Mae Alex Cuthbert (ganwyd 5 Ebrill 1990, CaerloywLloegr) yn chwaraewr Rygbi'r Undeb sy'n chwarae ar yr asgell i ranbarth Gleision Caerdydd a thîm rhyngwladol Cymru.

Alex Cuthbert
Dyddiad geni (1990-04-05) 5 Ebrill 1990 (33 oed)
Man geni Gloucester, England
Taldra 1.98 m (6 ft 6 in)
Pwysau 106 kg (16 st 10 lb; 234 lb)
Ysgol U. Newent Community School
Hartpury College
Prifysgol UWIC

Bywyd cynnar golygu

Yn enedigol o Gaerloyw, aeth Cuthbert i Ysgol Gymunedol Newent, ac yn ddiweddarach cafodd ddiploma yng Ngholeg Hartpury cyn astudio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Gyrfa ryngwladol golygu

Er iddo gael ei eni yn Lloegr, mae Cuthbert yn gymwys i chwarae dros Gymru oherwydd i'w fam gael ei geni yn Wrecsam.[1][2]

Dechreuodd Cuthbert chwarae rygbi gyntaf yn ystod ei gyfnod yn Ysgol Gymundol Newent. Chwaraeodd dros glybiau Hucclecote RFC a Westbury-on-Severn RFC. Symudodd wedi hynny i Hartpury College College R.F.C., lle roedd yn cael ei hyfforddi gan Allan Lewis, gyda Jonny May ar yr asgell arall.[3] Aeth ymlaen i astudio yn UWIC, ble bu'n chwarae i'r coleg a Chlwb Rygbi Caerdydd. Dyna pryd y daeth i sylw hyfforddwr tîm saith-bob-ochr Cymru, Paul John.[4] O ganlyniad, chwaraeodd Cuthbert yng Nghyfres saith-bob-ochr IRB y byd yn 2009-2010 a 2010-2011, ac yng Ngemau'r Gymanwlad, 2010.

Daeth Cuthbert i amlygrwydd yn 2011 pan yn chwarae gyda Gleision Caerdydd. Dangosodd ei ddoniau yn ymgyrch Cwpan Heineken, gan sgorio dau gais yn erbyn Racing Metro a chyfrannu at sicrhau lle i'r rhanbarth yn yr rownd go-gyn-derfynol. Gwnaeth dibyn o argraff, a gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn eu gem yn erbyn Awstralia ym mis Rhagfyr.[5] Cymerodd le George North yn ail hanner y gem honno, ond y gofod a adawyd gan Shane Williams a hawliwyd ganddo yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012. Gyda thaldra o chwe troedfedd a thair modfedd, roedd yn chwaraewr tra gwahanol i Shane Williams, ond mae'n amlwg i'w berfformiadau diweddar, ei gyflymdra a'i allu i droi cyfleon yn bwyntiau yn ddigon i argyhoeddi Warren Gatland ei fod yn haeddu ei le yng ngharfan Cymru.

Dechreuodd Cuthbert bob gêm yn ymgyrch Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2012. Sgoriodd y cais agoriadol pan gurodd Cymru yr Alban o 27-13, ac yna'r ail gais ym muddugoliaeth Cymru o 24-3 yn erbyn yr Eidal. Cafodd wobr Seren y Gêm am ei berfformiad. Sgoriodd Cuthbert yr unig gais yng ngêm olaf yr ymgyrch yn 2012, yn erbyn Ffrainc, gan gynorthwyo i sicrhau Camp Lawn i Gymru am y trydydd tro mewn wyth tymor.[6]

Dewiswyd Cuthbert i chwarae pob un o gemau rhyngwladol yr hydref 2012 yn erbyn yr Ariannin, Samoa, Seland Newydd ac Awstralia. Sgoriodd yr ail gais yn erbyn Seland Newydd.

Yn dilyn ei ddau gais i Gymru yn erbyn Lloegr yn y gêm i benderfynu pwy fyddai enillwyr Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2013, cafodd ei ddewis i deithio gyda'r Llewod ar eu taith i Awstralia.

Cyfeiriadau golygu

  1. Davies, Iwan (5 Rhagfyr 2011). "Cuthbert gives fans a glimpse of the future". South Wales Argus. Cyrchwyd 12 Chwefror 2012.
  2. Parfitt, Delme (18 Chwefror 2012). "Farmer's son Alex Cuthbert loving life in Wales' Six Nations limelight". WalesOnline. Cyrchwyd 29 Mai 2013.
  3. "Six Nations 2014: Jonny May relishes Alex Cuthbert reunion". BBC Sport. 6 Mawrth 2014. Cyrchwyd 6 Mawrth 2014.
  4. Roberts, Gareth (23 Chwefror 2012). "Six Nations: England-born Cuthbert seeks Wales glory". BBC Wales. Cyrchwyd 23 Chwefror 2012.
  5. "Warren Gatland gambles on fitness doubts for Australia Test". BBC Sport. 21 Tachwedd 2011. Cyrchwyd 12 Chwefror 2012.
  6. "Wales 16-9 France". Guardian (London). 17 Mawrth 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Ebrill 2012. Cyrchwyd 4 Ebrill 2012. Unknown parameter |dead-url= ignored (help)

Dolenni allanol golygu