Môr Hafren
(Ailgyfeiriad o Aberhenfelen)
Mae Môr Hafren (Saesneg: Bristol Channel) yn gainc o Fôr Iwerydd, sy'n gorwedd rhwng de Cymru a gorllewin Lloegr lle rhed Afon Hafren i'r môr trwy Aber Hafren. Mae'r gwahaniaeth rhwng trai a llanw yn eitha uchel ac yn mesur tua 40 troedfedd, sef yr ail uchaf yn Ewrop.
Math | channel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd Cefnfor yr Iwerydd |
Sir | Gwlad yr Haf, Dyfnaint, De Cymru |
Gwlad | Cymru Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.35°N 3.7°W |
Llednentydd | Afon Tawe, Afon Nedd, Afon Elái, Afon Rhymni, Afon Ogwr, Afon Axe, Afon Brue, Afon Clyne, Afon Afan, Afon Banwell, Afon Heddon, Afon Horner, Afon Washford, Afon Ddawan, Afon Holford, Afon East Lyn, Afon Hafren, Afon Wysg, Afon Avon |
Yr enw
golyguYr hen enw ar Fôr Hafren, yn ôl traddodiad a geir yn Ail Gainc y Mabinogi (Branwen ferch Llŷr) yw Aber Henfelen. Ceir enghreifftiau o'r enw hwnnw yn Llyfr Taliesin ac mewn cerdd gan Gynddelw yn ogystal.
Ynysoedd Môr Hafren
golygu- Ynys Wair
- Ynys Echni
- Steep Holm (Ynys Ronech)
Llyfryddiaeth
golygu- Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, ail argraffiad 1951). Gweler tud. 215 am ymdriniaeth Ifor Williams ar yr enw Aber Henfelen.