Bré

tref yn Iwerddon

Mae Bré[1] (Saesneg: Bray) yn dref arfordirol yng ngogledd Contae Chill Mhantáin, yr Iwerddon. Fe'i lleolir tua 20 km (12 milltir) i'r de o ganol dinas Dulyn ar yr arfordir dwyreiniol[2]. Mae ganddi boblogaeth o 32,600 gan ei gwneud y nawfed ardal drefol fwyaf yn Iwerddon (yn ôl cyfrifiad 2016).

Bray
Mathanheddiad dynol Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Würzburg, Dublin, Bègles, Carrara Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Wicklow Edit this on Wikidata
GwladBaner Gweriniaeth Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon
Arwynebedd7.55 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr18 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2014°N 6.1108°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Bré yn dref glan y môr. Gan ei fod yn agos i Ddulyn mae'n gyrchfan i ymwelwyr o'r brifddinas yn ogystal â thwristiaid o lefydd eraill[3]

Lleoliad golygu

Lleolir y dref ar yr arfordir ddwyreiniol, i'r de o Contae Átha Cliath. Mae Seanchill, un o faestrefydd Dulyn, yn gorwedd i'r gogledd, a Na Clocha Liatha, Contae Chill Mhantáin yn gorwedd i'r de. Mae pentref Áth na Sceire i'r gorllewin o'r dref, wrth odre mynyddoedd Sléibhte Chill Mhantáin.

Mae Afon An Deargail yn codi yn Sléibhte Chill Mhantáin ac yn cyrraedd pen ei thaith i'r gogledd o'r dref.

Lleolir pentir Ceann Bhré ym mhen deheuol y promenâd Fictoraidd gyda llwybrau sy'n arwain at y copa ac ar hyd clogwyni'r môr.

Poblogaeth golygu

Y boblogaeth hanesyddol
BlwyddynPobl.±%
199126,953—    
199627,923+3.6%
200230,951+10.8%
200631,901+3.1%
201131,872−0.1%
201632,600+2.3%

Cysylltiadau rhyngwladol golygu

Mae Bré wedi ei wedi'i gefeillio â :[4]

Hanes golygu

Yn yr oesoedd canol roedd Bré ar ymyl deheuol y Pâl, ac roedd y rhanbarth arfordirol yn cael ei lywodraethu'n uniongyrchol gan Goron Lloegr o Gastell Dulyn. Roedd y cefn gwlad yn bennaf o dan reolaeth Penaethiaid Gwyddelig claniau O'Toole a O'Byrne. Mae Bré yn ymddangos ar fap o 1598 sy'n dwyn t teitl A Modern Depiction of Ireland, One of the British Isles gan Abraham Ortelius fel "Brey"[5]. Prynodd Iarll Meath ystâd Kilruddery yn Bré ym 1618 i ddathlu ei ddyrchafiad i'r Iarllaeth[6]. Ym mis Awst neu fis Medi 1649 credir i Oliver Cromwell aros yn Bré ar ei ffordd i Loch Garman o Ddulyn. Yn ystod yr 17g a'r 18g, roedd Bré yn bentref maenorol bechan, ond yn ystod rhan olaf y 18g dechreuodd dosbarth canol Dulyn symud i dre.

Agorwyd Rheilffordd Dulyn a Kingstown, y rheilffordd gyntaf yn Iwerddon ym 1834, a chafodd ei ymestyn cyn belled â Bré ym 1854. Gyda dyfodiad y rheilffordd, tyfodd y dref i fod yn gyrchfan glan môr. Adeiladwyd gwestai a therasau preswyl yng nghyffiniau't traeth. Datblygodd y meistr rheilffyrdd, William Dargan, baddonau Twrcaidd am gost o £ 10,000; dymchwelwyd y rhain ym 1980. Parhaodd y dref i ffynnu yn dilyn Annibyniaeth, ond bu diffyg ymwelwyr o achos anawsterau teithio yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn rhwystr dros dro i ddatblygiad economaidd y dref. Yn ystod y 1950au, dychwelodd twristiaid o'r Deyrnas Unedig i'r dref mewn niferoedd sylweddol.

Twristiaeth golygu

Mae Bré wedi ei hen sefydlu fel cyrchfan gwyliau gyda dewis eang o westai a thai ymwelwyr, siopau, bwytai ac adloniant gyda'r nos. Mae'r dref hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau blynyddol.

Yng nghyffiniau'r dref mae dau gwrs golff 18 twll, un clwb tennis, llefydd i bysgota, clwb hwylio a chyfleusterau marchogaeth. Mae gan y dref traeth o dywod a graean bras sydd dros 1.6 km (0.99 milltir) o hyd, gyda rhodfa ar ei hyd. Mae gan Ceann Bhré, sy'n codi (241 m (791 troedfedd)) o'r arfordir, olygfeydd o fôr a mynydd. Codwyd croes o goncrid ar ben y pentir ym 1950.

Mae Bré yn cael ei ddefnyddio fel canolfan i gerddwyr, ac mae ganddi bromenâd hir sy'n ymestyn o'r harbwr i ganol Ceann Bhré yn y pen deheuol. Mae trac yn arwain at gopa Ceann Bhré.

Gwyliau a digwyddiadau golygu

Cynhelir Carnifal a Gorymdaith Sant Padrig Bré gan Siambr Masnach Bré a'r Cyffiniau i ddathlu'r ŵyl nawddsant cenedlaethol, mae'n ŵyl bum niwrnod o ddigwyddiadau carnifal, gorymdeithiau, adloniant byw a dathliadau crefyddol.

Mae Bré yn cynnal gŵyl ffilm disian flynyddol, Gŵyl Ffilm Killruddery, yng Ngerddi Killruddery.

Cynhelir Gŵyl Jazz Bré yn flynyddol ar benwythnos gŵyl banc Mai, ac mae'n cynnwys perfformiadau gan artistiaid jazz ac artistiaid cerddoriaeth y byd.

Cynhelir y Bré Summerfest blynyddol dros chwe wythnos ym mis Gorffennaf a mis Awst, ac mae'n cynnwys adloniant, cerddoriaeth fyw, marchnadoedd, digwyddiadau chwaraeon a charnifalau rhad ac am ddim. Mae cyn perfformwyr yr ŵyl wedi cynnwys Mundy, Brian Kennedy, yr Undertones, y Hothouse Flowers a Mary Black.

Diwylliant golygu

Yr Iaith Wyddeleg golygu

Yn ôl cyfrifiad 2016 roedd 10,786 o bobl Bré, dros 3 mlwydd oed, yn gallu rhywfaint o'r Iaith Wyddeleg, dyma dabl o amlder eu defnydd o'u gallu ieithyddol yn ôl cyfrifiad 2016[7]

Amlder siarad Gwyddeleg Cyfanswm
Yn siarad Gwyddeleg yn ddyddiol o fewn y system addysg yn unig 3,428
Yn siarad Gwyddeleg yn ddyddiol o fewn y system addysg ac yn ddyddiol y tu allan i'r system addysg 163
Yn siarad Gwyddelig bob dydd o fewn y system addysg ac yn wythnosoly tu allan i'r system addysg 41
Yn siarad Gwyddeleg yn ddyddiol o fewn y system addysg ac yn llai aml y tu allan i'r system addysg 33
Yn siarad Gwyddeleg yn ddyddiol o fewn y system addysg a byth y tu allan i'r system addysg 24
Yn siarad Gwyddeleg bob dydd y tu allan i'r system addysg yn unig 321
Yn siarad Gwyddeleg yn wythnosol y tu allan i'r system addysg yn unig 634
Yn siarad Gwyddeleg yn llai aml nag wythnosol y tu allan i'r system addysg yn unig 3,447
Byth yn Siarad Gwyddeleg 2,613
Dim ymateb 82
Pob Siaradwr Gwyddeleg 10,786

Celf golygu

Mae canolfan gelfyddydau dynodedig, nifer o orielau, lleoliadau sy'n cynnal cerddoriaeth fyw a pherfformiad ac amrywiaeth o grwpiau celfyddydol sy'n gweithredu yn y gymuned. Agorodd Canolfan Gelfyddydau'r Mermaid yn 2002 fel rhan o ddatblygiad swyddfeydd dinesig St. Cronan oddi ar Main Street. Mae gan y ganolfan eisteddle i 250 o bobl cael mwynhau cerddoriaeth fyw, theatr, perfformiadau a sinema arthouse. Mae oriel ar y llawr uchaf yn cynnwys celf weledol gyfoes ac ardal stiwdio. Mae caffi hefyd ar y llawr isaf.

Sefydlwyd Canolfan Signal Arts ym 1990 gan ddarparu oriel a lle stiwdio ar gyfer artistiaid lleol. Mae'n gweithredu o dan reolaeth criw o wirfoddol ac mae'n cynnal calendr o arddangosfeydd gan grwpiau ac unigolion. Fe'i lleolir ar Albert Avenue ger y traeth.

Sefydlwyd Grŵp Celfyddydau Bré ym 1996 i gefnogi ac arddangos talent leol ar draws y sbectrwm celfyddydol. Mae ei ddigwyddiad misol yng Ngwesty'r Martello ar Strand Road yn cyflwyno cerddoriaeth, llenyddiaeth, dawns a chelfyddydau gweledol. Mae'r grŵp yn cyhoeddi cylchgrawn misol sydd ar gael ar-lein.

Ffilm golygu

Mae Bray yn gartref i stiwdios ffilm hynaf Iwerddon, Ardmore Studios, a sefydlwyd ym 1958, lle mae ffilmiau fel Excalibur, Braveheart a Breakfast on Pluto wedi cael eu saethu. Ffilmiwyd y ffilm cowboi glasurol Custer's Last Stand yn Bré .

Cyfryngau golygu

Mae'r papur newydd Bray People yn canolbwyntio ar newyddion y fro. Mae Gorsaf Radio FM East Coast hefyd a phresenoldeb yn yr ardal.

Pobl Bré golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
  2. Visit Wiklow - Bray adalwyd 13 Rhagfyr 2017
  3. Bré yn wikisource Encyclopedia Britannica 1911 adalwyd 13 Rhagfyr 2017
  4. "Twinned with Dublin". bray.ie. 2017. Cyrchwyd 19 Mai 2017.
  5. A Modern Depiction of Ireland, One of the British Isles adalwyd 13 Rhagfyr 2017
  6. Gwefan Killruddery House and Gardens Archifwyd 2017-12-21 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 13 Rhagfyr 2017
  7. Census 2016 Sapmap Area: Settlements Bray Archifwyd 2017-07-30 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 13 Rhagfyr 2017
  8. "Maria Doyle Kennedy Biography". Hollywood.com. Cyrchwyd 2015-11-21.