Godfrey Morgan, Is-iarll 1af Tredegar

gwleidydd Cymreig

Roedd Godfrey Charles Morgan, Is-iarll 1af Tredegar (28 Ebrill 183111 Mawrth 1913) yn filwr Prydeinig, gwleidydd Cymreig ac aelod o bendefigaeth Prydain. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Frycheiniog rhwng 1858 a 1875.[1]

Godfrey Morgan, Is-iarll 1af Tredegar
Ganwyd28 Ebrill 1831 Edit this on Wikidata
Castell Rhiwperra Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 1913 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadCharles Morgan Robinson Morgan Edit this on Wikidata
MamRosamund Mundy Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Morgan yng Nghastell Rhiwpera Machen Isaf yn ail fab i Charles Morgan Robinson Morgan, Barwn 1af Tredegar a’i wraig Rosamund, merch y Cadfridog Godfrey Basil Mundy. Roedd yn frawd i’r Aelodau Seneddol Charles Rodney Morgan a Frederick Courtenay Morgan

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton gan adael yr ysgol ym 1848 i ymuno a’r fyddin.

Ni fu’n briod. Cyn mynd i ymladd yn y Crimea roedd Morgan wedi dyweddïo, ond priododd ei gariad dyn arall yn ei absenoldeb.

Gyrfa filwrol golygu

Ym 1849 comisiynwyd Morgan i 17eg catrawd y Gwaywyr. Dyrchafwyd ef yn is-gapten ym 1850 ac yn gapten ym 1853.

Bu’n ymladd yn Rhyfel y Crimea gan chware rhan yn Hyrddiad y Frigâd Ysgafn ym Mrwydr Balaklava ar 28 Hydref 1854[2]. Ef oedd un o’r unig ddau swyddog o’i gatrawd i ddychwelyd o’r hyrddiad heb anaf corfforol. Wedi’r hyrddiad aeth yn sâl ac fe’i danfonwyd i ysbyty Scutari, Istanbul cyn cael ei ryddhau o’r fyddin ym mis Ionawr 1855. Mewn llythyr i’w fam mae’n beio’r salwch ar olygfeydd brawychus o laddfa a thywallt gwaed[1].

Gwasanaethodd fel Uwchgapten Iwmyn Brenhinol Sir Gaerloyw, Cyrnol anrhydeddus Peirianyddion Brenhinol Sir Fynwy a llywydd Cymdeithas Byddin Diriogaethol Sir Fynwy.

Gyrfa sifil golygu

Roedd Morgan yn gadeirydd Cwmni Dociau Alexandra Casnewydd [3] ac yn gadeirydd siambr fasnach y dref. Ar farwolaeth ei dad, etifeddodd ystâd a buddiannau diwydiannol a masnachol sylweddol. Bu yn hael gyda rhoddion o’i dir i achosion crefyddol a dyngarol. Ymysg ei rhoddion mwyaf sylweddol bu safleoedd Prifysgol Caerdydd [4]; Ysbyty Brenhinol Gwent, Casnewydd a thiroedd athletau Casnewydd.

Bu’n ynad heddwch ar feinciau Siroedd Brycheiniog Mynwy a Morgannwg [5]

Cymerodd ddiddordeb mewn hyrwyddo dulliau amaethyddol newydd, gan noddi â sioe amaethyddol Tredegar a bridio anifeiliaid a cheffylau gwedd ym Mharc Tredegar. Bu'n llywydd Clwb Smithfield, Cymdeithas Amaethyddol Caerfaddon a’r Gorllewin, y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol, y Gymdeithas Ceffylau Gwedd a’r Gymdeithas Ceffylau Hacni.

Yn ddiweddarach, fe ddatblygodd ddiddordeb mewn archeoleg a hynafiaethau, gan wasanaethu fel llywydd Cymdeithas Archeolegol y Cambrian. Bu’n llywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymrodorion [6].

Gyrfa wleidyddol golygu

Ar farwolaeth Syr Joseph Bailey ym 1858 etholwyd Morgan yn AS ceidwadol etholaeth Sir Frycheiniog mewn is etholiad[7]. Llwyddodd i gadw'r sedd hyd 1875 pan olynodd ei ddiweddar dad i Dŷ’r Arglwyddi fel ail Farwn Tredegar ym 1875. Ym mis Rhagfyr 1905 fe’i dyrchafwyd yn Is-iarll.

Gwasanaethodd fel Siryf Sir Fynwy ym 1858 ac Arglwydd Raglaw Sir Fynwy o 1899 hyd ei farwolaeth. Fe’i hetholwyd fel cynghorydd ac fel henadur i Gyngor Sir Fynwy gan wasanaethu fel cadeirydd y cyngor 1902-1903.

Roedd yn Rhyddfreiniwr bwrdeistrefi Caerdydd a Chasnewydd [8].

Marwolaeth golygu

Bu farw o’r ffliw yn ei gartref Tŷ Tredegar, Casnewydd yn 81 mlwydd oed orwedd ym meddgor y teulu yn Eglwys Basaleg. Gan iddo farw yn ddibriod daeth yr is-iarllaeth i ben. Fe’i holynwyd i’r farwniaeth gan ei nai Courtney Charles Evan Morgan [9] (a grëwyd yn is-iarll 1af Tredegar, o’r ail greadigaeth, ym 1926)[10]

Dadorchuddiwyd cerflun o Is-iarll Tredegar ym 1909 yng Ngerddi'r Orsedd, Parc Cathays, Caerdydd. Y cerflunydd oedd Syr William Goscombe John [11].

Cyhoeddiadau golygu

Godfrey Charles Morgan The Wit and wisdom of Lord Tredegar Cyhoeddwyd 1911 Western Mail, Caerdydd[12]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Chris Williams, ‘Morgan, Godfrey Charles, Viscount Tredegar (1831–1913)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, May 2011, adalwyd 28 Awst 2017
  2. TREDEGAR’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014, adalwyd 28 Awst 2017
  3. "ALEXANDRA DOCKS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-02-17. Cyrchwyd 2017-08-28.
  4. "LordTredegarsGift - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-06-01. Cyrchwyd 2017-08-28.
  5. "The Late Viscount Tredegar - The Brecon County Times Neath Gazette and General Advertiser for the Counties of Brecon Carmarthen Radnor Monmouth Glamorgan Cardigan Montgomery Hereford". William Henry Clark. 1913-03-13. Cyrchwyd 2017-08-28.
  6. "SCOEITY OF CYMMRODORION - Welsh Gazette and West Wales Advertiser". George Rees. 1906-11-29. Cyrchwyd 2017-08-28.
  7. Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the Principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 28 Awst 2017
  8. "Viscount Tredegar a Freeman of Newport - Abergavenny Chronicle". Abergavenny Chronicle Ltd. 1909-06-11. Cyrchwyd 2017-08-28.
  9. "Tredegar Family Honours - The Brecon County Times Neath Gazette and General Advertiser for the Counties of Brecon Carmarthen Radnor Monmouth Glamorgan Cardigan Montgomery Hereford". William Henry Clark. 1913-07-17. Cyrchwyd 2017-08-28.
  10. Y Bywgraffiadur ‘’ MORGAN (TEULU), Tredegar Park, etc., sir Fynwy adalwyd 28 Awst 2017
  11. "THE UNVEILING CEREMONY - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1909-10-30. Cyrchwyd 2017-08-28.
  12. archive org Godfrey Charles Morgan The Wit and wisdom of Lord Tredegar''
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Joseph Bailey
Aelod Seneddol Sir Frycheiniog
1858-1875
Olynydd:
William Fuller-Maitland
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
Charles Morgan Robinson Morgan
Barwn Tredegar
18751913
Olynydd:
Courtney Charles Evan Morgan
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
Teitl newydd
Is-iarll Tredegar
19051913
Olynydd:
Diflanedig
(ail greu 1926)