Y Pelydrau
Grŵp pop o Drawsfynydd oedd Y Pelydrau. Daethont i'r amlwg yn 1966 ar ôl ennill cystadleuaeth bop yr Urdd. Wnaethon nhw ryddhau nifer o senglau ac EPau dros y saith blynedd nesaf, gan gynnwys Caneuon Serch Y Pelydrau (1967), Dewch I Ddawnsio (1968), a Coffa Hedd Wyn (1973). Roedd y recordiau yma yn boblogaidd iawn, yn sicrhau lle rheolaidd i'r grŵp yn Nheg Uchaf Y Cymro yn ystod y 60au hwyr a'r 70au cynnar. Wnaethon nhw ymddangos ar deledu ar nifer o achlysuron. Wnaethon nhw chwalu yn 1973.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Daeth i ben | 1973 |
Dechrau/Sefydlu | 1966 |
Genre | cerddoriaeth boblogaidd, Canu gwerin, Cerddoriaeth pop a roc Cymreig |
Pencadlys | Trawsfynydd |
- Gellir darllen erthygl lawnach ar Wici Porth ar Y Pelydrau
Aelodau
golyguSusan Dobbs, Edith Barker a Gwenan Jones (lleisiau), Glenys Davies (llais a gitâr), a Gareth Williams (gitâr, llais). Mae enw’r grŵp yn cyfeirio at yr atomfa yn Nhrawsfynydd, bro eu mebyd, a ddechreuodd gynhyrchu trydan yn 1965.[1][2]
Bu iddynt ymddangos ar raglen gerddoriaeth Gymraeg Hob y Deri Dando yn 1969, a gellid tybio, sawl tro arall. Roeddynt yn weithgar yn perfformio mewn cyngherddau ar draws Cymr gan gynnwys cyngerdd fawr enwog 'Pinaclau Pop' a gynhadliwyd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar 29 Mehefin 1968 i godi arian i Eisteddfod Genedlaeth yr Urdd, Aberystwyth 1969 ynghŷd a pherfformiwyr adnabyddus eraill bu'n perffordmio fel Dafydd Iwan, Heather Jones, Hogia Llandegai, Aled a Reg, Y Derwyddon, Y Cwiltiaid, Mari Griffith, Y Diliau a mwy gyda Ryan Davies yn cyflwyno i gynulleidfa o 3,000 o bobl.[3]
Disgyddiaeth
golyguCyhoeddodd Y Pelydrau sawl record yn eu gyrfa.[4]
- Y Pelydrau [sengl] (Recordiau Cambrian CEP405, 1967)
- Caneuon Serch [EP] (Recordiau Cambrian CEP401, 1967)
- Eiliad i Wybod [EP] (Recordiau Cambrian CEP416, 1968)
- Dewch i Ddawnsio [EP] (Recordiau Cambrian WRE1056, 1969)
- 'Roced Fach Ni’/‘Dim Ond Y Fi Sydd Ar Ôl (Recordiau'r Dryw WSP2002, 1969)
- Hwrli Bwrli [sengl] (Recordiau'r Dryw WSP2003, 1970)
- Coffa Hedd Wyn [EP] (Recordiau'r Dryw CEP487, 1973)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hill, Sarah. "Y Pelydrau". Wici Esboniadur Cerddoriaeth ar Porth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 7 Ebrill 2024.
- ↑ "Clawr angrhedadwy Y Pelydrau o Drawsfynydd, 1967 - yr atomfa yn y cefndir". Tudalen Facebook Gruff Rhys. 19 Medi 2015. Cyrchwyd 7 Ebrill 2024.
- ↑ "'Pinaclau Pop' - Robat Gruffudd (1969)". Tudalen Facebook Y Lolfa. 19 Gorffennaf 2016.
- ↑ "Y Pelydrau". 45cat. Cyrchwyd 7 Ebrill 2024.
Dolenni allanol
golygu- cân 'Trawsfynydd gan Y Pelydrau ar Youtune
- cân 'Wyt ti'n Fodlon ar dy Gymru ar sianel Ffarout ar Youtube