Y Ffordd o'r Farangiaid i'r Groegiaid
Y Ffordd o'r Farangiaid i'r Groegiaid yw'r enw a roddir yn Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen—cronicl hynaf y Slafiaid Dwyreiniol—ar y llwybrau masnach o'r Môr Baltig i'r Môr Du a fu'n cysylltu Rws Kyiv (y Farangiaid neu'r Rws) â'r Ymerodraeth Fysantaidd (y Groegiaid Bysantaidd neu Rufeiniaid Dwyreiniol) yn ystod yr Oesoedd Canol, yn bennaf o'r 11g i'r 13g. Estynnai ar hyd afonydd a leolir bellach yn Rwsia ac Wcráin yn bennaf, gan gychwyn yn aber Afon Dvina Orllewinol yng Ngwlff Riga a chysylltu â blaenau'r Dnieper ger Smolensk, lle câi cychod y Farangiaid eu cludo dros y tir a'u harnofio gyda'r afon tua'r de, drwy Kyiv (prifddinas y Rws) a thros y tir i osgoi Rhaeadrau'r Dnieper, cyn groesi'r Môr Du i gyrraedd Caergystennin (prifddinas Bysantiwm). Cafwyd hefyd llwybr amgen a ddechreuai yng Ngwlff y Ffindir ac âi i fyny Afon Neva i Lyn Ladoga, ac oddi yno gyda'r Volkhov i Novgorod a Llyn Ilmen, ac ar hyd Afon Lovat i'r cwch-gludfannau ger Smolensk. Defnyddiwyd y Ffordd o'r Farangiaid i'r Groegiaid hefyd gan hurfilwyr a phererinion Slafig a Llychlynnaidd i deithio i ddwyrain y Môr Canoldir.
Map o brif lwybrau masnach Gogledd a Dwyrain Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol Cynnar, gan ddangos y Ffordd o'r Farangiaid i'r Groegiaid (porffor) a Llwybr Masnachol y Volga (coch) . | |
Math | trade route |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llychlyn, Rws Kyiv, yr Ymerodraeth Fysantaidd |
Defnyddiwyd rhannau o'r llwybr hwn gan bobl ers Oes y Cerrig. Yn niwedd y 9g, unwyd y dyfrffyrdd a'r tiroedd cyfagos o'r Môr Baltig i'r Môr Du dan dra-arglwyddiaeth Rws Kyiv. Arwyddwyd cytundebau masnachol rhwng y Rws a'r Bysantiaid yn 907, 911, 944, a 971. Yn ei draethawd De administrando imperio (tua 948–52), disgrifia'r Ymerawdwr Cystennin VII ran ddeheuol y ffordd, gan nodi'r angen i gludo cychod dros y tir i osgoi'r saith rhaeadr ym mharthau isaf y Dnieper, yn ogystal â'r bygythiad i deithwyr o oresgyniadau'r Petsenegiaid. Yn ôl Cystennin VII, byddai'r Slafiaid yn y gogledd yn adeiladu ceufadau o foncyffion gwag yn y gaeaf ac yn eu gollwng i arnofio i lawr yr afon yn y gwanwyn. Yn Kyiv, gosodwyd rhwyfau, rhwyfbinnau a thaclau eraill ar y cychod, ac ar ddechrau'r haf fe'u llenwyd gyda nwyddau i werthu yng Nghaergystennin. Rhwyfwyd y cychod i ynys St Aitherios (Berezan) yn aberoedd y Dnieper, ac yno fe'u ailgyfarparwyd gydag hwyliau, hwylbrennau a llywiau, er mwyn hwylio ar hyd arfordir gorllewinol y Môr Du i Gaergystennin. Byddai rhai o fasnachwyr y Rws yn aros yng Nghaergystennin am hyd at chwe mis y flwyddyn, o'r gwanwyn i'r haf, ym Mynachlog Sant Mamas. Y prif nwyddau o Rws Kyiv oedd crwyn anifeiliaid, cwyr, a mêl, a gyfnewidiwyd yng Nghaergystennin am win, olew olewydd, sidan, gemwaith a llestri gwydr, celfi eglwysig, a phethau moethus eraill. Yn y 10g, byddai'r Rws hefyd yn gwerthu caethweision i'r Bysantiaid.[1]
Ar sawl achlysur yn y 10g, ac ym 1043, goresgynnwyd Bysantiwm gan luoedd y Rws o'r llwybr hwn. Câi'r ffordd ei chau yn ystod anghytundebau rhwng tywysogion y Rws, er enghraifft yn ystod y gwarchae ar Novgorod gan luoedd Kyiv yn nechrau'r 12g. Weithiau, rhwystrwyd y ffordd hefyd gan bobloedd nomadaidd yn y rhanbarth rhwng Kyiv a'r Môr Du, a lansiwyd cyrchoedd milwrol gan y Rws i'w hatal. Yn sgil cwymp Caergystennin i'r Bedwaredd Groesgad ym 1204, newidiodd Rws Kyiv gyrchfan ddeheuol ei llwybr masnach i borthladd Sudak yn y Crimea. Daeth y ffordd i ben o ganlyniad i oresgyniadau'r Mongolwyr a chwymp Rws Kyiv ym 1240.[1]