Penyberth
Plasdy bychan yn Llŷn oedd Penyberth gyda lle amlwg yn hanes Cymru a hanes llenyddiaeth Gymraeg. Safai ger eglwys Penrhos ar y ffordd rhwng Pwllheli a Llanbedrog ar benrhyn Llŷn, Gwynedd. Mae'n enwog heddiw yn bennaf oherwydd y "Tân yn Llŷn,' yr enw poblogaidd am y weithred o losgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth, ar 8 Medi 1936 gan D. J. Williams, Lewis Valentine, a Saunders Lewis a ystyrir yn garreg filltir yn hanes cenedlaetholdeb Cymreig. Dymchwelwyd yr hen dŷ er mwyn adeiladu'r ysgol fomio.
Math | ffermdy |
---|---|
Cysylltir gyda | Tân yn Llŷn |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Penrhos |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.87958°N 4.47688°W |
Cod OS | SH3342034220 |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
- Erthygl am y plasdy hynafol yw hon. Am losgi'r ysgol fomio ar y safle gweler Tân yn Llŷn.
Erbyn amser codi'r ysgol fomio, roedd Penyberth yn ffermdy hynafol. Yn wir, roedd yn blasdy Cymreig, yn gartref i deulu o uchelwyr lleol a fu'n ddylanwadol yn y cylch ac yn un o noddwyr olaf Beirdd yr Uchelwyr yng Nghymru. Ymhlith y beirdd a ganodd i deulu Penyberth roedd Wiliam Llŷn, un o feirdd mwyaf yr 16g, Wiliam Cynwal (cyn 1587), sy'n enwog am ei ymyrson barddol gydag Edmwnd Prys, Morus Dwyfech (bl. 1540-80), Siôn Phylip (yn 1593) a'i frawd Rhisiart Phylip o Ardudwy, a Watcyn Clywedog (yn 1649).
Ymwelodd yr achyddwr a bardd Gruffudd Hiraethog â Phenyberth yn 1558 i lunio achau ac arfbais y teulu ac ymwelodd Lewis Dwnn yno hefyd i olrhain achau'r teulu. Mae achau Dwnn a Gruffudd Hiraethog yn dangos mai cangen o deulu'r Gwynfryn oedd teulu Penyberth ac felly'n ddisgynyddion i Gollwyn ap Tangno, Arglwydd Eifionydd ar ddechrau'r Oesoedd Canol a sylfaenydd un o Bymtheg Llwyth Gwynedd.
Am gyfnod roedd teulu Penyberth yn gefnogwyr brwd i'r Reciwsiaid Catholig. Ym Mhenybryn y ganed yr awdur a Reciwsiad Robert Gwyn, mab i Siôn Wyn ap Thomas o Benyberth ac awdur Y Drych Cristianogawl, y llyfr cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru.
Roedd y pensaer enwog Clough Williams-Ellis, cynllunydd Porthmeirion, yn ddisgynnydd uniogyrchol o deulu Penyberth trwy Ann ferch John Wynn o Benyberth.
Gwerthwyd Penyberth a daeth yn eiddo amaethwyr. Chwalwyd yr hen blasty yn 1936 i wneud lle i'r ysgol fomio. Erbyn hyn mae'r ysgol fomio wedi mynd hefyd a cheir maes carafanau a chwrs golff naw twll ar y safle.
Ffynhonnell
golygu- Bob Owen, Croesor, 'Penyberth', atodiad i'r gyfrol Tân yn Llŷn gan Dafydd Jenkins (Plaid Cymru, 1937; ailargraffiad 1975).
Dolenni allanol
golygu- Penllŷn.com Archifwyd 2008-10-13 yn y Peiriant Wayback: y plac a osodwyd ar y safle i goffau'r Tân yn Llŷn gyda llun arno o ffermdy Penyberth.