Gemau'r Gymanwlad 2010

Gemau'r Gymanwlad 2010 oedd y pedwerydd tro ar bymtheg i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Delhi Newydd, India oedd cartref y Gemau rhwng 3 - 14 Hydref. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Cyfarfod Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Jamaica ym mis Tachwedd 2003 gyda Delhi Newydd yn ennill y bleidlais gyda 46 pleidlais i 22 Hamilton, Ontario, Canada.

Gemau'r Gymanwlad 2010
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad2010 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd3 Hydref 2010 Edit this on Wikidata
Daeth i ben14 Hydref 2010 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadDelhi, Jawaharlal Nehru Stadium Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbadminton at the 2010 Commonwealth Games, archery at the 2010 Commonwealth Games, lawn bowls at the 2010 Commonwealth Games, boxing at the 2010 Commonwealth Games, weightlifting at the 2010 Commonwealth Games, hockey at the 2010 Commonwealth Games, athletics at the 2010 Commonwealth Games, netball at the 2010 Commonwealth Games, cycling at the 2010 Commonwealth Games, wrestling at the 2010 Commonwealth Games, rugby sevens at the 2010 Commonwealth Games, shooting at the 2010 Commonwealth Games, swimming at the 2010 Commonwealth Games, squash at the 2010 Commonwealth Games, synchronised swimming at the 2010 Commonwealth Games, tennis at the 2010 Commonwealth Games, table tennis at the 2010 Commonwealth Games, gymnastics at the 2010 Commonwealth Games, diving at the 2010 Commonwealth Games Edit this on Wikidata
RhanbarthDelhi Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.cwgdelhi2010.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
19eg Gemau'r Gymanwlad
Campau21
Seremoni agoriadol3 Hydref
Seremoni cau14 Hydref
Agorwyd yn swyddogol ganTywysog Cymru
XVIII XX  >

Cyflwynyd Tenis i'r Gemau am y tro cyntaf ond bu raid i'r trefnwyr beidio cynnwys Triathlon gan nad oedd unrhyw leoliad addas ar gyfer y cymal nofio[1]. Er bod galw am ail gyflwyno Criced nid oedd Bwrdd Criced India'n awyddus i ddilyn cais y trefnwyr am gystadleuaeth 20Pelawd yn hytrach na chystadleuaeth un dydd[2].

Y tîm cartref oedd â'r nifer fwyaf o athletwyr, gyda 495 yn cynrychioli India a Twfalw oedd â'r tîm lleiaf gyda dim ond tri athletwr.

Cafwyd athletwyr o Rwanda am y tro cyntaf ers i'r wlad ymuno â'r Gymanwlad ym 2009[3] ond ni chafodd Ffiji gystadlu gan eu bod wedi eu gwahardd o'r Gymanwlad[4].

Uchafbwyntiau'r Gemau

golygu

Roedd y Gemau'n lwyddiant ysgubol i'r tîm cartref wrth i India orffen yn ail yn y tabl medalau - eu safle gorau erioed - gan gynnwys 14 medal aur yn y Saethu a 10 medal aur yn y Reslo. Casglodd India eu medalau aur cyntaf ar y trac a chae Athletau ers 1958 wrth i'r merched 4x400m guro Lloegr a Chanada ac yng nghystadleuaeth y ddisgen llwyddodd Krishna Poonia, Harvant Kaur a Seema Antil ennill aur, arian ac efydd i'r tîm cartref.

Daeth perfformiad gorau Cymru yn y 400m dros y clwydi wrth i Dai Greene gipio'r fedal aur a Rhys Williams y fedal efydd[5].

Chwaraeon

golygu

Timau yn cystadlu

golygu

Cafwyd 71 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad, 2010 gyda Rwanda yn ymddangos am y tro cyntaf.

Tabl Medalau

golygu
 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1   Awstralia 74 55 48 177
2   India 38 27 36 101
3   Loegr 37 59 46 142
4   Canada 26 17 32 75
5   Cenia 12 11 10 33
5   De Affrica 12 11 10 33
7   Maleisia 12 10 13 35
8   Singapôr 11 11 9 31
9   Nigeria 11 10 14 35
10   Yr Alban 9 10 7 26
11   Seland Newydd 6 22 8 36
12   Cyprus 4 3 5 12
13   Cymru 3[6] 6 10 19
14   Gogledd Iwerddon 3 3 4 10
15   Samoa 3 0 1 4
16   Jamaica 2 4 1 7
17   Pacistan 2 1 2 5
18   Wganda 2 0 0 2
19   Bahamas 1 1 3 5
20   Botswana 1 1 2 4
21   Nawrw 1 1 0 2
22 Ynysoedd Caiman 1 0 0 1
22   St Vincent 1 0 0 1
24   Trinidad a Tobago 0 4 2 6
25   Camerŵn 0 2 4 6
26   Ghana 0 1 3 4
27   Namibia 0 1 2 3
28   Sri Lanca 0 1 1 2
29   Papua Gini Newydd 0 1 0 1
29   Seychelles 0 1 0 1
31   Ynys Manaw 0 0 2 2
31   Mawrisiws 0 0 2 2
31   Tonga 0 0 2 2
34   Gaiana 0 0 1 1
34   Bangladesh 0 0 1 1
34   Sant Lwsia 0 0 1 1
Cyfanswm 245 244 254 743

Medalau'r Cymry

golygu

Roedd 175 aelod yn nhîm Cymru ac yn ei seithfed ymddangosiad yng Ngemau'r Gymanwlad llwyddodd Robert Weale i ennill ei ail fedal aur, 24 mlynedd ar ôl ennill ei fedal aur cyntaf yn ystod Gemau'r Gymanwlad 1986.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Dai Greene Athletau 400m Dros y clwydi
Aur Sean McGoldrick[6] Bocsio 56 kg
Aur Robert Weale Bowlio Lawnt Senglau
Arian Carys Parry Athletau Taflu'r morthwyl
Arian Jenny McLoughlin Athletau 100m T37
Arian Becky James Beicio Ras wibio unigol
Arian Michaela Breeze Codi Pwysau 63 kg
Arian Francesca Jones Gymnasteg (Rhythmig) Cylch
Arian Jazmin Carlin Nofio 200m Dull rhydd
Efydd Rhys Williams Athletau 400m Dros y clwydi
Efydd Christian Malcolm Athletau 200m
Efydd Becky James Beicio Ras yn erbyn y cloc
Efydd Keiron Harding Bocsio 75 kg
Efydd Jermaine Asare Bocsio 81 kg
Efydd Annwen Butten
a Hannah Smith
Bowlio Lawnt Parau
Efydd Jazmin Carlin Nofio 400m Dull rhydd
Efydd Georgia Davies Nofio 50m Dull cefn
Efydd Jemma Lowe Nofio 100m Dull pili pala
Efydd Johanne Brekke Saethu Reiffl 50m tra'n gorwedd

Cyfeiriadau

golygu
  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-10. Cyrchwyd 2013-10-01.
  2. http://www.espncricinfo.com/ci/content/story/234191.html
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-29. Cyrchwyd 2013-10-01.
  4. http://edition.cnn.com/2009/WORLD/asiapcf/09/01/fiji.commonwealth/
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2002-07-25. Cyrchwyd 2013-10-01.
  6. 6.0 6.1 http://www.bbc.co.uk/sport/0/boxing/13552023

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu
Rhagflaenydd:
Melbourne
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Glasgow