Cenedl a grŵp ethnig yng ngorllewin y Cawcasws yw'r Abcasiaid[1] sydd yn frodorol i ardal Abchasia ar lannau'r Môr Du. Amcangyfrifwyd yn 2015 taw 200,000–600,000 o Abcasiaid sydd, a thrigasant 150,000–200,000 ohonynt yn eu mamwlad. Abchaseg yw'r iaith frodorol, ac mae nifer ohonynt hefyd yn siarad Georgeg, Rwseg, neu Dyrceg. O ran crefydd, Mwslimiaid Swnni (defod Hanafi) yw'r mwyafrif, a lleiafrifoedd yn arddel Cristnogaeth Uniongred Dwyreiniol (yr Eglwys Uniongred Abcasaidd) neu neo-baganiaeth ar sail crefydd yr hen Abcasiaid.

Abcasiaid
Gorymdaith o Abcasiaid yn chwifio'u baner genedlaethol.
Enghraifft o'r canlynolpobl, grŵp ethnig Edit this on Wikidata
MamiaithAbchaseg edit this on wikidata
Label brodorolаҧсуаа Edit this on Wikidata
Poblogaeth185,000 Edit this on Wikidata
CrefyddEglwysi uniongred, sunni, abkhaz neopaganism edit this on wikidata
Rhan oieithoedd Gogledd-orllewin y Cawcasws Edit this on Wikidata
Yn cynnwysApsua Edit this on Wikidata
Enw brodorolаҧсуаа Edit this on Wikidata
GwladwriaethTwrci, Moscfa, Crai Krasnodar, Oblast Rostov, St Petersburg, Adygea, Karachay-Cherkessia, Syria, De Osetia, Ajaria, Tbilisi, Samegrelo-Zemo Svaneti, Wcráin, Gwlad Iorddonen, Libanus, Yr Aifft, Unol Daleithiau America, Gweriniaeth Abchasia, Georgia, yr Almaen, Abchasia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gellir olrhain bodolaeth y genedl Abcasaidd yn ôl i'r Henfyd. Trodd y mwyafrif o Abcasiaid yn Gristnogion erbyn y 4g. Sefydlwyd gwladwriaeth annibynnol ganddynt yn 740. Daeth Abcasia dan reolaeth y Georgiaid yn 1008, ac yn brotectoriaeth i Ymerodraeth yr Otomaniaid yn 1578, ac wedi hynny trodd y mwyafrif o Abcasiaid yn Fwslimiaid. Daeth Abcasia dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia yn 1810, ac yn rhan o Ymerodraeth Rwsia yn 1864 yn sgil trechiad Tywysog Abcasia yn Rhyfeloedd y Cawcasws. Yn y cyfnod rhwng gwrthryfel 1866 a 1878, ymfudodd mwy na 70,000 o Abcasiaid i Dwrci. Yn ystod Chwyldro Rwsia, datganwyd annibyniaeth yr Abcasiaid ond cafodd ei hymgorffori'n rhan o Georgia, a ymunodd yn ddiweddarach â'r Undeb Sofietaidd. Dan lywodraeth Joseff Stalin, cafodd sawl cenedl gyfan yn yr Undeb Sofietaidd ei chaethgludo i ran arall o'r wlad. Gwnaed cynllun o'r fath ar gyfer yr Abcasiaid, ond bu farw Stalin cyn iddo gael ei weithredu. Fel rhan o Weriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Georgia, ymsefydlodd nifer o Georgiaid yn Abcasia ac erbyn 1950 bu'r Abcasiaid yn lleiafrif yn eu mamwlad. Bu rhyfela rhwng yr Abcasiaid a'r Georgiaid yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd, a datganwyd annibyniaeth Gweriniaeth Abcasia yn 1992. Dim ond ychydig o wladwriaethau sydd yn cydnabod bodolaeth Gweriniaeth Abcasia, ac mae'r mwyafrif helaeth o wledydd a chyrff rhyngwladol yn ystyried Abcasia yn diriogaeth i Georgia.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur yr Academi, "Abkhaz".
  2. James B. Minahan. Encyclopedia of Stateless Nations (Santa Barbara: Greenwood, 2016), t. 3–4.