Llawfrodedd Farfog

Arwr Brythonig oedd Llawfrodedd Farfog neu Llawfrodedd Farchog. Ychydig iawn a wyddys amdano ond ceir sawl cyfeiriad ato yn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol.

Llawfrodedd Farfog
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata

Yn ôl yr achau ym Mucheddau'r Saint, roedd Sant Idloes yn fab i Gwydnabi (Gwyddnau), mab Llawfrodedd Farfog. Sefydlodd Idloes eglwys Llanidloes, Powys. Mae ystyr yr enw 'Llawfrodedd' yn ansicr. Ar sail enghraifft - fel enw cyffredin efallai - yn nhestun Y Gododdin, cynigia Ifor Williams mai llaw yn yr hen ystyr 'bychan' yw'r elfen gyntaf tra bod ystyr yr ail elfen brodedd yn llai sicr; bachigyn o'r gair brawd ('barn') efallai.[1]

Yn y testun Cymraeg Canol wrth y teitl Tri Thlws ar Ddeg Ynys Prydain, nodir:

Cyllell Llawfrodedd Farchog, yr hon a wasanaethai i bedwar gŵr ar hugain i fwyta ar fwrdd.[2]

Gan fod yr arwyr eraill a restrir yno i gyd yn cael eu cysylltu â'r Hen Ogledd, mae'n debyg mai un o 'Wŷr y Gogledd' oedd Llawfrodedd hefyd, ond does dim sicrwydd am hynny. Dyma'r unig ffynhonnell sy'n ei alw yn 'Llawfrodedd Farchog' hefyd.

Rhestrir Llawfrodedd mewn un o Drioedd Ynys Prydain fel perchennog un o 'Dair Prif Fuwch Ynys Prydain', sef 'Cornillo'. Maelgwn Gwynedd ac Eliffer Gosgorddfawr piau'r buchod eraill.[3] Dylid cofio pwysigrwydd gwartheg yn niwylliant y Celtiaid, fel arwydd o statws a chyfoeth, er enghraifft.

Cyfeirir at Lawfrodedd yn y chwedl gynnar Culhwch ac Olwen fel un o arwyr llys y Brenin Arthur ac yn y chwedl fwrlesg ddiweddarach Breuddwyd Rhonabwy, eto mewn cyd-destun Arthuraidd. Ceir enghreifftiau o'r gair llawfrodedd mewn cerddi gan ddau o'r Gogynfeirdd diweddar, Gruffudd ap Maredudd a Gwilym Ddu, ond mae'n bosibl mai ansoddair ydyw yma yn hytrach nag enw personol.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Ifor Williams (gol.), Canu Aneirin (Caerdydd, 1938), tud. 286.
  2. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; arg. newydd 1991), Atodiad III.
  3. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; arg. newydd 1991), tud. 119.
  4. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978; arg. newydd 1991), tud. 418-19.