Gwerful Fychan

bardd

Prydyddes o Benllyn, Meirionnydd (Gwynedd), oedd Gwerful Fychan (fl. c. 1430 - 1490). Roedd hi'n aeres plasdy Caer Gai, ger Llanuwchllyn. Ei henw llawn yn yr achau yw Gwerful ferch Ieuan Fychan ab Ieuan ap Hywel y Gadair ap Gruffudd ap Madog ap Rhirid Flaidd.[1]

Gwerful Fychan
Ganwyd15 g Edit this on Wikidata
Penllyn Edit this on Wikidata
Bu farw1490 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, llenor Edit this on Wikidata

Hanes a gwaith

golygu

Priododd Gwerful y bardd Tudur Penllyn (c. 1420 - 1485) a chawsant fab, Ieuan (fl. c. 1480), yntau'n fardd dawnus.[1]

Dim ond darnau o waith Gwerful Fychan sydd wedi goroesi (ni ddylid ei chymysgu â Gwerful Mechain, prydyddes arall o'r un cyfnod). Ond arosodd y cof amdani'n fyw yn ardal Penllyn hyd yr 20g. Priodolir iddi 'Cywydd y Mawrth Glas' a sawl englyn a gylchredai ar lafar gwlad am ganrifoedd ar ôl ei marwolaeth. Cymysgodd yr addysgwr a'r llenor Owen Morgan Edwards rhwng Gwerful Fychan a Gwerful Mechain yn ei lyfr Cartrefi Cymru (1896).

Dyma ei englyn i Hen Geffyl blinedig, a gofnodir gan Robert Thomas (Ap Vychan):

Hen geffyl, gogul, digigog — sypyn,
Swper brain a phiog;
Ceisio'r wyf, mae'n casáu'r og,
Wair i'r Iddew gorweiddiog.[2]

Llyfryddiaeth

golygu

Cyhoeddwyd darnau o waith Gwerful yn:

  • M. D. Jones a D. V. Thomas, Cofiant... y Parch. R. Thomas (Ap Vychan)
  • Gwaith ap Vychan yng Nghyfres y Fil; ceir golygiad mwy diweddar yn Hunangofiant ac Ysgrifau Ap Fychan, gol. W. Lliedi Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948)
  • Robert Griffith, Y Delyn Gymreig

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Thomas Roberts (gol.), Gwaith Tudur Penllyn ac Ieuan ap Tudur Penllyn (Caerdydd, 1958). Tud. xi-xii.
  2. Gwaith ap Vychan yng 'Nghyfres y Fil'