesoedd Canol a chwareai ei ran yn hanes teyrnasoedd Gwynedd a Phowys. Yma roedd Castell Crogen, a oedd ym meddiant Elise ap Madog ap Maredudd, arglwydd Penllyn, yn 1202 yn ôl Brut y Tywysogion. Er bod rhai haneswyr yn dadlau dros leoli'r castell yn nes i safle Llandderfel, mae'n bur debyg fod y mwnt ar lan Afon Dyfrdwy ger Crogen yn dynodi safle'r castell mwnt a beili hwnnw.[1]

Canodd y bardd Cynddelw Brydydd Mawr i un 'Ednyfed, arglwydd Crogen', ond ni ellir dweud i sicrwydd pa Grogen a olygir, y Crogen yma ynteu'r un yn Nyffryn Ceiriog lle ymladdwyd Brwydr Crogen yn 1165.

Parhaodd Crogen fel arglwyddiaeth leol. Ceir Ystâd Crogen yno heddiw.

Cyfeiriadau

golygu
  1. N. A. Jones ac Ann Parry Owen (gol.), Gwaith Cynddelw Brydydd Mawr, cyfrol I (Caerdydd, 1991), tud. 344.