Ysgol Uwchradd y Rhyl


Ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg yn y Rhyl, Sir Ddinbych ydy Ysgol Uwchradd y Rhyl (Saesneg: Rhyl High School). Mae'n gwasanaethu disgyblion rhwng 11 ac 18 oed.

Ysgol Uwchradd y Rhyl
Rhyl High School
Arwyddair Learning Together
Dysgu gyda'n gilydd
Sefydlwyd 1896
Math Cyfun, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Saesneg
Pennaeth Mark Edwards
Dirprwy Bennaeth Martin Finch
Lleoliad Grange Road, Y Rhyl, Sir Ddinbych, Baner Cymru Cymru, LL8 4BY
AALl Sir Ddinbych
Disgyblion 1,186 (2002)[1]
Rhyw Cydaddysgol
Oedrannau 11–18
Gwefan http://www.rhylhighschool.net

Agorodd yr ysgol ar 14 Medi 1896[2] fel Ysgol Sirol y Rhyl (Rhyl County School)[3] ar gornel Wellington Road a River Street yn yr adeilad sydd heddiw'n gartref i'r Royal Naval Club, bu hefyd ar un adeg yn gartref i Ysgol Gynradd Eglwys Crist.[2] Mr W.A. Lewis oedd y prifathro cyntaf, ac enwodd yr ysgol ar ôl ei gartref yn Henllan, sef "Gorphwysfa". Roedd 57 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ei blwyddyn gyntaf, erbyn 1901 roedd 91 o ddisgyblion.[2]

Symudodd yr ysgol i adeilad newydd ar Grange Road ym 1901, ac mae'r ysgol wedi ei lleoli yno ers hynny. Newidiodd enw'r ysgol i Ysgol Ramadeg y Rhyl (Rhyl Grammar School) ym 1943,[3][4] arwyddair yr ysgol ramadeg oedd Gwell Dysg na Golud.[5] Trodd yn ysgol gyfun ym 1968 gen newid i'w henw presennol.[2]

Roedd 1,186 o ddisgyblion yn yr ysgol yn ystod adroddiad Estyn 2002, i gymharu â 1,043 ym 1997.[6]

Dinistrwyd un o'r blociau dysgu gan dân yn 2005. Erbyn 2008, roedd 1,024 o ddisgyblion gan gynnwys 77 yn y chweched ddosbarth.[1]

Cyn-ddisgyblion o nôd

golygu
Gweler hefyd y categori Pobl addysgwyd yn Ysgol Uwchradd y Rhyl

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1  Inspection report: Rhyl High School 17 November 2008. Estyn (22 Ionawr 2009).
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3  Rhyl High School - A Brief History. Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.
  3. 3.0 3.1 3.2  Colin Jones (11 Ionawr 2010). Rhyl Schools. Rhyl Life.
  4.  North East Wales: Rhyl Town: Past & present. BBC (11 Mai 2009).
  5.  Bathodyn Ysgol Ramadeg y Rhyl. Rhyl Grammar School Reunion. Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.
  6.  Inspection report: Rhyl High School 11 – 15 November 2002. Estyn (2002).
  7.  Dave Jones (1 Hydref 2008). RHYL FC HEROES - No2:JIMMY CARDNO JR. Lilywhites Online.
  8.  Jonathan Glancey (8 Mehefin 2006). Patrick Garnett. The Guardian.
  9.  Obituary: Peter Hoy. The Independent (31 Gorffennaf 1993).
  10.  BBC - North West Wales Arts-Emyr Humphreys. BBC. Adalwyd ar 1 Chwefror 2010.
  11.  Rhys Jones MBE. Trelawnyd Male Voice Choir. Adalwyd ar 5 Ionawr 2012.
  12.  Tributes paid to Rhyl Grammar product Robin Jones (20 Ionawr 2010).
  13.  David H. Walker (31 Ionawr 2006). Professor Harold Lawton. The Independent.
  14.  Reginald ‘Mac’ Samples: Fleet Air Arm aircrew. The Times (13 Awst 2009).
  15.  North East Wales Public Life: Lord Williams. BBC. Adalwyd ar 13 Chwefror 2010.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato