Y celfyddydau yng Nghymru


Nodweddir y celfyddydau yng Nghymru gan etifeddiaeth ddiwylliannol gyfoethog y wlad. Yn hanesyddol, blodeuai'r celfyddydau llenyddol a cherddorol, ymhlith y werin a'r uchelwyr fel ei gilydd, a bu eisteddfodau yn wyliau i fynegi a dathlu llên a cherdd. Datblygodd traddodiadau brodorol unigryw yn yr iaith Gymraeg, gan gynnwys barddoniaeth, rhyddiaith, canu gwerin, a chanu corawl. Yn sgil seisnigo diwylliant Cymru yn y cyfnod modern, mae nifer o Gymry wedi cyfrannu at y celfyddydau Saesneg a dod yn fyd-enwog, er enghraifft y beirdd Dylan Thomas ac R. S. Thomas a chantorion a grwpiau cerddorol megis Tom Jones a'r Manic Street Preachers. Yn ogystal â cherddoriaeth, mae'r celfyddydau perfformio yng Nghymru yn cynnwys dawns a'r theatr.

Y celfyddydau yng Nghymru
Mathdiwylliant Cymru Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Ni fu'r celfyddydau gweledol mor amlwg na chywrain â llenyddiaeth a cherddoriaeth yng Nghymru, ond arferid celf a cherfluniaeth yn adlewyrchu arddulliau a ffurfiau cyffredin y byd Celtaidd, Ynysoedd Prydain ac Iwerddon, a Gorllewin Ewrop. Mae celfyddydau gwerinol yn cynnwys crefftau traddodiadol megis crochenwaith, gwehyddiaeth, a gwaith pren. Mae cymdeithasau a sefydliadau megis Urdd Gwneuthurwyr Cymru ac Amgueddfa Werin Cymru yn ceisio cadw'r hen grefftau'n fyw yn yr oes fodern. Mae celfyddydau modern yng Nghymru yn cynnwys ffilm a gemau fideo.

Y celfyddydau gweledol golygu

Prif: Celf Cymru
 
Yr Wyddfa o Lyn Nantlle, Richard Wilson (tua 1766).

Er i lenyddiaeth a cherddoriaeth y wlad ddangos sawl traddodiad unigryw, mae celf Cymru i raddau helaeth wedi dibynnu ar yr un ffurfiau ac arddulliau a geir yng ngweldydd eraill Prydain. Sonir yn aml am gelf Cymru, neu gelf yng Nghymru, i gynnwys y gweithiau niferus a wnaed gan arlunwyr estron yn y wlad, yn enwedig tirluniau.

Cerfluniaeth golygu

 
Cerflun Teulu'r Glöwr gan Robert Thomas (1993).

Pensaernïaeth golygu

Y celfyddydau llenyddol golygu

Ac eithrio llenyddiaeth glasurol, llenyddiaeth Gymraeg yw'r hynaf yn Ewrop. Mae gan y Gymraeg draddodiad cyfoethog o lenyddiaeth sy'n dyddio o'r 6g hyd heddiw. Oherwydd eu bod yn ysgrifennu mewn iaith â mwy o bobl yn ei deall, mae ysgrifenwyr llenyddiaeth Saesneg Cymru yn aml wedi llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd llawer mwy na'u cyd-wladwyr sy'n ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg yn unig. Dwy enghraifft adnabyddus o hyn yw'r beirdd byd-enwog Dylan Thomas ac R. S. Thomas.

Y celfyddydau perfformio golygu

Cerddoriaeth golygu

 
Côr meibion yn canu yn adeilad y Senedd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi 2012.

Mae gan gerddoriaeth Cymru hanes hir, ond ychydig iawn o wybodaeth fanwl sydd gennym cyn y 18g pan ddechreuodd hynafiaethwyr ymddiddori yn y pwnc. Cyfeirir at Gymru'n aml fel "Gwlad y Gân", yn ystrydebol braidd. Erbyn heddiw mae Cymru'n enwog am eu cerddorion cyfoes fel Bryn Terfel ym myd opera a grwpiau fel Manic Street Preachers a Catatonia ym myd roc.

Dawns golygu

Dwy ffurf ar ddawns sydd â gwreiddiau dwfn yng Nghymru, sef dawnsio gwerin Cymreig a dawnsio'r glocsen.[1]

Theatr golygu

Ffilm a'r celfyddydau digidol golygu

Ffilm golygu

Mae ffilm yng Nghymru, ai mewn Cymraeg neu Saesneg, wedi bod yn symbol o ddiwylliant y wlad ers blynyddoedd, ac wedi hyrwyddo enw Cymru ar draws y byd. Mae nifer o actorion a chyfarwyddwyr enwog wedi dod o Gymru, yn cynnwys Richard Burton a Peter Greenaway.

Gemau fideo golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. John Davies et al., Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t. 279.