Awdures a dramodydd a aned yn Rwmania ac a fu'n byw yn Hwngari a Ffrainc oedd Ana Novac (1929 - 31 Mawrth 2010). Bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol Rwmania am gyfnod a bu farw ym Mharis yn 80 oed.[1][2]

Ana Novac
GanwydZimra Harsányi Edit this on Wikidata
29 Mehefin 1929 Edit this on Wikidata
Oradea, Dej Edit this on Wikidata
Bu farw31 Mawrth 2010 Edit this on Wikidata
Paris, 8fed Bwrdeisdref Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwmania Rwmania
Galwedigaethysgrifennwr, dramodydd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol Rwmania Edit this on Wikidata
PriodPaul Schuster Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Zimra Harsányi yn Dej yng ngogledd Transylfania, Romania ac fe'i magwyd yn Oradea (Hwngareg: Nagyvárad), hefyd yn Romania.[3][4][5][6][7][8]

Yr Iddewes golygu

Aeth Novac i ysgol Iddewig yn Miskolc, Hwngari. Pan gymerodd yr Almaen Natsïaidd reolaeth dros Hwngari ar 12 Mawrth 1944, fe'i hanfonwyd i Auschwitz. Treuliodd amser hefyd yn Kraków-Płaszów a gwersylloedd llai eraill a llwyddodd i sgwennu dyddiadur yn ystod ei hamser yn y gwersylloedd. Cafodd ei rhyddhau pan oedd yn Chrastava yn Tsiecoslofacia (sydd heddiw yn y Weriniaeth Tsiec) ym Mai 1945. Fodd bynnag, ni oroesodd ei rhieni a'i brawd iau. Dychwelodd Novac i Rwmania am gyfnod cyn symud i Berlin yn ystod canol y 1960au, gan ymgartrefu ym Mharis yn ddiweddarach.[1][2][9]

Yr awdures golygu

Cyhoeddwyd ei dyddiadur fel llyfr a gyfieithwyd i nifer o ieithoedd gan gynnwys Ffrangeg, yr Almaeneg, yr Eidaleg, yr Iseldireg a Hwngareg. Gellir cyfieithu'r teitl i Dyddiau Braf fy Ieuenctid (1997). Cyhoeddodd hefyd nifer o lyfrau a dramâu eraill.[1]

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Undeb Ysgrifenwyr Rwmania am rai blynyddoedd. [10]

Anrhydeddau golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • Match a la Une
  • Les beaux jours de ma jeunesse. Julliard, Paris 1968
  • Le maître de Trésor. Balland, 2002, ISBN 2-268-04340-1
  • Les noces de Varenka. Calmann-Lévy, 1996, ISBN 2-7021-2491-7
  • Comme un pays qui ne figure pas sur la carte. Balland, Paris 1992
  • Un lit dans l’hexagone
  • Si j’etais un bebe-phoque, ou les souvenirs d’un zombie. Les Temps, Modernes, Paris
  • Le complexe de la soupe. Ed. L’Avant Scene, Paris
  • Cap sur la Lune. Le Meridien Editeur
  • Les accidents de l’ame, Balland, Paris
  • Le grabat. 1988
  • Nocturne’. 1984
  • La Porte. 1985
  • Un nu deconcertant. 1970

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Zapruder, Alexandra (2015). Salvaged Pages: Young Writers' Diaries of the Holocaust. t. 429. ISBN 0300205996.
  2. 2.0 2.1 "Ana Novac" (yn Danish). People's Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-29. Cyrchwyd 2019-06-16.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120418628. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120418628. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120418628. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. "Ana Novac". "Ana Novac". "Ana Novac". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120418628. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  7. Man geni: https://deces.matchid.io/id/-vVwg79eAJ39.
  8. Enw genedigol: https://www.latimes.com/archives/la-xpm-1997-aug-25-ls-25717-story.html.
  9. Vice, S (2004). Children Writing the Holocaust. tt. 122–125. ISBN 0230505899.
  10. Man gwaith: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 29 Ionawr 2023.
  11. Mit „Lebenslauf anstatt eines Vorworts“, S. 5–8, Text von 1965. Gesamt 186 Seiten. Ganzseit. s/w. Frontispiz mit Namenszug.
  12. nach der von Novac selbst überarb. französischen Neufassung samt neuem Vorwort von 2008. 320 Seiten