Agor y brif ddewislen

Un o dri chwmwd cantref Llŷn, yng Ngwynedd, oedd Cymydmaen. Gorweddai ym mhen eithaf penrhyn Llŷn.

Ffiniai'r cwmwd â chymydau Cafflogion a Dinllaen, yn yr un cantref, i'r dwyrain. Wynebai ei arfordir gogleddol dros y môr i dde-ddwyrain Iwerddon (Leinster), ac yn y de agorai Porth Neigwl a Bae Aberdaron ar rhan ogleddol Bae Ceredigion. Dros Swnt Enlli gyferbyn â phenrhyn gorllewinol y cwmwd ceid Ynys Enlli, gorffwysfa'r Ugain Mil o Seintiau.

Neigwl - rhwng Llanengan a Botwnnog heddiw, yn wynebu ar Borth Neiglw - oedd canolfan weinyddol y cwmwd a safle ei lys. Gan fod y cwmwd ar ran olaf llwybr y pererinion i Enlli, ceid sawl canolfan eglwysig yno. Ymhlith y pwysicaf oedd Aberdaron, Llanfaelrhys, Rhiw, Bryncroes, Llangwnadl a Sarn Mellteyrn.

PlwyfiGolygu

FfynhonnellGolygu

  • A. D. Carr, 'Medieval Administrative Units', yn Atlas of Caernarvonshire (Caernarfon, 1977)