Agor y brif ddewislen

Llanbabo

pentref ar Ynys Môn

Mae Llanbabo ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yn bentref bychan 4 milltir i'r de o Fae Cemaes ar ymyl Cors y Bol ger Llyn Alaw, yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Talybolion. Ceir tystiolaeth sy'n awgrymu'n gryf fod Sefnyn, un o Feirdd yr Uchelwyr a ganai yn ail hanner y 14g, yn frodor o blwyf Llanbabo.

Llanbabo
Eglwys Pabo Sant, Llanbabo, Isle of Anglesey.jpg
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ynys Môn, Tref Alaw Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.3503°N 4.4428°W Edit this on Wikidata
Cod OS SH375865 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au Albert Owen (Llafur)

Eglwys Pabo SantGolygu

Mae'r eglwys yn gysegredig i Sant Pabo (5g). Eglwys un siambr ydyw, a godwyd yn y 12g yn ystod teyrnasiad Owain Gwynedd ond a newidiwyd yn sylweddol yn y 19g. Ynddi ceir maen cerfiedig ac arni delwedd bas-relief o'r sant, oedd yn aelod o deulu brenhinol Gwynedd yn yr Oesoedd Canol cynnar, yn gwisgo coron ac yn dwyn teyrnwialen. Mae'r maen yn dyddio o ddiwedd y 14g. Tybir i gerflun arall ar yr ynys, yn Eglwys Sant Iestyn, yn Llaniestyn, gael ei gerfio gan yr un crefftwr.

Hefyd o ddiddordeb arbennig yw'r tri phen cerfiedig canoloesol sydd wedi'u gosod yn y bwa uwchben porth yr eglwys; tybir eu bod yn cynrychioli'r Drindod (ceir pennau cyffelyb ym Mhriordy Penmon ac yn eglwys Llan-faes).

Mae muriau'r llan o gwmpas yr eglwys ar ffurf crwn, arwydd o hynafrwydd y safle.

Hynafiaethau eraillGolygu

Filltir i'r de o'r pentref ceir maen hir ac yn agos i hwnnw mae safle Bedd Branwen ar lan Afon Alaw.

LlyfryddiaethGolygu

  • Peter Lord, Gweledigaeth yr Oesoedd Canol (Caerdydd, 2003). Gweler t. 76 am luniau o bennau'r bwa, a t. 216 a lun o'r maen cerfiedig.