Y Comisiwn Smith
Cyhoeddwyd Comisiwn Smith gan Brif Weinidog y DU David Cameron ar 19 Medi 2014, yn dilyn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014. Dywedodd mai gwaith y comisiwn fydd "cynnal sgyrsiau gyda'r pleidiau perthnasol a hwyluso proses hollgynhwysol ar draws yr Alban er mwyn creu, erbyn 30 Tachwedd 2014, Prif Benawdau Cytundeb ynghyd ag argymhellion i ddatganoli pwerau pellach i Senedd yr Alban."[1][2] Penodwyd 10 cynrychiolydd gan y pleidiau a oedd a chynrychiolaeth yn Llywodraeth yr Alban. Cychwynwyd ar y trafodaethau ar 22 Hydref.[3] Mae Smith yn Is-Ganghellor Prifysgol Ystrad Clud ac yn Gadeirydd The Green Investment Bank.
Y rheswm dros ei bodolaeth
golyguDdeuddydd cyn cynnal pleidlais Refferendwm yr Alban, ac yn dilyn gogwydd munud-olaf gref tuag at y garfan dros Annibyniaeth, addawodd arweinwyr y tair plaid fwyaf ym Mhrydain roi pwerau helaeth i Lywodraeth yr Alban pe bai'r bleidlais yn mynd yn erbyn annibyniaeth.[4] Cytunodd y tri hefyd i daflen amser a gynigiwyd gan Gordon Brown.[5] Dywedodd David Cameron ar ôl y bleidlais y byddai Comisiwn Smith yn cael ei gadeirio gan yr Arglwydd Smith o Kelvin i oruchwylio trosglwyddo'r pwerau newydd hyn.[4][5] Galwodd Cameron, ar yr un pryd, am ateb i'r hyn a elwir yn 'Gwestiwn Gorllewin Lothian', sef atal ASau'r Alban rhag pleidleisio yn San Steffan ar faterion yn ymwneud â Lloegr yn unig.[6]
Aelodaeth
golyguGofynnwyd i'r pum plaid a oedd a chynrychiolwyr yn Senedd yr Alban i enwi dau gynrychiolydd i'r Comiswn. Y deg a enwebwyd oedd:
- Maggie Chapman (Plaid Werdd yr Alban)[7]
- Linda Fabiani (Plaid Genedlaethol yr Alban)[7]
- Annabel Goldie (Ceidwadwyr ac Unoliaethwyr yr Alban)[8]
- Iain Gray (Plaid Lafur yr Alban)[7]
- Patrick Harvie (Plaid Werdd yr Alban)[7]
- Gregg McClymont (Plaid Lafur yr Alban)[3]
- Michael Moore (Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban)[8]
- Tavish Scott (Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban)[8]
- John Swinney (Plaid Genedlaethol yr Alban)[7]
- Adam Tomkins (Ceidwadwyr ac Unoliaethwyr yr Alban)[8]
Ysgrifennodd Colin Fox, aelod o'r ymgyrch dros annibyniaeth, at y Comisiwn i fynegi ei anfodlorwydd na chafwyd cynrychiolydd o Blaid Sosialaidd yr Alban.[9][10]
Cais am argymhellion
golyguGofynnodd y Comisiwn am argymellion gan unigolion a chyrff cyn 31 Hydref 2014.[11] Cafwyd dros 14,000 o ebyst a llythyrau gan y cyhoedd a 250 arall gan grwpiau a chyrff.[11]
Roedd y tri phlaid uchaf eu cloch yn y refferendwm yn erbyn annibyniaeth i'r Alban (sef y Ceidwadwyr, Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol) wedi cynnig, yn unigol, yr argymhellion a oeddent wedi eu paratoi cyn y refferendwm. Cynigiodd Plaid Genedlaethol yr Alban a'r Blaid Werdd yr hyn a elwid yn "devo max".[12]
Galwodd Cyngres Undebau Llafur yr Alban am ddatganoli nifer o feysydd gan gynnwys treth incwm, nawdd cymdeithasol a mewnfudo.[13]
Yr argymhellion
golyguAr 27 tachwedd 2014 cyhoeddodd y Comisiwn ei argymhellion. Wedi trafodaeth arnynt yn Senedd y DU yn Ionawr 2015 byddant yn cael eu cyflwyno fel mesur seneddol wedi Mehefin 2015.[14]
Mae'r argymhellion yn cynnwys (gweler yma am yr argymhellion llawnach) trosglwyddo i Senedd yr Alban y pwerau hyn:
- gosod bandiau a chyfraddau treth incwm
- yr hawl i dderbyn cyfran o Dreth-ar-Werth a godir yn yr Alban (hyd at 50%), ond nid i bennu'r gyfradd
- cynyddu'r gallu i fenthyg arian a sicrhau sefydlogrwydd yn y gyllideb - gyda chytundeb Llywodraeth y DU
- cyfraith y DU i nodi fod Llywodraeth a Senedd yr Alban yn sefydliadau parhaol
- dulliau ethol a rhedeg / gweinyddu Llywodraeth yr Alban.
- rhoi'r hawl i bobl ifanc 16 ac 17 oed i bleidleisio yn etholiadau Senedd yr Alban yn 2016
- nawdd personol, anabledd a thaliadau gaeaf oer, a nawdd tai (Universal Credit), gan gynnwys nawdd ystafelloedd gweigion (the bedroom tax).
- rhoi taliadau 'budd a lles' newydd i bobl pan fo angen, heb orfod gofyn caniatád gan Lundain
- cefnogi pobl di-waith drwy raglenni cyflogi
- codi air passenger duty ar deithwyr o feysydd awyr yr Alban
- yr hawl a'r cyfrifoldeb o weinyddu asedau'r Crown Estates, gan gynnwys yr arfordir, mwynau a physgota, a'r refeniw a ddaw o'r asedau hynny
- trwyddedu echdynnu olew a nwy
- y nawdd presennol o Lundain i'r Alban i barhau, yn unol â Fformiwla Barnett. Unrhyw fformiwla meu addasiad ohono i'w gytuno gan y ddwy lywodraeth, fel nad yw'r naill na'r llall mewn sefyllfa ariannol gwaeth.
- y ddwy lywodraeth i gyd-ysgrifennu Memorandwm Dealltwriaeth i sicrhau nad yw is-adeiledd y Deyrnas Unedig ddim yn dioddef oherwydd y mesurau hyn h.y. mewn materion megis amddiffyn, olew a nwy ac ynni.
Adwaith i'r argymhellion
golyguDywedodd Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, ei bod yn croesawu'r argymhellion ond nad yw'n cyflwyno hunan-reolaeth modern. Mynegodd nad oedd digon o bwerau'n cael eu trosglwyddo i'r Alban ac "Roeddwn yn dymuno y pwer yn fy llaw i greu system well a fyddai'n codi pobl allan o dlodi, i weld twf yn yr economi... Ysywaeth, nid dyna fydd yn cael ei roi i ni."[15][16] Mynegodd Iain Macwhirter, yn 'Herald yr Alban' nad oedd trosglwyddo trethi (ar wahân i dreth incwm) yn ddigonol, ac y byddai hyn yn cloi'r Alban i ddirywiad yn ei heconomi.[17] Dangosodd sawl arolwg barn fod y rhan fwyaf (dros 50%) o Albanwyr yn dymuno mwy o ddatganoli nag a welwyd yn yr argymhellion.[18]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Cyfieithwyd o'r gwreiddiol: (gwaith y comisiwn fydd): "convene cross-party talks and facilitate an inclusive engagement process across Scotland to produce, by 30 Tachwedd 2014, Heads of Agreement with recommendations for further devolution of powers to the Scottish Parliament"
- ↑ "About". The Smith Commission. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 5 Hydref 2014.
- ↑ 3.0 3.1 "Smith Commission on more powers for Scotland to hold first meeting". BBC News. BBC. 22 Hydref 2014. Cyrchwyd 22 Hydref 2014.
- ↑ 4.0 4.1 What now for 'the vow'?, BBC News
- ↑ 5.0 5.1 Scotland votes 'No': What happens now?, BBC News
- ↑ Brown calls on Scots to sign devolution 'promises' petition, BBC News
- ↑ 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 "Scottish referendum: Iain Gray to join powers commission". BBC News. 29 Medi 2014. Cyrchwyd 5 Medi 2014.
- ↑ 8.0 8.1 8.2 8.3 "Scottish referendum: John Swinney to join Lord Smith commission". BBC News. 25 Medi 2014. Cyrchwyd 5 Hydref 2014.
- ↑ Mae'r llythyr yn cynnwys ei resymau, yn Saesneg: "The argument some use to justify our exclusion on the grounds that we currently have no 'parliamentary representation' fails to appreciate that the referendum was not a parliamentary process but an unprecedented public debate that resulted in an extraordinary level of engagement from all sections of society. To exclude the SSP is to exclude an important constituency of opinion in Scottish society."
- ↑ "SSP protests our exclusion from Lord Smith's Devolution Commission". 5 Hydref 2014. Cyrchwyd 6 Hydref 2014.
- ↑ 11.0 11.1 Smith Commission receives more than 14,000 submissions, BBC News
- ↑ SNP calls for major post-No powers, BBC News
- ↑ Scottish trade unions call for tax, welfare and immigration powers, BBC News
- ↑ Ben Riley-Smith (28 Tachwedd 2014). "Everything you need to know about the Smith Commission". The Telegraph.
- ↑ Cyfieithiad o'r Saesneg: "I want to have the power in our hands to create a better system to lift people out of poverty, to get our economy growing. That’s the kind of powerhouse parliament I want. Sadly it’s not the one that’s going to be delivered.”
- ↑ Libby Brooks (27 Tachwedd 2014). "Nicola Sturgeon: Smith commission fails to deliver 'powerhouse parliament'". The Guardian.
- ↑ Iain Macwhirter (30 Tachwedd 2014). "Power over income tax only will doom Scotland to a downward spiral". Herald Scotland.
- ↑ Tom Gordon (30 Tachwedd 2014). "Most Scots want more powers than Smith provides". Herald Scotland.