Yn Pabyr Seyr
Papur newydd yn Ynys Manaw yw Yn Pabyr Seyr (Manaweg am "Y Papur Rhydd[1]) a gyhoeddir gan Mec Vannin,[2] mudiad sy'n ymgyrchu dros gael gweriniaeth yn Ynys Manaw a fyddai'n annibynnol ar y Deyrnas Unedig.
Enghraifft o'r canlynol | cyfnodolyn |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1990 |
Mae wedi cael ei gyhoeddi o leiaf dwy waith y flwyddyn ers 1990. Ceir archif ar-lein o'r hen gopïau. Er bod y teitl yn Fanaweg ac y ceir rhai erthyglau yn yr iaith Geltaidd honno, mae'r rhan fwyaf o'r cynnwys yn Saesneg.
Fel llais Mec Vannin, mae gogwydd y papur tua'r chwith ac mae'n feirniadol o gyfalafiaeth neo-geidwadol ar Ynys Manaw.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Geiriadur Manaweg". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-09-23. Cyrchwyd 2021-02-23.
- ↑ Carn 2003 - Ta na focail thuas as eagran an Earraigh de Yn Pabyr Seyr, nuachtan Mhec Vannin. Sin pairti polaitiui! poblachtanach na tire sin (Mec Vannin, se sin Mic Mhanainne i nGaeilge - an gcreidfeadh sibh a 'Mhna na hEireann'?)
Dolen allanol
golygu- Yn Pabyr Seyr ar-lein Archifwyd 2012-02-09 yn y Peiriant Wayback