Y Werin Wydr
Trosiad newydd Cymraeg gan Annes Gruffydd o The Glass Menagerie Tennessee Williams yw Y Werin Wydr. Llwyfanwyd y cyfieithiad am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1992.[1]
Awdur | Annes Gruffydd |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Dyddiad y perff. 1af | 1992 |
Nododd y llenor Hazel Walford Davies yn Barn (Medi 1992) bod "trosiad Annes Gruffydd o The Glass Menagerie, yn un arbennig o ystwyth ac yn dal hiwmor ac ysbryd y gwreiddiol. [...] Heb amheuaeth, cyfieithiad i Wynedd yw hwn, ac i Sir Fôn yn arbennig. Yr hyn a ddiflannodd wrth gwrs yn y cynhyrchiad oedd grym acen taleithiau Missouri a Mississippi. Mae cymaint o’r hyn sydd gan Williams i’w gyfleu yn y ddrama ynghlwm wrth acen araf, hiraethus y De."[2]
Ni chafodd y trosiad hwn ei gyhoeddi hyd yma. Mae cyfieithiad Emyr Edwards o'r un ddrama wedi'i gyhoeddi dan y teitl Pethe Brau.
Cymeriadau
golygu- Tom
- Amanda - mam Tom
- Laura - chwaer Tom
- Jim - y gŵr galw
Cynyrchiadau nodedig
golyguCafodd y trosiad yma ei lwyfanu gan Gwmni Theatr Gwynedd yng Ngwanwyn 1992. Cyfarwyddwr Graham Laker; cynllunydd John Jenkins; cynllunydd goleuo Tony Bailey Hughes; cynllunydd sain Siôn Havard Gregory; cast:
- Tom - Arwel Gruffydd
- Amanda - Christine Pritchard
- Laura - Nia Dryhurst
- Jim - y gŵr galw - Huw Charles
Cael ei phlesio'n fawr gan y cynhyrchiad wnaeth y llenor Hazel Walford Davies yn ei hadolygiad i Barn: "Gan mai drama atgof yw hi, un o’r prif beryglon wrth ei pherfformio yw gorbwysleisio’r elfen sentimental sydd ynghlwm wrth y fath genre. Er mwyn osgoi hyn rhaid wrth effeithiau technegol medrus a set gelfydd. [...] Rhan allweddol o lwyddiant y cynhyrchiad oedd gwaith sain, goleuo a set y cynllunydd John Jenkins. Roedd y llwyfan gwydr gyda’i ymylon toredig, y muriau brics uchel a’r hysbysebion Americanaidd ymosodol a grogai o’r nenfwd yn adlewyrchu byd mewnol, briwedig y teulu a bygythiad allanol, hyderus dinasoedd America. Drwy gydol y cynhyrchiad roedd y goleuo a’r effeithiau sain yn pwysleisio’r gwahaniaeth dybryd rhwng hyfdra dinas y fflachiadau neon a thywyllwch ingol bywydau Tom, ei fam Amanda a’i chwaer Laura, yn eu cartref yn un o slymiau hagr St Louis, Missouri."[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o Y Werin Wydr 1992.
- ↑ 2.0 2.1 "DISODLI'R THEATR REALISTIG gan Hazel walford Davies; atodiau theatr bARN cyfrol 355/356 Awst / Medi 1992". www.theatre-wales.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-25.