Ardal Eden

ardal an-fetropolitan yn Cumbria

Ardal an-fetropolitan yn nwyrain Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, oedd Ardal Eden (Saesneg: Eden District). Fe'i enwyd ar ôl Afon Eden sy'n llifo i'r gogledd drwy'r ardal tuag at Gaerliwelydd. Roedd yn cynnwys trefi Alston, Appleby-in-Westmorland, Kirkby Stephen a Penrith. Pencadlys yr awdurdod oedd Penrith.

Ardal Eden
Mathardal an-fetropolitan Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Eden Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolCumbria
PrifddinasPenrith Edit this on Wikidata
Poblogaeth52,881 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd2,142.371 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr139 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSwydd Durham, Northumberland, Tynedale, Dinas Caerliwelydd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.6667°N 2.7544°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000030 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Eden District Council Edit this on Wikidata
Map
Ardal Eden yn Cumbria

Roedd gan yr ardal arwynebedd o 2,142 km² (yr ardal awrdurdod lleol wythfed fwyaf yn Lloegr), gyda 52,779 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2017.[1]

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Fe'i ddiddymwyd ar 1 Ebrill 2023 pan gafodd ei chyfuno â Bwrdeistref Barrow-in-Furness ac Ardal De Lakeland i greu awdurdod unedol newydd Westmorland a Furness.

Cyfeiriadau

golygu
  1. City Population; adalwyd 21 Medi 2018
  Eginyn erthygl sydd uchod am Cumbria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato