Ardal yr ewro

(Ailgyfeiriad o Ardal Ewro)

Undeb ariannol yw ardal yr ewro neu'r Ewrodir[1] sy'n cynnwys 20 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd sy'n defnyddio'r ewro (€) fel arian cyfred. Mae Banc Canolog Ewrop yn gyfrifol am bolisi ariannol yn ardal yr ewro.

Ardal yr ewro
Math o gyfrwngUndeb ariannol Edit this on Wikidata
Poblogaeth341,465,149, 340,617,355, 174,068,365, 167,396,784 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Ionawr 1999 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysGwlad Belg, yr Almaen, Estonia, Y Ffindir, Ffrainc, Gwlad Groeg, Gweriniaeth Iwerddon, yr Eidal, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Yr Iseldiroedd, Awstria, Portiwgal, Slofacia, Slofenia, Sbaen, Cyprus, Latfia, Croatia Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://ec.europa.eu/info/business-economy-euro/euro-area_en Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae 20 o wledydd yn ardal yr ewro, sef yr Almaen, Awstria, Croatia, Cyprus, Gwlad Belg, yr Eidal (ac eithrio Campione d'Italia), Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Gwlad Groeg, yr Iseldiroedd, Gweriniaeth Iwerddon, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Portiwgal, Sbaen, Slofacia, a Slofenia.

Defnyddir yr ewro hefyd yn Andorra, Kosovo, Monaco, Montenegro, San Marino a'r Fatican. Yr wyth gwlad yn yr UE nad yw'n defnyddio'r ewro yw Bwlgaria, Denmarc, Hwngari, Gwlad Pwyl, Rwmania, Sweden, a Tsiecia.

     Ardal yr Ewro      Aelodau'r UE sydd am ymuno ag Ardal yr Ewro ar 1 Ionawr 2009      Aelodau'r UE sydd i ymuno ag Ardal yr Ewro yn ôl Cytundeb Maastricht      Aelodau'r UE sydd â lled-ddirymiad ar gyfranogiad i Ardal yr EwroDangosir taleithiau/tiriogaethau tu allan i'r UE sy'n defnyddio'r Ewro gyda deoriad glas

Cyfeiriadau

golygu
  1. Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1715 [481].