Dydd Miwsig Cymru

dathliad ac hyrwyddiad o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg

Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddiwrnod arbennig a gynhelir yn flynyddol er mwyn hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg. Cynhaliwyd y DMC gyntaf yn 2016.[1][2] Gellid dadlau y byddai 'Dydd Miwsig Cymraeg' yn fwy penodol.

Dydd Miwsig Cymru
Math
gŵyl gerddoriaeth
Sefydlwyd2013
Gwefanhttps://llyw.cymru/dydd-miwsig-cymru, https://gov.wales/welsh-language-music-day Edit this on Wikidata
Logo Dydd Miwsig Cymru, 2016 - cyfredol
Dydd Miwsig Cymru 2017 yn y Castle Emporium, Stryd y Fuwch Goch (Stryd Womanby), Caerdydd

Cefnogaeth golygu

Cefnogir ac ariannir nifer o ddigwyddiadau'r Diwrnod gan Uned yr Iaith Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru. Bwriad y diwrnod yw apelio at rychwant eang o chwaeth cerddoriaeth gyfoes gan ddangos bod pob fath o fiwsig ar gael yn yr iaith Gymraeg; cennad gwefan y Llywodraeth ar gyfer y diwrnod yw, "P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg."[3] Gwneir ymdrech i gyrraedd ac apelio at gynulleidfa neu gyfryngau Saesneg ei hiaith,[4][5] ac at ddysgwyr Cymraeg.[6]

Ymhlith y cyrff eraill sy'n rhan o'r trefnu a'r hyrwyddo mae: Mentrau Iaith Cymru, Sŵn, BBC Horizons, Forté Project, Clwb Ifor Bach a Big Fish Little Fish.[7]

Hanes golygu

Cynhaliwyd y Diwrnod gyntaf yn 2013. Ers hynny mae amrywiaeth eang iawn o artistiaid Cymraeg wedi bod yn rhan o'r dathliad gan gynnwys; Mellt, Gwenno Saunders, The Gentle Good, Chroma, Adwaith, Candelas, Meic Stevens, Los Blancos, ac Alffa.[8]

Un o brif symbylwyr y Diwrnod yw'r cyflwynydd a'r DJ, Huw Stephens bu'n cyflwyno ar BBC Radio 1. Mae'r digwyddiad yn gwneud ymdrech i gyflwyno gerddoriaeth Gymraeg yn y Saesneg.[9] Gwneir defnydd hefyd o sêr Cymraeg a Chymreig megis yr actor Rhys Ifans[10] a'r actores Ruth Jones[11]

Digwyddiadau golygu

Hyrwyddir y diwrnod mewn sawl ffordd:

  • Perfformiadau cerddorol a gigs byw, gan gynnwys mewn ysgolion megis Ysgol Glantaf, Caerdydd[12] Ysgol Gyfun Llanhari[13] a chanolfannau trefol a maelfeydd[14]
  • Llwytho a rhannu cerddoriaeth Gymraeg ar-lein a drwy ffrydio e.e. ar Spotify a hynny yn ôl chwaeth gerddorol neu ddiddordeb.[15]
  • Sgyrsiau, cyfweliadau a chyflwyniadau ar gerddoriaeth Gymraeg [16]
  • Caneuon a chyfweliadau ar y radio a'r teledu Cymraeg [17], gan aneulu at gyfryngau Saesneg eu hiaith [18] yn ogystal â Chymraeg.[19]
  • Gweithredu drwy rwydwaith Mentrau Iaith Cymru i drefnu gigs a digwyddiadau mewn ysgolion a chymunedau.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.youtube.com/watch?v=c_dIJfoM0C8
  2. "Poetry in motion - discover the language of Wales". 2 April 2013. Cyrchwyd 3 May 2019.
  3. https://llyw.cymru/dydd-miwsig-cymru
  4. https://www.youtube.com/watch?v=yuabXzcgzx8
  5. https://www.godisinthetvzine.co.uk/2019/02/08/playlist-dydd-miwsig-cymru-welsh-language-music-day-2019/
  6. https://dysgucymraeg.cymru/newyddion/dydd-miwsig-cymru/
  7. Mainwaring, Rachel (9 February 2018). "This is what's happening for Welsh Language Music Day". walesonline. Cyrchwyd 3 May 2019.
  8. Bartleet, Larry (1 February 2018). "How to celebrate Welsh Language Music Day 2018". NME (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 May 2019.
  9. https://www.youtube.com/watch?v=NHw-GmJGRpM
  10. https://www.youtube.com/watch?v=7l32UP5PoB4&list=PLo_vSnVxtcrBWKFFy-LbDzV4WAZGsAhxv&index=3
  11. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-03. Cyrchwyd 2021-09-03.
  12. https://www.youtube.com/watch?v=nXKXr-QDUbM
  13. https://www.youtube.com/watch?v=aMHlUF_1IDU&list=PLo_vSnVxtcrBWKFFy-LbDzV4WAZGsAhxv&index=10
  14. https://www.youtube.com/watch?v=caTMQ22W-PM&list=PLo_vSnVxtcrBWKFFy-LbDzV4WAZGsAhxv&index=1
  15. https://open.spotify.com/playlist/3eQWTVqtktAQ5ALltHFZcQ
  16. https://www.amam.cymru/miwsig/gwyl-dydd-miwsig-cymru-festival
  17. https://www.bbc.co.uk/programmes/m0002ctz
  18. https://www.youtube.com/watch?v=BlYLCAnZq9Q
  19. https://www.bbc.co.uk/programmes/articles/1H2VM7srjpXYkk2gkx6qJxz/5-ways-to-celebrate-dydd-miwsig-cymru-welsh-language-music-day-with-bbc-cymru-wales