Thomas Picton
Cadfridog o Gymru a laddwyd ym Mrwydr Waterloo oedd Syr Thomas Picton (24 Awst 1758 – 18 Mehefin 1815).
Thomas Picton | |
---|---|
Ganwyd | 24 Awst 1758 Hwlffordd |
Bu farw | 18 Mehefin 1815 o lladdwyd mewn brwydr Brwydr Waterloo |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swyddog milwrol, gwleidydd |
Swydd | Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig |
Tad | Thomas Picton |
Mam | Cecil Powell |
Gwobr/au | Marchog Groes Fawr Urdd y Baddon, Cadlywydd Urdd y Tŵr a'r Cleddyf, Army Gold Medal, Urdd Filwrol y Tŵr a'r Cleddyf |
Bywgraffiad
golyguGaned ef yn Poyston Cross yn ne Sir Benfro, yn fab iau i Thomas Picton o Poyston Hall. Ymunodd a'r fyddin yn 1771, fel ensign yn 12fed Catrawd y Troedfilwyr, ond ni welodd frwydro nes iddo gymeryd rhan yng nghipio ynys Sant Lwsia yn 1796. Bu'n llywodraethwr milwrol Trinidad yn y 1790au, lle cafodd yr enw am greulondeb.
Roedd yn bennaeth y 3edd adran yn Rhyfel Iberia ac enillodd gryn enw iddo'i hun. Fodd bynnag, ar ddiwedd y rhyfel nid oedd yn un o'r cadfridogion a wnaed yn arglwyddi. Roedd hyn yn siom fawr iddo, a dychwelodd i sir Gaerfyrddin gyda'r bwriad o geisio dod yn aelod seneddol. Urddwyd ef yn Farchog Groes Fawr Urdd y Baddon yn 1815, a phan ddihangodd Napoleon o Ynys Elba, galwyd ef yn ôl i'r fyddin. Arweiniodd y 5ed Adran yn yr ymladd yn Quatre Bras, lle cafodd ei glwyfo. Er gwaethaf ei glwyf, ymladdodd ym Mrwydr Waterloo, lle lladdwyd ef. Claddwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul, Llundain, lle mae cofgolofn iddo. Ceir cofgolofn iddo hefyd yn nhref Caerfyrddin.
Ffigwr dadleuol
golyguYn ystod 2020 yn sgil ton o ymateb i brotestiadau lladd George Floyd a'r mudiad Black Lives Matter codwyd cwestiynau ar addasrwydd cofebau i Thomas Picton yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ac ym Maes Picton, Caerfyrddin [1] oherwydd ei gysylltiadau gyda chaethwasiaeth gan gamdrin caethwaesion pan oedd yn Lywodraethwr ar Ynys Trinidad yn y Caribî rhwng 1797 a 1803 gan gynnwys, cael ei gyhuddwyd ef o lofruddio Louisa Calderon.[2]
Ar nos Iau 23 Gorffennaf, pleidleisiodd cynghorwyr Cyngor Dinas Caerdydd dros symud y cofeb i Picton yn Neuadd y Ddinas oddi yno. Pleidleisiodd cynghorwyr 57 o blaid symud y cerflun, 5 yn erbyn, a 9 yn ymatal y bleidlais.[3] Nodwyd bod Cyngor Tref Caerfyrddin am drafod y maen hir i Picton hefyd.[4]
Darllen pellach
golyguCyfeiriadau
golyguSenedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Owen |
Aelod Seneddol Penfro 1813 – 1815 |
Olynydd: John Jones |