Y Beirniad
Cylchgrawn llenyddol arloesol oedd Y Beirniad, a sefydlwyd gan Cymdeithas Cymraeg colegau Prifysgol Cymru dan olygyddiaeth John Morris-Jones. Cafodd ei gyhoeddi yn chwarterol o 1911 hyd 1917 ac yn ysbeidiol wedyn hyd 1920. Roedd yn cynnwys erthyglau am yr iaith Gymraeg, beirniadaeth lenyddol, ysgrifau a gweithiau creadigol yn cynnwys barddoniaeth. Cafodd ddylanwad mawr ar ysgolheictod yng Nghymru ond ei effaith bennaf efallai oedd cadarnhau'r diwygio ar safonau'r iaith a fu'n ganolog i waith ei olygydd.
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn |
---|---|
Gwlad | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1911 |
Lleoliad cyhoeddi | Lerpwl |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
- peidied drysu ag Y Beirniad (1859-1879)
Ymhlith y cyfranwyr i'r Beirniad oedd:
- R. G. Berry
- E. Tegla Davies
- W. J. Gruffydd - cyhoeddwyd ei gerdd Ynys yr Hud ynddo
- R. T. Jenkins
- T. Gwynn Jones - cyhoeddwyd ei gerdd Madog ynddo
- J. E. Lloyd
- R. Williams Parry
- Ifor Williams - erthyglau arloesol ar Y Gododdin a Llyfr Aneirin
- Llewelyn Williams - 'Slawer Dydd'
Y Beirniad gyntaf
golyguCyhoeddwyd cylchgrawn cynharach o'r un enw, Y Beirniad yn Llanelli rhwng 1859 ac 1879.
Gweler hefyd
golygu- Y Llenor, "olynydd" Y Beirniad, a sefydlwyd yn 1922.