Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2013

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2013 oedd y 14eg yng nghyfres Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, sef prif gystadleuaeth rygbi'r undeb yn hemisffêr y gogledd. Chwaraewyd pymtheg gêm dros gyfnod o bump penwythnos rhwng 2 Chwefror a 16 Mawrth 2013. Caiff ei galw, hefyd, yn "Cystadleuaeth RBS 2013, y Chwe Gwlad" oherwydd cyfraniad y noddwyr: Banc Cenedlaethol yr Alban.

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2013
Dyddiad2 Chwefror 2013 – 16 Mawrth 2013
Gwledydd Lloegr
 Ffrainc
 Iwerddon
 yr Eidal
 yr Alban
 Cymru
Ystadegau'r Bencampwriaeth
Pencampwyr Cymru (26ed tro)
Cwpan Calcutta Lloegr
Tlws y Mileniwm Lloegr
Quaich y Ganrif yr Alban
Tlws Giuseppe Garibaldi yr Eidal
Gemau a chwaraewyd15
Niferoedd yn y dorf1,042,965 (69,531 y gêm)
Ceisiau a sgoriwyd37 (2.47 y gêm)
Sgoriwr y nifer fwyaf
o bwyntiau
Cymru Leigh Halfpenny (74 pwynt)
Sgoriwr
y nifer fwyaf
o geisiadau
Cymru Alex Cuthbert (4 cais)
Chwaraewr y bencampwriaethCymru Leigh Halfpenny
Gwefan swyddogol[1] (Saesneg)
2012 (Blaenorol) (Nesaf) 2014
Y Chwe Gwlad

Enillodd Cymru eu hail bencampwriaeth mewn dwy flynedd, yn dilyn eu buddugoliaeth o 30 i 3 yn erbyn Lloegr yn eu gêm derfynol.[1] Cyflwynwyd y llwy bren i Ffrainc a ddaeth yn olaf am y tro cyntaf ers 1999.

O gyfri holl gemau (gan gynnwys Pencampwriaethau'r Pum Gwlad), hwn oedd y 119fed gêm.

Tabl golygu

Safle Gwlad Gêmau Pwyntiau Pwyntiau
taflen
Chwarae Ennill Cyfartal Colli Yn achos Yn erbyn Gwahaniaeth Ceisiau
1   Cymru 5 4 0 1 122 66 +56 9 8
2   Lloegr 5 4 0 1 94 78 +16 5 8
3   Yr Alban 5 2 0 3 98 107 −9 7 4
4   Yr Eidal 5 2 0 3 75 111 −36 5 4
5   Iwerddon 5 1 1 3 72 81 −9 5 3
6   Ffrainc 5 1 1 3 73 91 −18 6 3

Timau golygu

Y timau a gymerodd ran oedd:

Gwlad Lleoliad Dinas Rheolwr Capten
  Yr Alban Murrayfield Caeredin Scott Johnson dros do Kelly Brown
  Cymru Stadiwm y Mileniwm Caerdydd Rob Howley dros do Sam Warburton/Ryan Jones/Gethin Jenkins
  Yr Eidal Stadio Olimpico Rhufain Jacques Brunel Sergio Parisse/Martin Castrogiovanni
  Ffrainc Stade de France Paris Philippe Saint-André Thierry Dusautoir (yn lle Pascal Papé)
 Iwerddon Stadiwm Aviva Dulyn Declan Kidney Jamie Heaslip
  Lloegr Twickenham Llundain Stuart Lancaster Chris Robshaw

Cyfeiriadau golygu