Robert Thomas (Ap Vychan): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

gweinidog ac athro diwinyddiaeth gyda'r Annibynwyr, bardd a llenor
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Llenor a gweinidog o ardal Penllyn, Gwynedd, oedd '''Robert Thomas''', enw barddol '''Ap Vychan''' neu '''Ap Fychan''' (11 Awst, 1809 - 1880). Roedd yn perthyn i ...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 19:45, 25 Mehefin 2007

Llenor a gweinidog o ardal Penllyn, Gwynedd, oedd Robert Thomas, enw barddol Ap Vychan neu Ap Fychan (11 Awst, 1809 - 1880). Roedd yn perthyn i Fychaniaid Caer Gai ac felly'n ddisgynydd pell i Rowland Vaughan, Gwerful Fychan a Tudur Penllyn.

Ganed Ap Vychan (sic) mewn bwthyn wrth waelod Pennant-Lliw ym mhlwyf Llanuwchllyn. Tyfodd i fyny mewn amgylchiadau caled iawn. Dywed am ei fam,

'Llon oedd, llawen o hyd, — eon wenai
Yn wyneb caledfyd;
Canai hi heb ofni'r byd
Yn oedfa gerwin adfyd.'

Cafodd ei addysg i gyd gan ei dad, Dafydd Thomas, a ddysgodd iddo ddarllen a sgwennu Cymraeg ac elfennau rhyfyddiaeth. Ar ôl gweithio fel gwas yma ac acw, aeth i fod yn brentis yng Nghonwy a phriododd ferch ei feist, William Jones. Dechreuodd bregethu. Daeth Ap Vychan yn gyfaill i'r Methodus mawr J. R. Jones, Ramoth. Bu'n weinidog yn Ninas Mawddwy a phlwyf Rhiwabon, ymysg lleoedd eraill a chafodd waith fel golygydd Y Dysgedydd, cylchgrawn yr Annibynwyr. Yn 1873 fe'i apwyntiwyd yn athro diwinyddiaeth yng Ngholeg y Bala a daeth i adnabod Michael D. Jones. Bu farw yn 1880.

Gwnaeth Ap Vychan dipyn o enw iddo'i hun fel bardd, gan ennill dwy gadair am ei awdlau yn Eisteddfodau'r Rhyl a Chaerlleon, ond nid oes llawer o werth i'w farddoniaeth. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur rhyddiaith mewn arddull syml, diddorol, a byw ar y pynciau agosaf at ei galon, sef cymdeithas, traddodiadau a chymeriadau Penllyn a Gwynedd. Mae ei hunangofiant yn ddogfen gymdeithasol bywsig ar fywyd gwerin cefn gwlad gogledd Cymru yn hanner cyntaf y 19eg ganrif.

Llyfryddiaeth

Ceir detholiad da o ryddiaith Ap Vychan yn y gyfrol Hunangofiant ac Ysgrifau Ap Fychan, gol. W. Lliedi Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948). Cyhoeddwyd rhai o'i draethodau yn y cofiant iddo gan Michael D. Jones a D. V. Thomas.