Teyrnwialen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gerian2 (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd drwy gyfieithu'r dudalen "Sceptre"
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:36, 29 Hydref 2020

Mae teyrnwialen yn ffon, staff neu wialen a ddelir yn y llaw gan frenin neu frenhines sy'n rheoli, fel eitem o arwyddocâd brenhinol neu imperialaidd. Yn drosiadol, mae'n golygu awdurdod neu sofraniaeth frenhinol neu imperialaidd.

Mae stela Cyfraith Hammurabi yn dangos y duw Shamash yn dal gwialenffon.
Cerfiad o Darius I, brenin Persia ar ei orsedd, yn dal teyrnwialen a lotws

Hynafiaeth

 
Cerflun o Iau yn amgueddfa'r Hermitage, yn dal y deyrnwialen ac orb.

Roedd y Was a mathau eraill o ffyn yn arwyddion o awdurdod yn yr Hen Aifft. Am y rheswm hwn fe'u disgrifir yn aml fel "teyrnwialennau", hyd yn oed os ydynt yn ffyn o hyd llawn. Darganfuwyd un o'r teyrnwialennau brenhinol cynharaf ym medd Khasekhemwy yn Abydos. Gwyddwn fod brenhinoedd hefyd yn cario ffyn, a dangosir y Pharo Anedjib ar gerflunau cerrig yn cario staff.

Tybiwn hefyd bod gan deyrnwialennau rhan ganolog yn y byd Mesopotamaidd, ac yn y rhan fwyaf o achosion roedd yn rhan o arfbeisiau brenhinol sofraniaid a duwiau. Mae hyn yn ddilys trwy gydol yr hanes Mesopotamaidd cyfan, fel y dangosir gan destunau llenyddol ac gweinyddol, ac mewn eiconograffeg. Enw y deyrnwialen Mesopotamaidd oedd ĝidru yn Swmereg ac ḫaṭṭum yn Acadeg.[1]

Mae gan y waith llenyddol Tamil hynafol y Tirukkural pennodauar foeseg y deyrnwialen. Yn ôl Valluvar, "nid ei waywffon ond y deyrnwialen a rwymodd frenin i'w bobl."[2]

Ymhlith y Groegiaid cynnar, y teyrnwialen (yn Hen Roeg σκῆπτρον neu skeptron) yw ffon hir, fel yr hyn a defnyddiodd Agamemnon, neu fe'i defnyddiwyd gan henuriaid uchel eu parch. Daeth barnwyr, arweinwyr milwrol, offeiriaid, ac eraill mewn awdurdod i'w ddefnyddio hefyd. Fe'i cynrychiolir ar fasys wedi'u paentio fel ffon hir wedi'u haddurno â metel. Pan fydd Zeus neu Hades yn defnyddio'r teyrnwialen, aderyn sydd ar ei ben.

Ymhlith yr Etrusciaid, defnyddiwyd teyrnwialennau gwych gan frenhinoedd ac rheolwyr uchaf yr offeiriadaeth. Mae gan yr Amgueddfa Brydeinig, y Fatican, a'r Louvre teyrnwialennau Etruscaidd aur, wedi'u haddurno i'r eithaf.

Mae'n debyg bod y deyrnwialen Rufeinig yn deillio o'r deyrnwialen Etruscaidd. O dan y Weriniaeth, roedd teyrnwialen ifori yn arwydd o gonswl. Fe'i defnyddiwyd hefyd gan gadfridogion buddugol a dderbyniodd y teitl imperator.


O dan yr Ymerodraeth Rufeinig, defnyddiwyd y sceptrwm Augusti gan yr ymerawdwyr, ac yn roedd yn ifori, gydag eryr euraidd ar y pen.

Oes Gristnogol

 
Teyrnwialen Frenhinol Boris III o Fwlgaria
 
Portread 1872 o'r Ymerawdwr Pedro II o Brasil, yn dal y Deyrnwialen Ymerodrol fawr iawn ac yn gwisgo eitemau eraill o Dlysau'r Goron Brasil

Pan ddechreuodd Gristnogaeth, yn aml roedd gan deyrnwialennau croes ar eu pennau yn lle eryr. Fodd bynnag, yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd pennau'r deyrnwialennau yn amrywio'n sylweddol.

Yn Lloegr, o gyfnod cynnar iawn, defnyddiwyd dau teyrnwialen ar yr un pryd, ac o amser Rhisiart I caiff eu gwahaniaethu trwy cael chroes neu golomen ar eu pennau. Yn Ffrainc, roedd gan y deyrnwialen frenhinol fleur de lys ar ei ben, ac roedd gan un arall, a elwir y main de justice, law agored ar ei ben.


Mae seremoni coroni gynharaf Lloegr o'r 9fed ganrif yn sôn am deyrnwialen (sceptrum), a ffon (baculum). Yng nghoroni Ethelred II, mae teyrnwialen (sceptrum ), a gwialen (virga) yn ymddangos. Mewn cyfrif o goroni Rhishart I mae'r deyrnwialen brenhinol o aur gyda chroes aur (sceptrum), a'r wialen aur gyda cholomen aur ar y top (virga), rhan o Dlysau'r Goron, yn ymddangos yn y cofnod hanesyddol am y tro cyntaf. Tua 1450 lluniodd Sporley, mynach o San Steffan, restr o'r creiriau yno. Roedd y rhain yn cynnwys y gwrthrychau a ddefnyddiwyd adeg coroni Sant Edward y Cyffeswr, a chafodd eu gadael ar gyfer coroni ei olynwyr. Yn y rhestr enwir teyrnwialen aur, gwialen bren, a gwialen haearn. Goroesodd y rhain tan y Werinlywodraeth, ac fe'u disgrifir yn manwl mewn rhestr o'r regalia a luniwyd ym 1649, pan cafodd popeth eu dinistrio.

Ar gyfer coroni Siarl II, cafodd teyrnwialennau newydd eu creu gyda croes a'r cholomen ar eu pennau, a gyda mân newidiadau maent yn dal i gael eu defnyddio heddiw. Mae dau teyrnwialen arall ar gyfer y frenhines gydweddog wedi'u hychwanegu ers hynny.

Mae gan faneri Moldofa, a Montenegro teyrnwialennau arnynt.

Cyfeiriadau

  1. Bramanti, Armando (2017). "The Scepter (ĝidru) in Early Mesopotamian Written Sources". KASKAL. Rivista di storia, ambienti e culture del Vicino Oriente Antico 2017 (14). ISBN 978-88-94926-03-3. https://www.academia.edu/36557491/2017._The_Scepter_%C4%9Didru_in_Early_Mesopotamian_Written_Sources.
  2. Sundaram, P. S. (1990). Tiruvalluvar: The Kural (arg. First). Gurgaon: Penguin Books. t. 12. ISBN 978-01-44000-09-8.