Afon yn Sir Conwy, gogledd Cymru yw Afon Ganol. Mae'n llifo o'r bryniau ger Mochdre i gyrraedd Môr Iwerddon ger Bae Penrhyn. Ei hyd yw tua 4 milltir.[1]

Afon Ganol
Tarddiad Afon Ganol ger Llangwstennin
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.308572°N 3.767305°W Edit this on Wikidata
Hyd4 milltir Edit this on Wikidata
Map

Mae'r afon yn tarddu yn y bryniau rhwng Bryn-y-maen a Llansanffraid Glan Conwy, i'r de-orllewin o dref Bae Colwyn. Llifa ar gwrs i gyfeiriad y gogledd i'r dyffryn llydan gwastad ger Mochdre (hen gwrs Afon Conwy yn y cyfnodau cynhanesyddol) lle mae'n llifo dan yr A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru gan droi i gyfeiriad y dwyrain. Ger Mochdre mae'n newid cyfeiriad eto i lifo i gyfeiriad y gogledd rhwng Llangystennin a Bryn Euryn. Mae'n mynd heibio i Llandrillo-yn-Rhos a thrwy Glwb Golff Bae Penrhyn i aberu yn y môr rhwng Bae Penrhyn a Llandrillo.[1]

Geirdarddiad

golygu

Cyfeiria'r enw at y ffaith fod yr afon yn dynodi'r hen ffin sirol rhwng Sir Gaernarfon a'r hen Sir Ddinbych.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Map OS 1:50,000 Dinbych a Bae Colwyn