Afon Nîl Wen
Afon yng ngogledd-ddwyrain Affrica ac un o'r ddwy afon sy'n ymuno i ffurfio afon Nîl yw Afon Nîl Wen.
Pont dros Afon Nîl Wen yn Juba, Swdan | |
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Afon Nîl |
Gwlad | Rwanda, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Swdan, De Swdan, Tansanïa, Wganda |
Uwch y môr | 350 metr |
Cyfesurynnau | 0.41522°N 33.19558°E, 15.6236°N 32.5019°E |
Tarddiad | Llyn Victoria |
Aber | Afon Nîl |
Llednentydd | Afon Bahr el Ghazal, Afon Sobat, Bahr el Zeraf, Achwa, Afon Adar, Afon Kidepo, Afon Ora, Afon Kafu |
Dalgylch | 1,059,000 cilometr sgwâr |
Hyd | 2,620 ±10 cilometr |
Arllwysiad | 878 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad |
Llynnoedd | Llyn Victoria, Llyn Albert, Llyn No |
Mae'r afon yma yn dechrau yn Llyn Victoria ar ffiniau Wganda, Cenia a Tansanïa, er bod afonydd o faint sylweddol yn rhedeg i mewn i'r llyn yma ac felly'n rhan o'r un system. Mae'n llifo trwy Lyn Albert ac yna trwy Swdan - o ranbarth De Swdan a'i phrifddinas Juba, i'r gogledd - lle mae'n ymuno a'r Nîl Las ger Khartoum.
Afon Nil Wen sy'n cyfrannu'r rhan fwyaf o'r dwr i Afon Nîl am ran helaeth o'r flwyddyn, heblaw yn yr haf, pan fydd y tymor glawog yn ucheldir Ethiopia a'r Nîl Las yn cyfrannu'r rhan fwyaf o'r dwr.