Ynni Cymru

cynhyrchu trydan yng Nghymru
(Ailgyfeiriad o Ynni yng Nghymru)

Mae Ynni Cymru'n cyfeirio at gynhyrchu trydan yng Nghymru.

Ynni Cymru
Enghraifft o'r canlynolcynhyrchu trydan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Cynhyrchu trydan golygu

Yn 2018, roedd cynhyrchiad blynyddol trydan Cymru yn 30.2 TWh ac yn defnyddio 14.9 TWh, sy’n golygu bod Cymru’n cynhyrchu dwywaith cymaint o drydan ag y mae’n ei ddefnyddio ac yn allforiwr net o drydan i Loegr, Iwerddon ac Ewrop.[1][2] Yn yr un flwyddyn, daeth 25% o'r trydan o ffynonellau adnewyddadwy, i fyny o 22% yn 2017. Mae cynhyrchu trydan yn cwmpasu cymysgedd eang o dechnolegau gan gynnwys Glo (ee Aberddawan), Nwy (ee Bae Baglan), Gwynt (Cefn Croes), trydan dŵr (Dinorwig), solar thermol/PV a thrydan biomas. 

 
Gorsaf bŵer Dinorwig (argae trydan dŵr). Ceir llyn ar gopa'r mynydd, sy'n arllwys i lawr drwy bibelli, gan gynhyrchu trydan.

Tanwydd ffosil golygu

Nid yw tanwydd ffosil yn ynni adnewyddadwy; yn hanesyddol, ond dros y canrifoedd, tanwydd ffosil sydd wedi llywio economi Cymru. Roedd diwydiant glo Cymru y mwyaf yn y byd erbyn diwedd y 18g, ac a ehangwyd ymhellach i gyflenwi glo ar gyfer agerlongau a oedd yn dechrau masnachu o gwmpas y byd. Gosododd Cyfnewidfa Lo Caerdydd bris y byd am lo a daeth Caerdydd yn brif borthladd allforio glo'r byd. Roedd Maes Glo De Cymru ar ei anterth ym 1913 ac roedd yn un o feysydd glo mwyaf y byd.[3] Yn 2019 dim ond 2% o gyfanswm y trydan a gynhyrchwyd oedd canran y trydan a gynhyrchwyd o lo. Roedd yr orsaf bŵer glo olaf yng Nghymru yn Aberddawan, a gaeodd ei drysau o’r diwedd ym Mawrth 2020.[4]

Cyfanswm cynhwysedd y trydan a gynhyrchwyd o danwydd ffosil oedd 7.4 GW a daeth o dair ffynhonnell:

  1. pŵer nwy (5.6 GW) [4]
  2. glo (1.6 GW )
  3. disel (0.2 GW)

Ynni adnewyddadwy golygu

 
Melin wynt, Fferm wynt Carno. Yn 2019, Cymru oedd y 5ed allforiwr trydan mwyaf yn y byd.

Yn 2018, cynhyrchodd Cymru fwy na 50% o’i defnydd o drydan fel trydan adnewyddadwy, cynnydd o 19% yn 2014. Gosododd Llywodraeth Cymru darged o 70% erbyn 2030.[5] Yn 2019, Cymru oedd y 5ed allforiwr trydan mwyaf yn y byd (22.7 TWh), yn bennaf i Iwerddon a Lloegr.[6][7]

Mae sylfaen adnoddau naturiol adnewyddadwy Cymru yn uchel o'i gymharu a gwledydd Ewrop; y prif ffynonellau craidd yw gwynt, tonnau a llanw. Mae gan Gymru hanes hir o ynni adnewyddadwy: yn y 1880au, roedd y tŷ cyntaf yng Nghymru gyda goleuadau trydan wedi’u pweru o’i gorsaf bŵer trydan dŵr ei hun ym Mhlas Tan y Bwlch, Gwynedd. Ym 1963 codwyd Pwerdy Ffestiniog i gynhyrchu trydan dŵr ar raddfa fawr, ac yn Nhachwedd 1973, agorwyd Canolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth

Targedau ynni adnewyddadwy golygu

Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru darged - y dylai 70% o drydan Cymruddod o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Erbyn 2018, roedd Cymru wedi cynhyrchu dros 3,864 MW o ynni adnewyddadwy o 68,728 o brosiectau.[1] Yn 2021, dywedodd Llywodraeth Cymru fod mwy na hanner anghenion ynni’r wlad yn cael eu diwallu gan ffynonellau adnewyddadwy, gyda 2 y cant o’r rhain yn dod o 363 o brosiectau ynni dŵr.[8]

Prosiectau ynni adnewyddadwy golygu

Morlyn Llanw Abertawe golygu

Yn 2015 cynigiwyd y syniad o godi morlyn llanw ar gyfer Bae Abertawe, i gynhyrchu trydan, gan fod amrediad llanw'r aber yr ail fwyaf yn y byd. Dernyniodd y cynllun gefnogaeth ac arian gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, ym Mehefin 2018, tynnodd Llywodraeth y DU gefnogaeth i’r cynllun yn ôl gan ffafrio ariannu gorsaf niwclear Sizewell yn ei le.[9][10]

Yn Ionawr 2023, daeth cyhoeddwyd ail gynllun ar gyfer prosiect morlyn llanw newydd yn Abertawe o'r enw "Blue Eden" a hwnnw wedi'i ariannu'n llawn gan y sector preifat. Byddai'n cynnwys ffatri cynhyrchu batris trydan, cyfleuster storio batris, fferm solar arnofiol, canolfan storio data, cyfleuster cynhyrchu hydrogen gwyrdd a chanolfan ymchwil newid hinsawdd a chefnforol. Dywedwyd y gallai'r prosiect ddechrau o fewn 18 mis.[11]

Llif llanw Morlais golygu

Gallai prosiect llif llanw Morlais, a arweinir gan Menter Môn ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, gyflenwi 40MW o ynni glân adnewyddadwy. Sicrhawyd £31 miliwn yn 2022, ar gyfer cam cyntaf y gwaith adeiladu, o gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yr UE drwy Lywodraeth Cymru.[12]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Energy Generation in Wales 2018" (PDF). Welsh Government. Welsh Government. Cyrchwyd 20 January 2021.
  2. "The Battle for Cefn Croes". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 October 2007. Cyrchwyd 15 July 2007.
  3. Hughes, Stephen R. (1994). Collieries of Wales: Engineering and Architecture. Aberystwyth: Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales. tt. 8–9. ISBN 978-1-871184-11-2.
  4. 4.0 4.1 Regen. "Energy Generation in Wales 2019" (PDF). Welsh Government. Welsh Government. Cyrchwyd 21 January 2023.
  5. "Renewable energy progress in Wales". regen. regen. Cyrchwyd 15 September 2021.
  6. Donovan, Owen. "Wales' Fiscal Future – Public Finances within the UK & Independence". The State of Wales. The State of Wales. Cyrchwyd 20 January 2021.
  7. Lloyd, Dai (14 November 2020). "Wales is not a global anomaly – it can be independent just like every other nation". Nation Cymru. Cyrchwyd 13 January 2021.
  8. Duggan, Craig (2 March 2021). "Climate change: Private hydropower schemes 'on cliff edge'". BBC News. Cyrchwyd 2 March 2021.
  9. "The real questions about the UK government's decision to cancel the Swansea Bay Tidal Lagoon". 6 July 2018.
  10. McIntyre, Fiona (July 3, 2018). "UK water industry 'could fund' £1.3bn Swansea Bay scheme". New Civil Engineer (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-08-23.
  11. "Green light expected for multi-billion-pound tidal lagoon project". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2023-01-12. Cyrchwyd 2023-01-18.
  12. "Morlais tidal project on Anglesey gets £31m EU funding". BBC News (yn Saesneg). 2022-03-22. Cyrchwyd 2023-01-18.